Skip to main content

Talu â siec drwy’r post

Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.

CThEF
Direct
BX5 5BD

Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich taliad yn cyrraedd CThEF erbyn y dyddiad cau.

Yr hyn i’w gynnwys

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD) ar gefn y siec. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.

Bydd eich cyfeirnod talu Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD) i’w weld ar naill ai:

  • y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF, os ydych yn cyflwyno datganiad papur
  • eich cyfrif ar-lein CThEF, os ydych yn cyflwyno’ch datganiad ar-lein

Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei oedi os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.

Os ydych yn cyflwyno datganiad papur, anfonwch eich slip talu ynghyd â’ch siec.

Os ydych yn cyflwyno ar-lein, anfonwch lythyr sy’n cynnwys y canlynol:

  • eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn
  • eich cyfeirnod talu Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD)
  • y swm yr ydych yn ei dalu

Peidiwch â phlygu na rhoi staplen yn eich siec.