Canllawiau

Cynllun Seibiant Dyledion (Lle i Anadlu): cyfrifoldebau credydwyr i'r llys

Cyfarwyddyd i gredydwyr dyled sydd wedi'i rhoi mewn 'lle i anadlu'.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae’r Cynllun Seibiant Dyledion (Lle i Anadlu) yn rhoi hawl i rywun sydd mewn dyled broblemus gael amddiffyniad cyfreithiol rhag eu credydwyr.

Bwriad y cyfarwyddyd hwn yw eich helpu i ddeall y cynllun a’ch cyfrifoldeb i’r llys o dan y rheoliadau.

Gallwch hefyd wneud cais i’r llys i gymryd camau i adennill y ddyled, canslo neu newid y ‘lle i anadlu’, neu i dynnu dyled o le i anadlu.

Os oes gennych ddyled sy’n gymwys i gael lle i anadlu yn eich barn chi, dylech gael cyngor gan gynghorydd dyledion.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am le i anadlu penodol, cysylltwch â’r cynghorydd dyledion y mae ei fanylion yn yr hysbysiad a gawsoch. Peidiwch â chysylltu â’r llys.

Eich cyfrifoldebau

Atal pob cam gweithredu a rhoi’r amddiffyniadau ar waith

Os dywedir wrthych fod dyled sy’n ddyledus i chi mewn lle i anadlu, rhaid i chi atal yr holl gamau gweithredu sy’n gysylltiedig â’r ddyled honno a rhoi’r amddiffyniadau ar waith. Rhaid i’r amddiffyniadau hyn fod mewn lle nes y bydd y lle i anadlu wedi dod i ben.

Oni bai bod gennych ganiatâd gan y llys, rhaid i chi neu unrhyw un sy’n gweithredu ar eich rhan beidio â:

  • chymryd unrhyw gamau gorfodi yn erbyn y dyledwr neu unrhyw un sy’n atebol ar y cyd â hwy am ddyled lle i anadlu
  • cysylltu â’r dyledwr i ofyn am ad-daliad o’r ddyled honno
  • cymryd unrhyw gamau i adennill y ddyled honno

Bydd y Gwasanaeth Ansolfedd yn rhoi gwybod i chi am bob dyled sy’n ddyledus i chi sydd mewn lle i anadlu a’r dyddiad y dechreuodd y lle i anadlu. Bydd y lle i anadlu yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i fanylion y dyledwr gael eu rhoi ar y gofrestr lle i anadlu.

Os yw’r hysbysiad yn cynnwys dyddiad gorffen yna mae’r lle i anadlu yn un safonol a bydd y dyddiad gorffen 60 diwrnod ar ôl i’r lle i anadlu ddechrau. Os nad oes dyddiad gorffen, mae’n le i anadlu argyfwng iechyd meddwl.

Darganfyddwch beth i’w wneud os nad ydych yn siŵr pa ddyled neu ddyledion y mae’r hysbysiadau’n ymwneud â nhw.

Efallai y bydd yn bosibl bod y ddyled sy’n ddyledus i chi yn cael ei hychwanegu at le i anadlu yn nes ymlaen oherwydd dim ond ’ar ôl i’r lle i anadlu ddechrau y mae wedi’i hadnabod.

Gellir cynnwys dyledion ar y cyd mewn lle i anadlu, hyd yn oed os mai dim ond un unigolyn sy’n mynd i le i anadlu. Byddai’r ddyled ar y cyd yn dod yn ddyled lle i anadlu a byddai’r amddiffyniad rhag camau gorfodi hefyd yn berthnasol i’r bobl eraill sy’n ymwneud â’r ddyled honno. Gallwch barhau i godi llog neu ffioedd ar y bobl eraill ac nid yw’r lle i anadlu yn effeithio ar ddyledion a rhwymedigaethau’r bobl eraill sydd ganddynt yn eu henwau eu hunain.

Dywedwch wrth y llys am y lle i anadlu

Os oes hawliad wedi cychwyn yn barod, neu os oes camau gorfodi wedi dechrau cael eu cymryd, rhaid i chi roi gwybod i’r llys yn ysgrifenedig am le i anadlu sydd wedi dechrau. Rhaid i chi ddweud wrth y llys am bob dyled sydd wedi mynd i le i anadlu.

Ni fydd y llys yn chwilio am ddyledion eraill yn erbyn enw’r dyledwr. Os oes gan y dyledwr ddyledion sy’n ddyledus i chi mewn llysoedd gwahanol, rhaid i chi hysbysu pob llys.

Wrth hysbysu’r llys, rhaid i chi:

  • esbonio a yw’r ddyled yn destun lle i anadlu safonol neu’n argyfwng iechyd meddwl
  • roi’r dyddiad y dechreuodd y lle i anadlu, lle bo’n bosibl
  • cynnwys copi o’r hysbysiad gan y Gwasanaeth Ansolfedd, lle bo modd

Gallwch anfon eich hysbysiadau i’r llys drwy’r post neu drwy e-bost. Sut i gysylltu â’r llys. Os ydych yn defnyddio platfform ar-lein i gychwyn hawliad, cyfeiriwch at y cyfarwyddyd i ddefnyddwyr ynghylch sut i gysylltu â’r llys.

Dywedwch wrth asiantau gorfodi i atal unrhyw gamau

Pan fyddwch wedi dweud wrth y llys lleol am y lle i anadlu, bydd y llys yn dweud wrth unrhyw feilïaid llys sirol sydd dan gyfarwyddyd i atal y camau gorfodi.

