Taliad Tywydd Oer
Pryd byddwch yn cael eich talu
Os ydych yn gymwys i gael Taliadau Tywydd Oer, byddwch yn cael £25 ar gyfer pob cyfnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd 2026 a 31 Mawrth 2027.
Mar cynllun Taliad Tanwydd Gaeaf 2025 i 2026 nawr wedi dod i ben. Bydd cynllun 2026 i 2027 yn dechrau ar 1 Tachwedd 2026. Gallwch wirio a oes taliad yn ddyledus yn eich ardal ym mis Tachwedd 2026.
Ar ôl pob cyfnod o dywydd oer iawn yn eich ardal, dylech gael taliad o fewn 14 diwrnod gwaith. Telir i mewn i’r un cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu â’ch taliadau budd-dal.
Os na fyddwch yn cael eich Taliad Tywydd Oer
Dywedwch wrth y [Gwasanaeth Pensiwn](/cysylltwch-gwasanaeth-pensiwn neu swyddfa Canolfan Byd Gwaith os credwch y dylech fod wedi cael Taliad Tywydd Oer ond nad ydych wedi ei gael.
Os ydych chi’n cael Credyd Cynhwysol, mewngofnodi i’ch cyfrif ac ychwanegwch nodyn at eich dyddlyfr.
Os nad oes gennych gyfrif ar-lein, ffoniwch y llinell gymorth Credyd Cynhwysol yn lle hynny. Mae’r rhif ffôn ar lythyrau am eich cais Credyd Cynhwysol.