Talu’r Doll Peiriannau Hapchwarae
 cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein
Gallwch dalu ar-lein.
Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Ni fydd ffi yn cael ei chodi os byddwch yn talu â cherdyn debyd personol.
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD) wrth wneud taliad. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.
Bydd hwn i’w weld ar:
- eich cyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF)
- y Dystysgrif Cofrestru MGD a anfonwyd atoch gan CThEF
Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu â’r adran ymholiadau am dollau hapchwarae (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau), nid y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif.
Os na allwch dalu’ch bil Toll Peiriannau Hapchwarae yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull arall o dalu fel trosglwyddiad o’ch banc.