Newid eich enw trwy weithred newid enw
Sut i newid eich enw
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae gweithred newid enw yn ddogfen gyfreithiol sy’n profi newid enw.
Gallwch newid unrhyw ran o’ch enw, ychwanegu neu ddileu enwau neu gysylltnodau, neu newid y sillafiad.
Rhaid i chi:
- allu ynganu eich enw newydd
- ni ddylai eich enw newydd gynnwys symbolau, rhifau neu atalnodau (oni bai ei fod yn enw gyda chysylltnod neu’n enw sefydledig fel O’Hara)
- ni ddylai eich enw newydd fod yn sarhaus neu’n erbyn budd y cyhoedd (er enghraifft, ychwanegu Cyf ar ddiwedd yr enw)
Ni allwch ddefnyddio gweithred newid enw i:
- newid pa lythrennau yn eich enw sy’n briflythrennau
- newid teitlau, er enghraifft, Mr, Mrs, Syr, Y Fonesig neu Doctor
Mae yna wahanol reolau ar gyfer newid eich enw os cawsoch eich geni yn yr Alban.
Dewis gweithred newid enw
Os ydych chi’n 16 oed neu drosodd, gallwch wneud gweithred newid enw eich hun a dechrau defnyddio enw newydd (a elwir yn ‘gweithred newid enw anghofrestredig’). Os ydych chi’n 18 oed neu drosodd, gallwch wneud cais i roi eich newid enw ar gofnod cyhoeddus trwy’r Uchel Lys (a elwir yn ‘gweithred newid enw cofrestredig’).
Mae gweithred newid enw cofrestredig yn costio £50.32.
Efallai y bydd rhai sefydliadau (fel rhai banciau, cwmnïau ffonau symudol neu ddarparwyr ynni) ond yn derbyn gweithred newid enw cofrestredig i newid eich enw ar eu cofnodion. Cysylltwch â’r sefydliad i ddeall y math o weithred newid enw y byddant yn derbyn fel prawf o’ch enw newydd.
Dewiswch rhwng gwneud:
- gweithred newid enw anghofrestredig eich hun
- gwneud cais am weithred newid enw cofrestredig i oedolyn
- newid enw plentyn trwy weithred newid enw
Os ydych chi’n breswylydd parhaol dramor, ni allwch newid eich enw trwy weithred newid enw.
Priodas a phartneriaeth sifil
Nid ydych angen gweithred newid enw i allu defnyddio cyfenw eich priod neu bartner sifil. Anfonwch gopi o’ch tystysgrif priodas neu dystysgrif partneriaeth sifil i ddalwyr cofnodion.
Os byddwch yn cael ysgariad neu’n dod â’ch partneriaeth sifil i ben
Efallai y gallwch fynd yn ôl i ddefnyddio’ch enw gwreiddiol drwy ddangos un o’r canlynol i ddalwyr cofnodion:
- tystysgrif priodas a dyfarniad absoliwt
- tystysgrif partneriaeth sifil a gorchymyn terfynol
Ni fydd rhai sefydliadau’n newid eich enw’n ôl heb weithred newid enw.
Os ydych chi’n droseddwr cofrestredig
Mae’n rhaid i chi ddweud wrth yr heddlu eich bod chi wedi newid eich enw o fewn 3 diwrnod os ydych wedi’ch cofrestru yn:
- droseddwr rhyw
- troseddwr treisgar
- troseddwr terfysgol
Rhaid i chi fynd i’ch gorsaf heddlu leol i wneud hyn. Fe ddywedir wrthych ble yw hyn pan gewch eich rhyddhau.
Mae’n drosedd i beidio â dweud wrth yr heddlu eich bod chi wedi newid eich enw.