Rhoi gwybod i CThEF nad oes toll yn ddyledus

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch datganiad hyd yn oed os ydych yn cyfrifo nad oes arnoch Doll Peiriannau Hapchwarae (MGD). Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os na wnewch hynny.

Os oes arnoch swm negyddol (hynny yw, rydych wedi talu mwy allan mewn enillion na’r hyn rydych wedi ei gael mewn costau chwarae), caiff ei ddwyn ymlaen i’ch datganiad nesaf a’i didynnu o’r swm MGD sy’n ddyledus.