Datganiad statudol ar gyfer newid eich enw trwy weithred newid enw: Ffurflen LOC021
Mae’n rhaid i rywun sy’n eich adnabod lenwi’r ffurflen hon. Anfonwch y ffurflen gyda’ch cais i gofrestru eich gweithred newid enw, os ydych yn 18 oed neu drosodd, i’r Llysoedd Barn Brenhinol.
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Dogfennau
Manylion
Cyn i chi wneud cais drwy’r post dylech yn gyntaf ddarllen y prif gyfarwyddyd ar newid eich enw trwy weithred newid enw. Mae hefyd yn cynnwys cyfarwyddyd ar sut i newid enw plentyn.
Rhaid i chi hefyd lenwi a chynnwys:
- ffurflen gweithred newid enw i oedolion os ydych yn gwneud cais drwy’r post (nid oes ei hangen ar gyfer ceisiadau ar-lein)
- llungopïau o ddogfennau penodol - dyma fydd eich ‘arddangosion’. Gweler y prif gyfarwyddyd i gael gwybodaeth am y dogfennau y mae’n rhaid i chi gynnwys
- dalen flaen ar gyfer pob arddangosyn – gallwch ddefnyddio ein templed dalen flaen arddangosyn
Gwiriwch y ffioedd llys a thribiwnlys a chanfod a allwch gael help i dalu ffioedd.
Dewch o hyd i fwy o ffurflenni llys a thribiwnlys yn ôl categori.
Dewch o hyd i sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.
Agor dogfen
Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.
Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.
Dilynwch y camau hyn:
- Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
- Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
- Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
- Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.
Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.
Os oes angen fersiwn brintiedig arnoch cysylltwch â’ch llys lleol.
Gofyn am fformatau hygyrch
Gallwch ofyn am:
- fersiwn Braille
- fersiwn print bras
- fersiwn hawdd ei darllen
Gofyn am fformat hygyrch drwy e-bost - hmctsforms@justice.gov.uk
Microsoft Word
Yn gyffredinol, nid yw Microsoft Word yn addas ar gyfer ein dogfennau. Gallwch ond gofyn am drosi ffurflen PDF i fformat Word fel addasiad rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Cewch ragor o wybodaeth am Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn y canllawiau.