Skip to main content

Lwfans Cyflogaeth

Sgipio cynnwys

Yr hyn a gewch

Mae’r Lwfans Cyflogaeth yn caniatáu i gyflogwyr cymwys ostwng eu rhwymedigaeth Yswiriant Gwladol blynyddol hyd at £10,500.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Byddwch yn talu llai o Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (yn agor tudalen Saesneg) cyflogwyr bob tro y byddwch yn rhedeg eich cyflogres nes bod y £10,500 wedi’i ddefnyddio neu nes bod y flwyddyn dreth yn dod i ben (pa un bynnag sydd gyntaf).

Gallwch ond hawlio yn erbyn eich rhwymedigaeth cyflogwr Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 hyd at uchafswm o £10,500 bob blwyddyn dreth. Gallwch dal hawlio’r lwfans os oedd eich rhwymedigaeth yn llai na £10,500 y flwyddyn.