Newid eich enw trwy weithred newid enw
Cofrestru gweithred newid enw gyda’r llysoedd
Gallwch roi eich enw newydd ar gofnod cyhoeddus drwy ei ‘gofrestru’ gyda’r Uchel Lys.
Gallwch gofrestru gweithred newid enw ar-lein neu drwy’r post. Mae’n costio £50.32.
Bydd cofnod cyhoeddus o’ch newid enw a’ch cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi yn The Gazette. Os oes gennych reswm cryf pam na ddylid cyhoeddi eich manylion, eglurwch pam yn eich cais. Efallai y bydd y barnwr yn cytuno i gyhoeddi eich enw cyntaf neu gyfenw’n unig.
Fe anfonir copi o’ch hysbysiad Gazette atoch drwy e-bost neu drwy’r post.
Cyn i chi wneud cais
Bydd angen i chi ddarparu copi o un o’r canlynol:
- tystysgrif geni
- pasbort dilys
- tystysgrif frodori
Efallai y gofynnir i chi hefyd ddarparu dogfennau ategol megis:
- dogfennau mabwysiadu (os cawsoch eich mabwysiadu)
- copi o’ch tystysgrif priodas neu dystysgrif partneriaeth sifil (os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil)
- cydsyniad ysgrifenedig eich gŵr, gwraig neu bartner (os ydych wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil)
- llythyr cydsynio (os na all yr unigolyn sy’n gwneud cais lenwi’r ffurflen ei hun oherwydd rhesymau meddygol)
Os nad yw eich dogfennau’n Gymraeg neu’n Saesneg, bydd angen i chi hefyd ddarparu cyfieithiad ardystiedig ohonynt.
Os ydych wedi ysgaru neu’n weddw
Bydd angen i chi hefyd ddarparu naill ai:
- llungopi o’ch dyfarniad absoliwt neu orchymyn terfynol
- tystysgrif marwolaeth eich gŵr, gwraig neu bartner
Gwneud cais ar-lein
Byddwch angen cerdyn debyd neu gerdyn credyd i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Fe ddywedir wrthych sut i dalu ar ôl i chi gyflwyno eich cais.
Unwaith y byddwch wedi dechrau eich cais ar-lein, bydd gennych opsiwn i’w gadw a dychwelyd ato yn hwyrach ymlaen. Mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais o fewn 28 diwrnod neu bydd rhaid i chi ddechrau eto.
Os ydych o dan 18 oed, dilynwch y broses ar gyfer newid enw plentyn.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn adolygu eich cais ac yn anfon 3 ffurflen atoch drwy e-bost: LOC020, LOC021 a LOC027. Bydd angen i chi argraffu a llenwi pob ffurflen.
Mae angen llofnodi ffurflen LOC020 ym mhresenoldeb 2 dyst, a bydd angen iddyn nhw hefyd lofnodi’r ffurflen.
Postiwch eich ffurflenni wedi’u llenwi i’r Swyddfa Gweithred Newid Enw.
Swyddfa Gweithred Newid Enw
Adran Mainc y Brenin
Ystafell E15
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL
Unwaith y bydd eich cais wedi’i gwblhau a’i gymeradwyo, bydd y Swyddfa Gweithred Newid Enw yn selio eich gweithred ac yn ei hanfon yn ôl atoch drwy’r post. Dyma eich prawf eich bod wedi newid eich enw.
Gwneud cais drwy’r post
Lawrlwythwch a llenwch y ffurflenni canlynol:
- Ffurflen LOC020: Cofrestru gweithred newid enw gyda’r llysoedd i newid eich enw
- Ffurflen LOC021: Datganiad statudol ar gyfer newid eich enw trwy weithred newid enw
- Ffurflen LOC027: Dalen flaen arddangosyn ar gyfer newid eich enw trwy weithred newid enw
Llofnodwch ffurflen LOC020 ym mhresenoldeb 2 dyst. Bydd angen i’ch tystion hefyd ei llofnodi.
Postiwch eich ffurflenni i’r Swyddfa Gweithred Newid Enw.
Swyddfa Gweithred Newid Enw
Adran Mainc y Brenin
Ystafell E15
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL
Gwiriwch eich bod wedi llenwi’r ffurflenni’n gywir cyn i chi eu cyflwyno. Os bydd yna gamgymeriadau yn y ffurflenni byddant yn cael eu dychwelyd i chi.
Talu’r ffi
I dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd ffoniwch Swyddfa Ffioedd yr Uchel Lys.
Swyddfa Ffioedd yr Uchel Lys
Rhif ffôn: 020 3936 8957 (dewiswch opsiwn 1)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Gallwch hefyd dalu gydag archeb bost neu siec (yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’).
Fe roddir cyfeirnod ffi i chi ar ôl i chi dalu.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Unwaith y bydd eich cais wedi’i gwblhau a’i gymeradwyo, bydd y Swyddfa Gweithred Newid Enw yn selio eich gweithred ac yn ei hanfon yn ôl atoch drwy’r post. Dyma eich prawf eich bod wedi newid eich enw.
Os bydd angen help neu gymorth arnoch
Cysylltwch â’r Swyddfa Gweithred Newid Enw.
Swyddfa Gweithred Newid Enw
kbdeedspoll@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 020 3936 8957 (dewiswch opsiwn 6)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Mae’n drosedd os ydych chi’n droseddwr cofrestredig ac nid ydych chi’n dweud wrth yr heddlu eich bod wedi newid eich enw.