Trosolwg

Rhaid i chi gyflwyno’ch datganiad Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD) a gwneud taliad cyn pen 30 diwrnod ar ôl diwedd eich cyfnod cyfrifyddu. Cyfnod o 3 mis yw’r cyfnod cyfrifyddu, oni bai bod gennych gytundeb â Chyllid a Thollau EF (CThEF) i ddefnyddio cyfnod cyfrifyddu gwahanol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno’ch datganiad a bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny, oni bai’ch bod yn gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn (Taliadau Cyflymach) neu dalu drwy gerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein.

Talu nawr

Dulliau o dalu

Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu CThEF erbyn y dyddiad cau. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb a llog os ydych yn talu’n hwyr.

Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.

Ni allwch dalu yn Swyddfa’r Post mwyach.

Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf

3 diwrnod gwaith

5 diwrnod gwaith

  • Debyd Uniongyrchol – os ydych yn gwneud taliad unigol ac nid ydych wedi sefydlu Debyd Uniongyrchol gyda CThEF yn flaenorol

10 diwrnod gwaith cyn i chi gyflwyno’ch datganiad cyntaf

  • Debyd Uniongyrchol – os ydych yn trefnu taliad awtomatig (a elwir yn ‘cynllun taliadau newidiol’)

Cosbau am ddatganiadau hwyr

Codir cosb arnoch os byddwch yn methu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiadau.

Pryd y codir y cosb Cosb
1 diwrnod ar ôl y dyddiad cau Rhwng £100 a £400, yn dibynnu ar sawl datganiad hwyr rydych wedi’i gyflwyno’n flaenorol
6 mis ar ôl y dyddiad cau £300 neu 5% o’r MGD sy’n ddyledus (p’un bynnag sydd uchaf)
12 mis ar ôl y dyddiad cau £300 neu 5% o’r MGD sy’n ddyledus (p’un bynnag sydd uchaf)

Os ydych yn anghytuno â chosb

Os ydym wedi codi cosb arnoch ac rydych o’r farn ei bod yn anghywir, gallwch apelio ar CThEF.