Skip to main content

Rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os ydych wedi rhoi’r gorau i fod yn unig fasnachwr neu os ydych yn dod â phartneriaeth fusnes i ben neu’n gadael partneriaeth fusnes.

Bydd angen i chi anfon Ffurflen Dreth derfynol atom hefyd.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Sut i roi gwybod i CThEF

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein hwn i roi gwybod i CThEF eich bod wedi rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i roi gwybod i CThEF nad oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad mwyach.

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch eu creu pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.

Rhowch wybod i CThEF eich bod wedi rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig.

Os ydych yn asiant

Rhowch wybod i CThEF bod eich cleient wedi rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig drwy un o’r dulliau canlynol:

Os byddwch yn ennill £1,000 neu lai yn y flwyddyn dreth hon

Nid oes angen i chi fod wedi cofrestru fel unigolyn hunangyflogedig os ydych yn ennill £1,000 neu lai mewn blwyddyn dreth fel unig fasnachwr.

Ond, gallwch ddewis aros yn gofrestredig i wneud y canlynol:

  • profi eich bod yn hunangyflogedig, er enghraifft, i hawlio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth

  • gwneud taliadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol

Os penderfynwch roi’r gorau i fod yn hunangyflogedig oherwydd byddwch yn ennill £1,000 neu lai, rhowch wybod i CThEF ar ôl diwedd y flwyddyn dreth ddiwethaf yr oeddech yn hunangyflogedig.

Er enghraifft, pe baech yn penderfynu rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig ar 3 Mawrth 2026, byddech yn rhoi gwybod i CThEF ar ôl 5 Ebrill 2026.

Anfon Ffurflen Dreth

Mae’n rhaid i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad cyn y dyddiad cau os ydych yn rhoi’r gorau i fasnachu fel unig fasnachwr neu os ydych yn gadael partneriaeth fusnes.

Pan fyddwch yn anfon y Ffurflen Dreth Hunanasesiad, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • cyfrifo’ch incwm masnachu

  • adio’ch treuliau caniataol - mae’n bosibl y bydd hyn yn cynnwys rhai o’r costau sy’n gysylltiedig â chau eich busnes, er enghraifft costau ffôn, rhyngrwyd a chostau postio er mwyn rhoi gwybod i bobl

  • cyfrifo’ch lwfans cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys unrhyw gostau mantoli os ydych wedi gwerthu offer neu beiriannau’r busnes

  • cyfrifo a oes arnoch chi Dreth Enillion Cyfalaf ar unrhyw asedion rydych wedi’u gwerthu neu wedi’u ‘gwaredu’

  • cyfrifo’ch elw neu eich colled derfynol

Os yw eich partneriaeth fusnes yn dod i ben, dylai’r partner enwebedig hefyd anfon Ffurflen Dreth Partneriaeth derfynol erbyn y dyddiad cau.

Gallwch gyflogi rhywun proffesiynol (er enghraifft, cyfrifydd) os oes angen help arnoch gyda’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Gwiriwch a allwch hawlio rhyddhad treth

Efallai y byddwch yn gallu lleihau eich bil treth terfynol drwy hawlio:

  • Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg) - gall hyn leihau faint o Dreth Enillion Cyfalaf y mae’n rhaid i chi ei thalu

  • rhyddhad gorgyffwrdd - gall hyn eich atal rhag cael eich trethu ddwywaith ar eich elw pan fyddwch yn rhoi’r gorau i fasnachu yn ystod blwyddyn dreth

  • rhyddhad colled terfynol - gall hyn wrthbwyso colled a wnaed yn eich blwyddyn dreth ddiwethaf yn erbyn eich elw yn y 3 blwyddyn dreth flaenorol

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ryddhad gorgyffwrdd a rhyddhad colled terfynol (yn agor tudalen Saesneg).

Mae rhyddhadau eraill i leihau swm y Dreth Enillion Cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg) y mae’n bosibl y gallwch eu hawlio.

Canslo’ch cofrestriad TAW

Bydd yn rhaid i chi ganslo’ch cofrestriad TAW os ydych chi neu’ch partneriaeth wedi cofrestru.

Os ydych yn cyflogi pobl

Mae angen i chi gau eich cynllun TWE ac anfon adroddiadau cyflogres terfynol at CThEF os ydych yn rhoi’r gorau i gyflogi staff.

Os ydych yn ansolfent

Fel arfer, byddwch yn agored yn bersonol i ddyledion eich busnes. Gall eich credydwyr fynd â chi i’r llys neu eich gwneud yn fethdalwr os na fyddwch yn talu.

Mae’n bosibl y gallwch ddod o hyd i ddewis arall, er enghraifft Trefniant Gwirfoddol Unigol (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych chi yn Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)

Mae’n rhaid i chi ffonio’r Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF (yn agor tudalen Saesneg) cyn gynted â phosibl os ydych wedi cofrestru ac yn rhoi’r gorau i fasnachu fel contractwr neu is-gontractwr.