Gwneud hawliad i’r llys am arian
Gwneud hawliad
Gallwch wneud eich hawliad ar-lein, oni bai:
- nid ydych yn gwybod faint o arian rydych eisiau ei hawlio
- rydych yn gwneud hawliad ar ran mwy nag un unigolyn neu sefydliad
- mae eich hawliad yn erbyn 3 neu fwy o bobl neu 3 neu fwy o sefydliadau
- nid oes gennych chi, y bobl neu’r sefydliadau rydych yn gwneud hawliad yn eu herbyn gyfeiriad yng Nghymru neu Loegr
- mae eich hawliad yn erbyn un o adrannau’r llywodraeth
Os na allwch wneud hawliad ar-lein, gwnewch hawliad drwy’r post.
Ni allwch wneud hawliad os dywedir wrthych bod rhywun wedi’i amddiffyn dros dro rhag credydwyr drwy’r cynllun ‘Lle i Anadlu’. Darllenwch fwy am beth i’w wneud pan fydd rhywun yn defnyddio’r cynllun ‘Lle i Anadlu’.
Efallai y bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol os yw eich hawliad yn un cymhleth.
Gwneud hawliad ar-lein
Fe ofynnir i chi am enw, cyfeiriad a chyfeiriad e-bost yr unigolyn rydych yn gwneud hawliad yn ei erbyn.
Byddwch hefyd angen naill ai:
- gerdyn debyd neu gredyd i dalu ffi’r llys
- eich cyfeirnod ‘help i dalu ffioedd’ os ydych eisoes wedi gwneud cais am help i dalu ffioedd ar-lein
Os ydych dal angen gwneud cais am help i dalu ffioedd, gallwch wneud hyn tra byddwch yn gwneud eich hawliad am arian ar-lein.
Os ydych angen cymorth i wneud cais ar-lein
Os ydych yn cael problemau technegol neu angen cyfarwyddyd ar sut i wneud hawliad, defnyddiwch yr opsiynau cysylltu yn y gwasanaeth ar-lein.
Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, neu nid ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r we
We Are Group
support@wearegroup.com
Rhif ffôn: 03300 160 051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Tecstiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gostau galwadau
Gwneud hawliad drwy’r post
I wneud hawliad drwy’r post, lawrlwythwch a llenwch ffurflen hawlio bapur N1.
Mae’r ffurflen hawlio bapur N1 hefyd ar gael yn Saesneg.
Anfonwch y ffurflen bapur i’r Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol gyda siec neu archeb bost ar gyfer eich ffi llys. Os ydych yn gwneud cais am help i dalu ffioedd anfonwch y ffurflen bapur gyda naill ai:
- y cyfeirnod ‘help i dalu ffioedd’ y byddwch yn ei gael pan fyddwch yn gwneud cais am help ar-lein
- eich ffurflen gais ‘help i dalu ffioedd’ wedi’i llenwi, os ydych yn gwneud cais am help drwy’r post
Y Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol/Civil National Business Centre
St Katharine’s House
21 - 27 St Katharine’s Street
Northampton
NN1 2LH
Help i wneud cais drwy’r post
Cysylltwch â’r Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol os ydych angen help i wneud hawliad drwy’r post. Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd, gallwch ofyn am addasiad rhesymol.
Y Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol
Rhif ffôn ar gyfer siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5174
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Rhif ffôn os hoffech siarad Saesneg: 0300 123 1056
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
Gallwch hefyd wneud cais am addasiad rhesymol os byddwch yn gwneud cais drwy’r post drwy anfon e-bost i: