Newid enw plentyn

I newid enw plentyn sydd dan 18 oed gallwch naill ai:

  • wneud gweithred newid enw anghofrestredig drwy ddefnyddio asiantaeth gweithred newid enw arbenigol neu gyfreithiwr
  • cofrestru gweithred newid enw gyda’r Uchel Lys

Os ydych chi’n 16 neu 17 oed gallwch ddewis gwneud eich gweithred newid enw anghofrestredig eich hun.

Efallai y bydd rhai sefydliadau (fel rhai banciau, cwmnïau ffonau symudol neu ddarparwyr ynni) ond yn derbyn gweithred newid enw cofrestredig i newid enw ar eu cofnodion. Cysylltwch â’r sefydliad i ddeall y math o weithred newid enw y byddant yn derbyn fel prawf o’r enw newydd.

Cofrestru gweithred newid enw

Gallwch roi enw newydd eich plentyn ar gofnod cyhoeddus drwy ei ‘gofrestru’ gyda’r Uchel Lys.

Gallwch gofrestru gweithred newid enw ar-lein neu drwy’r post. Mae’n costio £50.32.

Byddwch angen naill ai:

Dylech geisio dod i gytundeb cyn i chi wneud cais am orchymyn llys.

Bydd cofnod cyhoeddus o enw newydd eich plentyn yn cael ei gyhoeddi yn The Gazette. Os oes gennych reswm cryf pam na ddylid cyhoeddi manylion eich plentyn, eglurwch pam yn eich cais. Efallai y bydd y barnwr yn cytuno i gyhoeddi enw cyntaf neu gyfenw eich plentyn yn unig.

Fe anfonir copi o’r hysbysiad Gazette gydag enw eich plentyn wedi’i newid atoch drwy e-bost neu drwy’r post.

Os ydych yn 16 neu’n 17 oed ac os ydych wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil (neu os ydych wedi bod yn y gorffennol), bydd angen i chi gofrestru gweithred newid enw fel oedolyn yn lle hyn.

Cyn i chi wneud cais

Gallwch wneud cais os mai chi yw rhiant neu warcheidwad y plentyn.

Bydd angen i chi ddarparu copi o:

  • dystysgrif geni llawn y plentyn
  • dogfennau mabwysiadu (os cawsant eu mabwysiadu)

Efallai y bydd angen i chi hefyd ddarparu dogfennau am eich statws priodasol neu eich statws perthynas, gan gynnwys:

  • llungopi o’ch dyfarniad absoliwt neu orchymyn terfynol (os ydych wedi ysgaru)
  • tystysgrif marwolaeth eich gŵr, gwraig neu bartner (os ydych yn weddw)
  • copi o’ch tystysgrif priodas neu dystysgrif partneriaeth sifil (os yw eich cyfenw ar dystysgrif geni’r plentyn yn wahanol i’ch cyfenw presennol)
  • llythyr gan eich partner presennol yn dweud eu bod yn cytuno i newid enw’r plentyn (os ydych mewn perthynas neu briodas newydd)

Os nad yw eich dogfennau’n Gymraeg neu’n Saesneg, bydd angen i chi hefyd ddarparu cyfieithiad ardystiedig ohonynt.

Gwneud cais ar-lein

Byddwch angen cerdyn debyd neu gerdyn credyd i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Fe ddywedir wrthych sut i dalu ar ôl i chi gyflwyno eich cais.

Os yw eich plentyn yn 16 neu 17 oed, mae’n rhaid i chi gynnwys llythyr ganddynt gyda’r cais sy’n dweud eu bod yn cytuno i’w henw gael ei newid. Rhaid i’r llythyr:

  • gynnwys eu hen enw a’r enw newydd
  • gael ei dystio a’i lofnodi gan rywun sy’n 18 oed neu drosodd ac sydd ddim yn perthyn i’r plentyn

Dechrau nawr

Unwaith y byddwch wedi dechrau eich cais ar-lein, bydd gennych opsiwn i’w gadw a dychwelyd ato yn hwyrach ymlaen. Mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais o fewn 28 diwrnod neu bydd rhaid i chi ddechrau eto.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn adolygu eich cais ac yn anfon 4 ffurflen atoch drwy e-bost: LOC022, LOC023, LOC024 a LOC028. Bydd angen i chi argraffu a llenwi pob ffurflen. 

