Lwfans Cyflogaeth
Sut i hawlio
Mae’r ffordd rydych yn hawlio yn dibynnu ar p’un a ydych yn defnyddio’ch meddalwedd cyflogres eich hun neu Offer TWE Sylfaenol CThEF.
Os ydych yn defnyddio eich meddalwedd eich hun
I hawlio drwy’ch meddalwedd gyflogres (yn agor tudalen Saesneg), rhowch ‘Iawn’ yn y maes ‘Dangosydd Lwfans Cyflogaeth’ y tro nesaf y byddwch yn anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg) (EPS) at CThEF.
Os nad oes gan eich meddalwedd gyflogres faes Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS), gallwch ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol CThEF.
Os ydych yn hawlio ar gyfer blwyddyn flaenorol
Os yw’r rheolau cymorth gwladwriaethol de minimis yn berthnasol i’ch busnes, mae’n rhaid i chi ddewis y sectorau busnes sy’n berthnasol i chi. Mae’n rhaid i chi wneud hyn hyd yn oed os nad ydych yn gwneud elw.
Bydd angen i’r rhan fwyaf o fusnesau ddewis y categori ‘Diwydiannol/arall’, er enghraifft salon trin gwallt neu fwyty.
Os nad yw hyn yn berthnasol i chi, dewiswch ‘Na’ wrth ateb ‘A yw rheolau cymorth gwladwriaethol yn berthnasol?’
Os ydych yn defnyddio Offer TWE Sylfaenol CThEF
Hawliadau ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol
-
Yn yr hafan, dewiswch yr enw cywir yn y ddewislen ‘Cyflogwr’.
-
Dewiswch ‘Lwfans Cyflogaeth’.
-
Dewiswch y meini prawf cymhwystra.
-
Anfonwch eich EPS fel arfer.
Os ydych am hawlio ar gyfer blwyddyn dreth flaenorol
-
Yn yr hafan, dewiswch yr enw cywir yn y ddewislen ‘Cyflogwr’.
-
Dewiswch ‘Lwfans Cyflogaeth’.
-
Dewiswch y meini prawf cymhwystra.
-
Atebwch ‘Iawn’ i’r cwestiwn ‘A yw rheolau cymorth gwladwriaethol yn berthnasol?’ os yw’r rheolau de minimis ar gymorth gwladwriaethol yn berthnasol i chi. Yna, dewiswch y sectorau busnes sy’n berthnasol i chi. Fel arall, atebwch ‘Na’.
-
Anfonwch eich EPS fel arfer.
Dod â’ch hawliad i ben
Os byddwch yn rhoi’r gorau i fod yn gymwys, dewiswch ‘Na’ yn y maes ‘Dangosydd Lwfans Cyflogaeth’ yn eich Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS) nesaf.
Peidiwch â dewis ‘Na’ oherwydd:
- rydych wedi cyrraedd y terfyn o £10,500 cyn diwedd y flwyddyn dreth. Nid yw hyn yn golygu nad ydych yn gymwys
- nad ydych yn cyflogi unrhyw un mwyach. Bydd y lwfans hwn yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn dreth
Os byddwch yn rhoi’r gorau i’ch hawliad cyn diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill), bydd unrhyw lwfans a roddwyd i chi yn ystod y flwyddyn honno’n cael ei ddileu. O ganlyniad, bydd rhaid i chi dalu unrhyw Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (eilaidd) cyflogwyr sy’n ddyledus.