Rhaid i chi roi gwybod i unrhyw asiant gorfodi arall yr ydych wedi’i gyfarwyddo – mae hyn yn cynnwys swyddogion gorfodi’r uchel lys. Os na fyddwch yn gwneud hyn cyn gynted â phosibl, efallai y byddwch yn atebol am unrhyw golledion a ddaw i ran y dyledwr neu’r asiant o ganlyniad.

Os oes gwarant arestio wedi’i chodi mewn achos treth y cyngor, rhaid i gyngor y credydwr gyfarwyddo’r asiant gorfodi i beidio â gweithredu’r warant.

Os cytunwyd ar gynlluniau ad-dalu eisoes, bydd y darparwr cyngor ar ddyledion yn penderfynu a all y dyledwr fforddio talu o hyd. Ni all asiantau gorfodi orfodi’r writ na’r warant nes i’r lle i anadlu ddod i ben.

Os byddwch yn gwneud cais i ailgodi gwarant neu writ rheolaeth yn ystod lle i anadlu, bydd y llys yn gwrthod y cais.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Mae achos llys yn parhau hyd nes bod gorchymyn neu ddyfarniad yn cael ei wneud; ac eithrio’r holl gamau gorfodi fel troi allan.

Mewn lle i anadlu ni fydd y llys yn:

  • cychwyn hawliad am arian neu’n prosesu cais am help i dalu ffioedd
  • prosesu dyfarniad trwy ddiffyg
  • cychwyn unrhyw fath o gais gorfodi (megis gwarant, gwrit neu orchymyn arwystlo)
  • parhau ag unrhyw fath o gais gorfodi a gychwynnwyd yn barod, gan gynnwys ceisiadau troi allan
  • bwrw ymlaen â dyled pan fydd deiseb methdalu wedi dechrau

Mae’r rheoliadau’n caniatáu i’r llys ohebu â’r diffynnydd yn ystod lle i anadlu lle bo angen.

Bydd unrhyw gais arall a wneir gan ddyledwr yn ystod lle i anadlu yn cael ei gyfeirio at farnwr rhanbarth i benderfynu a ddylid parhau â’r cais hwnnw neu ei ohirio.

Gwrandawiadau gorfodi

Ar gyfer lle i anadlu safonol, bydd unrhyw wrandawiad a drefnwyd sy’n ymwneud â gorfodi yn cael ei ohirio cyn pen 14 diwrnod ar ôl diwedd y lle i anadlu.

Ar gyfer lle i anadlu argyfwng iechyd meddwl, ni ellir cynnal unrhyw wrandawiad a drefnwyd – bydd barnwr yn adolygu hyn os caiff ei ohirio y tu hwnt i 6 mis.

Adfeddiannu tai (troi allan)

Ar gyfer lle i anadlu safonol, bydd unrhyw droi allan a drefnwyd yn cael ei ohirio i ddim cynharach na 14 diwrnod ar ôl diwedd y lle i anadlu. Os yw’r dyledwr wedi gwneud cais i atal yr adfeddiannu, caiff y cais ei aildrefnu ar ôl diwedd y lle i anadlu ond cyn yr adfeddiannu.

Ar gyfer lle i anadlu argyfwng iechyd meddwl, ni ellir parhau â’r broses troi allan sydd eisoes wedi dechrau – bydd barnwr yn adolygu hyn os caiff ei ohirio am fwy na 6 mis. Os yw’r dyledwr wedi gwneud cais i atal yr adfeddiannu, caiff y cais ei aildrefnu ar ôl diwedd y lle i anadlu ond cyn yr adfeddiannu.

Gorchmynion arwystlo yng Canolfan Fusnes Sifil Genedlaethol

Efallai eich bod wedi gwneud cais am orchymyn arwystlo i sicrhau’r ddyled yn erbyn cartref y dyledwr neu eiddo arall. Os felly, efallai y bydd y llys wedi gwneud gorchymyn arwystlo dros dro (ICO).

Ar gyfer dyled mewn lle i anadlu safonol, bydd Canolfan Fusnes Sifil Genedlaethol yn gohirio unrhyw ICO. Os oes amser ar ôl ar eich hysbysiad o wasanaeth, neu i’r dyledwr ymateb, bydd y llys yn ychwanegu hyn at gyfnod y lle i anadlu. Yn dilyn hyn, bydd yr ICO yn cael ei gyfeirio’n awtomatig at y barnwr neu’r cynghorydd cyfreithiol i wneud gorchymyn arwystlo terfynol, oni bai eich bod yn dweud wrth y llys i beidio â gwneud hynny.

Pan fydd lle i anadlu argyfwng iechyd meddwl yn dod i ben, rhaid i chi adael i’r dyledwr gael unrhyw amser sy’n weddill i wneud unrhyw wrthwynebiadau i’r ICO i’r llys. Yn dilyn y cyfnod hwn, dylech gadarnhau’n ysgrifenedig i’r llys pryd y daeth y lle i anadlu argyfwng iechyd meddwl i ben ac a ydych yn dymuno bwrw ymlaen â gwneud yr ICO terfynol.

Ar ôl 6 mis, bydd unrhyw gais ICO lle mae lle i anadlu argyfwng iechyd meddwl yn dal i fodoli yn cael ei gyfeirio at farnwr am benderfyniad.

Pan ddaw lle anadlu i ben

Dylech roi gwybod i’r llys pan ddaw’r lle anadlu i ben. Dylech gysylltu â’r llys i ddweud wrthynt a ydych yn dymuno bwrw ymlaen â’r camau gorfodi a chyflwyno’r cais perthnasol.

Gallwch ailgychwyn camau gorfodi o’r pwynt y daeth i ben – nid oes rhaid talu ffi am hyn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Ebrill 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 Gorffennaf 2021 show all updates
  1. Added information about enforcement hearings

  2. Welsh translation added

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon