Skip to main content

Lwfans Cyflogaeth

Sgipio cynnwys

Gwirio a ydych yn gymwys

Gallwch hawlio Lwfans Cyflogaeth ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn fusnes neu’n gorff cyhoeddus
  • mae llai na hanner eich gwaith yn y sector cyhoeddus (megis cynghorau lleol a gwasanaethau’r GIG)

Os mai dim ond un cyfarwyddwr sydd gan eich cwmni, ni all y cyfarwyddwr hwnnw fod yr unig gyflogai sy’n agored i Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eilaidd.

Gallwch hefyd hawlio Lwfans Cyflogaeth os yw’r canlynol yn berthnasol:

O Ebrill 2025, gall cyflogwyr sy’n talu mwy na £100,000 mewn rhwymedigaethau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 wneud cais am Lwfans Cyflogaeth. Mae’r rheolau’n wahanol os ydych yn hawlio ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol.

Cyflogeion na allwch eu cynnwys yn eich hawliad

Ni allwch gynnwys rhai cyflogeion yn eich hawliad, megis:

Os ydych yn rhan o grŵp

Os ydych yn rhan o grŵp o elusennau neu gwmnïau (yn agor tudalen Saesneg) (sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel cwmnïau cysylltiedig), dim ond un cwmni yn y grŵp all hawlio’r lwfans.

Os oes gennych fwy nag un gyflogres

Gallwch ond hawlio Lwfans Cyflogaeth yn erbyn un gyflogres.