Talu’r Doll Peiriannau Hapchwarae
Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Dim ond os ydych yn cyflwyno datganiad MGD ar bapur y gallwch dalu’r Doll Peiriannau Hapchwarae (MGD) yn eich banc neu gymdeithas adeiladu.
Defnyddiwch y slip talu y mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi’i anfon atoch.
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘HM Revenue and Customs only’.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD) ar gefn y siec. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Bydd y cyfeirnod talu i’w weld ar y slip talu.
Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu â’r adran ymholiadau am dollau hapchwarae (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (os ydych yn ei dalu o ddydd Llun i ddydd Gwener), nid ar y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif.
Talwch ar-lein os ydych am dalu gyda cherdyn debyd neu gerdyn gredyd.