Lwfans Cyflogaeth
Ar ôl i chi wneud hawliad
Gallwch ddechrau defnyddio’ch Lwfans Cyflogaeth cyn gynted ag y byddwch yn cyflwyno’ch hawliad.
Ni fydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon llythyr cadarnhau atoch ar gyfer eich Lwfans Cyflogaeth.
Os yw’ch hawliad yn cael ei wrthod, byddwch yn cael neges awtomataidd gan CThEF o fewn 5 diwrnod gwaith.
Pan fydd eich Lwfans Cyflogaeth yn cyfrif fel cymorth gwladwriaethol de minimis
Os ydych am hawlio ar gyfer blwyddyn dreth flaenorol ac rydych wedi dewis sector busnes yn eich hawliad, bydd CThEF yn anfon llythyr atoch. Bydd y llythyr hwn yn nodi bod eich Lwfans Cyflogaeth yn cyfrif fel cymorth gwladwriaethol de minimis.
Mae’n rhaid i chi gadw’r llythyr hwn gan fod posibilrwydd y bydd ei angen arnoch os ydych yn hawlio cymorth gwladwriaethol de minimis arall.