Cymhwyster

Efallai byddwch yn cael Taliadau Tywydd Oer os ydych yn cael:

  • Credyd Pensiwn
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Credyd Cynhwysol
  • Cymorth ar gyfer Llog Morgais

Os ydych yn byw yn Yr Alban, ni allwch gael Taliad Tywydd Oer. Efallai byddwch yn cael Winter Heating Payment yn lle.

Credyd Pensiwn

Fel arfer, byddwch yn cael Taliadau Tywydd Oer os ydych yn cael Credyd Pensiwn.

Cymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)

Fel arfer, byddwch yn cael Taliad Tywydd Oer os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) yn seiliedig ar incwm ac yn cael unrhyw un o’r canlynol:

  • premiwm anabledd neu bensiynwr
  • plentyn sy’n anabl
  • Credyd Treth Plant sy’n cynnwys elfen anabledd neu anabledd difrifol
  • plentyn o dan 5 oed sy’n byw gyda chi

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn seiliedig ar incwm

Fel arfer, byddwch yn cael Taliad Tywydd Oer os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm ac rydych mewn grŵp gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith neu’r grŵp cymorth. Os nad ydych yn y naill grŵp neu’r llall, efallai y byddwch hefyd yn cael Taliadau Tywydd Oer os ydych yn cael unrhyw un o’r canlynol:

  • premiwm anabledd difrifol neu uwch
  • premiwm pensiynwr
  • plentyn sy’n anabl
  • Credyd Treth Plant sy’n cynnwys elfen anabledd neu anabledd difrifol
  • plentyn o dan 5 oed sy’n byw gyda chi

Credyd Cynhwysol

Fel arfer, byddwch yn cael Taliad Tywydd Oer os ydych yn cael Credyd Cynhwysol ac:

  • nid ydych yn gyflogedig neu’n ‘hunangyflogedig â thâl’
  • nid yw eich partner yn gyflogedig neu’n ‘hunangyflogedig â thâl’ (os oes gennych bartner)

Rydych yn debygol o gael eich ystyried i fod yn ‘hunangyflogedig â thâl’ os mai bod yn hunangyflogedig yw eich prif swydd, rydych yn gweithio’n rheolaidd ac yn disgwyl gwneud elw.

Mae’n rhaid i un o’r canlynol hefyd fod yn berthnasol:

  • mae gennych chi neu’ch partner gyflwr iechyd neu anabledd ac mae gennych allu cyfyngedig i weithio (gyda neu heb swm sy’n gysylltiedig â gweithgaredd gwaith)
  • mae gennych blentyn o dan 5 oed yn byw gyda chi

Byddwch hefyd yn gymwys os oes gennych swm plentyn anabl yn eich cais. Nid oes ots os ydych chi neu’ch partner yn gyflogedig, yn hunangyflogedig neu nad ydych yn gweithio.

Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI)

Fel arfer, byddwch yn cael Taliad Tywydd Oer os ydych yn cael Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI) ac yn cael eich trin fel eich bod yn cael budd-dal cymhwyso ble mae un o’r canlynol yn berthnasol:

  • premiwm anabledd difrifol neu uwch
  • premiwm pensiynwr
  • mae gennych blentyn sy’n anabl
  • rydych yn cael Credyd Treth Plant sy’n cynnwys elfen anabledd neu anabledd difrifol
  • mae gennych blentyn o dan 5 oed sy’n byw gyda chi

Rydych fel arfer yn cael eich trin fel eich bod yn cael budd-dal cymhwyso os ydych yn gwneud cais amdano ond nad ydych yn ei dderbyn oherwydd bod eich incwm yn rhy uchel.