Skip to main content

Lwfans Cyflogaeth

Sgipio cynnwys

Pryd i hawlio

Mae angen i chi hawlio Lwfans Cyflogaeth bob blwyddyn dreth.

Gallwch hawlio ar unrhyw adeg yn y flwyddyn dreth, ond po gynharaf y byddwch chi’n hawlio, y cynharaf y byddwch chi’n cael y lwfans.

Os byddwch yn hawlio’n hwyr a ddim yn defnyddio’ch Lwfans Cyflogaeth yn erbyn rhwymedigaethau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eich cyflogwyr, bydd rhaid i chi ofyn i CThEF wneud un o’r canlynol:

  • defnyddio unrhyw lwfans heb ei hawlio ar ddiwedd y flwyddyn i dalu unrhyw dreth neu Yswiriant Gwladol sydd arnoch (gan gynnwys TAW a Threth Gorfforaeth os nad oes arnoch unrhyw beth ar eich bil TWE (yn agor tudalen Saesneg))
  • rhoi ad-daliad i chi ddiwedd y flwyddyn dreth os nad oes arnoch unrhyw beth

Ni allwch hawlio ad-daliad ar gyfer y gwahaniaeth rhwng cyfanswm rhwymedigaeth Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eich cyflogwyr a swm llawn y Lwfans Cyflogaeth ar gyfer y flwyddyn dreth.

Gallwch weld faint o Lwfans Cyflogaeth rydych wedi’i ddefnyddio yn eich cyfrif ar-lein CThEF.

Hawlio am flynyddoedd blaenorol

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio ad-daliad Lwfans Cyflogaeth ar gyfer y 4 blynedd dreth flaenorol hyd at y flwyddyn dreth 2021-2022.

Gwybodaeth bellach

Darllenwch ‘Hawlio Lwfans Cyflogaeth: arweiniad pellach i gyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg)’ i gael rhagor o wybodaeth.