Newid eich enw trwy weithred newid enw

Sgipio cynnwys

Gwneud eich gweithred newid enw anghofrestredig eich hun

Mae’n rhaid i chi fod yn 16 oed neu drosodd i wneud gweithred newid enw ‘anghofrestredig’.

Efallai na fydd rhai sefydliadau’n derbyn gweithred newid enw rydych wedi gwneud eich hun fel prawf o’ch enw newydd. Gofynnwch i’r sefydliad rydych yn delio â nhw (er enghraifft eich banc) os ydych angen gweithred newid enw ‘cofrestredig’ yn lle hyn.

Gall asiantaeth arbenigol neu gyfreithiwr wneud y weithred newid enw ar eich rhan - efallai y byddant yn codi ffi arnoch.

Sut i wneud gweithred newid enw eich hun

Byddwch angen i 2 dyst lofnodi eich gweithred newid enw. Rhaid iddynt fod yn 18 oed neu’n hŷn.

Ni fydd rhai sefydliadau’n derbyn gweithred newid enw os yw tyst yn byw yn yr un cyfeiriad â’r unigolyn sy’n gwneud y cais neu os yw’n berthynas agos.

Defnyddiwch y geiriad canlynol. Rhowch y manylion perthnasol yn y cromfachau sgwâr.

Gweithred newid enw

“Rwyf i [hen enw] o [eich cyfeiriad] wedi rhoi fyny fy enw [hen enw] ac wedi mabwysiadu er pob pwrpas yr enw [enw newydd].

“Lle bo hynny’n berthnasol, rwyf wedi hysbysu’r heddlu fy mod wedi rhoi fyny fy enw [hen enw] ac wedi mabwysiadu’r enw [enw newydd] ac rwy’n deall bod methu â gwneud hynny’n drosedd.

“Rwyf hefyd yn deall pan fyddaf yn gwneud cais am ddogfennau swyddogol yn fy enw newydd, megis Pasbort Prydeinig, efallai y bydd yr awdurdodau perthnasol yn gwirio hanes a dilysrwydd fy hen enw [hen enw] ac enw newydd [enw newydd]. Efallai y byddant hefyd yn gwirio’r wybodaeth mewn unrhyw ddogfennau ategol eraill y maent wedi gofyn amdanynt.

“Llofnodwyd fel gweithred ar [dyddiad] fel [hen enw] ac [enw newydd] ym mhresenoldeb [enw tyst 1] o [cyfeiriad tyst 1], ac [enw tyst 2] o [cyfeiriad tyst 2].

“[eich llofnod newydd], [eich hen lofnod]

“[llofnod tyst 1], [llofnod tyst 2]”

Ar ôl i chi wneud eich gweithred newid enw eich hun

Gallwch ddefnyddio eich gweithred newid enw wedi’i llofnodi yn syth fel prawf o’ch enw newydd.

Mae’n drosedd os ydych chi’n droseddwr cofrestredig ac nid ydych chi’n dweud wrth yr heddlu eich bod wedi newid eich enw.