Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

I weld a oes Treth Etifeddiant i’w thalu, mae angen i chi brisio arian, eiddo a meddiannau (‘ystâd’) y person a fu farw.

Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn gwneud cais am brofiant (os yw’n berthnasol).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Bydd angen i chi gwblhau 3 prif dasg pan fyddwch yn prisio’r ystâd.

  1. Nodi asedion a dyledion y person megis cynilion, buddsoddiadau, morgeisi a benthyciadau.

  2. Amcangyfrif gwerth yr ystâd. Bydd hyn yn effeithio ar sut yr ydych yn rhoi gwybod am y gwerth, a’r dyddiadau cau ar gyfer rhoi gwybod am, a thalu, unrhyw Dreth Etifeddiant. Nid yw’r rhan fwyaf o ystadau’n cael eu trethu.

  3. Rhoi gwybod am werth yr ystâd – os a sut rydych yn gwneud hyn yn dibynnu a oes angen i chi anfon manylion llawn am yr ystâd a’i gwerth.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Mae prisio ystâd yn gallu cymryd sawl mis, ond mae’n gallu cymryd mwy o amser os yw’n ystâd fawr neu gymhleth (er enghraifft, os yw’n ymwneud ag ymddiriedolaethau neu os oes treth i’w thalu).

Dyddiadau cau

Os oes Treth Etifeddiant yn ddyledus gan yr ystâd, mae’n rhaid i chi roi gwybod am ei gwerth cyn pen blwyddyn gan ddefnyddio ffurflen IHT400. Ni allwch wneud cais am brofiant hyd nes eich bod wedi gwneud hyn.

Fel arfer, bydd yn rhaid i chi ddechrau talu Treth Etifeddiant cyn i brofiant gael ei ganiatáu.

Mae’n rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant erbyn diwedd y chweched mis ar ôl i’r person farw er mwyn osgoi talu llog.

Cael help

Gallwch gyflogi rhywun proffesiynol (er enghraifft cyfreithiwr) i helpu gyda rhai neu bob un o’r tasgau sy’n gysylltiedig â phrisio ystâd.

Mae gwefan Helpwr Arian yn rhoi arweiniad ynghylch sut a phryd i gyflogi rhywun proffesiynol. Mae gwefan Law Donut yn rhoi cyngor ynghylch cadw ffioedd cyfreithwyr i lawr.