Lwfans Cyflogaeth
Gwirio os y gallwch hawlio am flynyddoedd blaenorol
Gallwch hawlio Lwfans Cyflogaeth ar gyfer y 4 blynedd dreth flaenorol os yw unrhyw un o’r ddau beth canlynol yn berthnasol:
- rydych yn fusnes neu’n elusen (gan gynnwys clybiau chwaraeon amatur cymunedol (yn agor tudalen Saesneg))
- rydych yn cyflogi gweithiwr gofal neu weithiwr cefnogol (yn agor tudalen Saesneg), er enghraifft, i ofalu am rywun gydag anabledd meddyliol neu gorfforol
I hawlio ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 neu flynyddoedd cyn hynny, mae’n rhaid bod eich rhwymedigaethau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 cyflogwyr wedi bod yn llai na £100,000 yn y flwyddyn dreth flaenorol.
Os ydych yn hawlio ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 neu flynyddoedd diweddarach, nid oes terfyn ar rwymedigaethau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eich cyflogwyr.
Cyfraddau blaenorol
Dyma’r Lwfans Cyflogaeth ar gyfer y 4 blynedd dreth flaenorol:
- £10,500 rhwng 6 Ebrill 2025 a 5 Ebrill 2026
- £5,000 bob blwyddyn rhwng 6 Ebrill 2022 a 5 Ebrill 2025
Pwy na all hawlio Lwfans Cyflogaeth
Ni allwch hawlio os ydych yn gorff cyhoeddus neu’n fusnes sy’n gwneud mwy na hanner eich gwaith yn y sector cyhoeddus (megis cynghorau lleol a gwasanaethau’r GIG), oni bai eich bod yn elusen.
Ni allwch hawlio chwaith os mai dim ond un cyfarwyddwr sydd gan eich cwmni ac mai’r cyfarwyddwr hwnnw yw’r unig gyflogai sy’n agored i Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eilaiddd (yn agor tudalen Saesneg).
Cyflogeion na allwch eu cynnwys yn eich hawliad
Ni allwch gynnwys rhai cyflogeion yn eich hawliad, megis:
- rhywun y mae ei enillion o fewn IR35 ‘rheolau gweithio oddi ar y gyflogres’ (yn agor tudalen Saesneg)
- rhywun rydych yn ei gyflogi ar gyfer gwaith personol, gwaith yn y cartref neu waith domestig (fel nani neu arddwr), oni bai ei fod yn ofalwr neu’n weithiwr cymorth
Os ydych yn rhan o grŵp
Os ydych yn rhan o grŵp o elusennau neu gwmnïau (yn agor tudalen Saesneg) (sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel cwmnïau cysylltiedig), dim ond un cwmni yn y grŵp all halio’r lwfans.
Os oes gennych fwy nag un gyflogres
Os oes gennych, neu os oedd gennych fwy nag un cyfeirnod TWE y cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg), gallwch ond hawlio Lwfans Cyflogaeth yn erbyn un gyflogres.
Os ydych yn hawlio ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 neu flynyddoedd cyn hynny, mae’n rhaid bod eich rhwymedigaethau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 cyflogwyr ar gyfer y gyflogres wedi bod yn llai na £100,000 yn y flwyddyn dreth flaenorol.
Os gwnaethoch daliadau oddi ar y gyflogres
Gelwir taliadau i weithwyr oddi ar y gyflogres (er enghraifft, contractwyr) yn ‘daliadau tybiannol’ (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn hawlio ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 neu’n gynharach, peidiwch â chynnwys rhwymedigaethau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 cyflogwyr ar daliadau tybiannol yn eich cyfrifiadau. Nid ydynt yn cyfrif tuag at y trothwy o £100,000.
Gwiriwch a yw terfynau cymorth gwladwriaethol de minimis yn berthnasol i’ch busnes
Ar gyfer rhai busnesau, mae Lwfans Cyflogaeth yn cyfrif fel ‘cymorth gwladwriaethol de minimis’ (cymorth ariannol gan y llywodraeth). Mae terfyn ar faint o gymorth gwladwriaethol de minimis y gall y busnesau hyn ei gael dros gyfnod o 3 blynedd. Os byddant yn mynd dros y terfyn, ni allant hawlio Lwfans Cyflogaeth.
Mae terfynau cymorth gwladwriaethol de minimis yn debygol o fod yn berthnasol i’ch busnes os yw’r ddau beth canlynol yn wir:
- mae eich busnes wedi’i leoli yng Ngogledd Iwerddon
- mae eich busnes yn gwneud neu’n gwerthu nwyddau neu drydan cyfanwerthol
Os yw terfynau cymorth gwladwriaethol de minimis yn berthnasol i’ch busnes, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cyfrifo cyfanswm y cymorth gwladwriaethol a gawsoch
- gwirio eich bod o dan y terfyn
Mae’n rhaid i chi wneud hyn hyd yn oed os nad yw’ch busnes yn gwneud elw.
Gwiriwch eich bod o dan y terfyn cymorth gwladwriaethol de minimis
Mae’r terfyn yn dibynnu ar eich sector busnes. Mae’n cael ei gyfrifo mewn ewros.
| Sector | Terfyn cymorth gwladwriaethol de minimis dros 3 blynedd |
| Cynhyrchion amaethyddol | 20,000 ewro |
| Pysgodfeydd a dyframaethu | 30,000 ewro |
| Cludo Llwythi ar y Ffyrdd | 100,000 ewro |
| Diwydiannol/arall | 200,000 ewro |
Cyfrifwch faint o gymorth gwladwriaethol de minimis rydych wedi’i gael
-
Gwiriwch a ydych wedi cael unrhyw gymorth gwladwriaethol de minimis. Os felly, dylech fod wedi cael gwybod am hyn yn ysgrifenedig.
-
Adiwch gyfanswm y swm a gawsoch ar gyfer y flwyddyn dreth rydych yn hawlio ar ei chyfer a’r ddwy flynedd dreth cyn hynny.
-
Ychwanegwch hwn at swm llawn y Lwfans Cyflogaeth ar gyfer y flwyddyn rydych yn hawlio ar ei chyfer. Bydd angen i chi drosi hwn yn ewros gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid o 30 Mawrth y flwyddyn dreth flaenorol.
-
Rydych yn gymwys i wneud hawliad os yw’r cyfanswm o dan y terfyn ar gyfer eich sector.
Os ydych yn gwmni cysylltiedig, mae’n rhaid i gyfanswm y cymorth gwladwriaethol de minimis ar gyfer pob un o’r cwmnïau yn y grŵp fod o dan y terfyn cymorth gwladwriaethol ar gyfer eich sector.
Mae’r rheolau’n wahanol os yw’ch busnes yn cwmpasu mwy nag un sector (yn agor tudalen Saesneg).