Mae angen llofnodi ffurflen LOC022 ym mhresenoldeb 2 dyst, a bydd angen iddyn nhw hefyd lofnodi’r ffurflen.

Rhaid i rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant lenwi ffurflen LOC023. 

Postiwch eich ffurflenni wedi’u llenwi i’r Swyddfa Gweithred Newid Enw.

Swyddfa Gweithred Newid Enw
Adran Mainc y Brenin
Ystafell E15
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL

Unwaith y bydd eich cais wedi’i gwblhau a’i gymeradwyo, bydd y Swyddfa Gweithred Newid Enw yn selio eich gweithred ac yn ei hanfon yn ôl atoch drwy’r post. Dyma eich prawf eich bod wedi newid eich enw.

Gwneud cais drwy’r post

Lawrlwythwch a llenwch y ffurflenni canlynol:

Bydd angen i chi lofnodi ffurflen LOC022 ym mhresenoldeb 2 dyst. Bydd angen i’ch tystion hefyd lofnodi ffurflen LOC022.

Rhaid i rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant lenwi ffurflen LOC023.

Postiwch eich ffurflenni i’r Swyddfa Gweithred Newid Enw.

Swyddfa Gweithred Newid Enw
Adran Mainc y Brenin
Ystafell E15
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL

Gwiriwch eich bod wedi llenwi eich ffurflenni’n gywir cyn i chi eu cyflwyno. Os bydd yna gamgymeriadau yn y ffurflenni byddant yn cael eu dychwelyd i chi.

Os yw eich plentyn yn 16 neu 17 oed, mae’n rhaid i chi gynnwys llythyr ganddynt gyda’r cais sy’n dweud eu bod yn cytuno i’w henw gael ei newid. Rhaid i’r llythyr:

  • gynnwys eu hen enw a’r enw newydd
  • gael ei dystio a’i lofnodi gan rywun sy’n 18 oed neu drosodd ac sydd ddim yn perthyn i’r plentyn

Talu’r ffi

I dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd ffoniwch Swyddfa Ffioedd yr Uchel Lys.

Swyddfa Ffioedd yr Uchel Lys
Rhif ffôn: 020 3936 8957 (dewiswch opsiwn 1)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Gallwch hefyd dalu gydag archeb bost neu siec (yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’).

Fe roddir cyfeirnod ffi i chi ar ôl i chi dalu.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Unwaith y bydd eich cais wedi’i gwblhau a’i gymeradwyo, bydd y Swyddfa Gweithred Newid Enw yn selio eich gweithred ac yn ei hanfon yn ôl atoch drwy’r post. Dyma eich prawf eich bod wedi newid eich enw.

Os bydd angen help neu gymorth arnoch 

Cysylltwch â’r Swyddfa Gweithred Newid Enw.

Swyddfa Gweithred Newid Enw
Rhif ffôn: 020 3936 8957 (dewiswch opsiwn 6)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau   

Os ydych angen gorchymyn llys

Darllenwch y cyfarwyddyd ar gwneud cais i’r llys teulu.

Llenwch ffurflen C100 ar gyfer ‘gorchymyn mater penodol’.

Anfonwch eich ffurflen i’ch llys agosaf sy’n delio ag achosion plant.

Mae’n costio £255 i wneud cais am orchymyn llys. Efallai y gallwch gael help i dalu ffioedd llys os ydych yn cael budd-daliadau neu ar incwm isel.