Canllawiau

Gwneud cais i'r llys fel credydwr dyled sydd mewn lle i anadlu

Cyfarwyddyd i gredydwyr sy'n gwneud cais i gymryd camau i adennill dyled, canslo neu ddiwygio'r 'lle i anadlu', neu i dynnu dyled o le i anadlu.

Applies to England and Wales

Mae’r Cynllun Seibiant Dyledion (Lle i Anadlu) yn rhoi hawl i rywun sydd mewn dyled broblemus gael amddiffyniad cyfreithiol rhag eu credydwyr.

Bwriad y cyfarwyddyd hwn yw eich helpu i wneud cais i’r llys i gymryd camau yn erbyn dyled sydd mewn lle i anadlu.

Gweler ein cyfarwyddyd ategol ar sut i ddeall y cynllun a’ch cyfrifoldebau i’r llys o dan reoliadau’r cynllun.

Os ydych yn gwneud cais ar ran awdurdod lleol am ddyled o hysbysiad talu cosb, cyfeiriwch at eich copi o ganllawiau’r Ganolfan Gorfodi Traffig.

Os oes gennych ddyled sy’n ddyledus sy’n gymwys i gael lle i anadlu yn eich barn chi, dylech gael cyngor gan gynghorydd dyledion.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am fater lle i anadlu penodol, cysylltwch â’r cynghorydd dyledion y mae ei fanylion yn yr hysbysiad a gawsoch. Peidiwch â chysylltu â’r llys.

Gwneud cais am ganiatâd i gymryd camau i adennill dyled

Gallwch wneud cais i’r llys am ganiatâd i orfodi gorchymyn neu ddyfarniad llys, neu i gychwyn hawliad am arian ar ddyled sydd mewn lle i anadlu. Gallwch wneud cais o safbwynt dyled nad ydych wedi cychwyn hawliad amdano eto, neu ddyled sy’n destun achos llys parhaus.

Dim ond os ydych wedi cael gwybod bod dyled sy’n ddyledus i chi mewn lle i anadlu y gallwch wneud cais.

Gallwch wneud cais am ganiatâd i:

  • gychwyn hawliad newydd
  • prosesu dyfarniad trwy ddiffyg
  • cychwyn unrhyw fath o gais gorfodi
  • parhau ag unrhyw fath o orfodi a gychwynnwyd yn barod

Sut i wneud cais

Dylech lenwi ffurflen gais N244C: Cais am ganiatâd i gymryd camau gorfodi mewn perthynas â dyled sydd mewn lle i anadlu.

Rhaid i chi anfon eich cais i lys sirol lleol y dyledwr, gan y bydd angen trefnu gwrandawiad. Chwiliwch am lys sirol lleol y dyledwr.

Peidiwch ag anfon eich cais i Canolfan Fusnes Sifil Genedlaethol (CNBC) na’r Ganolfan Gorfodi Traffig (TEC).

Bydd arnoch angen talu am eich cais. Y ffi yw £303. Efallai y gallwch gael help i dalu’r ffi a ffioedd llys eraill os ydych ar incwm isel neu’n derbyn budd-daliadau penodol.

Gwneud cais am ganiatâd i gymryd camau i adennill dyled treth y cyngor

Mae angen i chi wneud cais i’r llys ynadon am ganiatâd i:

  • godi gwŷs ar gyfer gorchymyn atebolrwydd newydd
  • codi gwarant traddodi
  • cymryd unrhyw fath o gamau gorfodi o dan orchymyn atebolrwydd presennol
  • parhau â chais am orchymyn atebolrwydd yn dilyn codi gwŷs

Sut i wneud cais

Rhaid i’ch cais ddilyn y drefn safonol ar gyfer gwneud cwyn a gwŷs.

Rhaid i chi wneud cais i swyddfa’r llys yn yr ardal cyfiawnder lleol ble mae eich cyngor. Chwilio am y llys y mae angen i chi wneud cais iddo.

Unwaith y bydd gwŷs yn cael ei chodi gan y llys, rhaid i chi ei chyflwyno i’r dyledwr a’r cynghorydd dyledion a enwir yn yr hysbysiad lle i anadlu.

Bydd angen i chi dalu am eich cais. Gweler ein cyfarwyddyd ar ffioedd yn y llysoedd sifil a theulu.

Gwneud cais i ganslo lle i anadlu neu i dynnu dyled o le i anadlu

Yn gyntaf, rhaid i chi ofyn i’r cynghorydd dyledion adolygu a ddylai’r ddyled sy’n ddyledus i chi fod mewn lle i anadlu. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 20 diwrnod i’r ddyled fynd i le i anadlu neu ni allwch wneud cais.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad y cynghorydd dyledion, gallwch wneud cais i’r llys i ganslo’r lle i anadlu neu i dynnu’r ddyled oddi yno. Dylech ddefnyddio’r un rhesymau ag a ddefnyddiwyd gennych yn eich cais i’r cynghorydd dyledion.

Bydd angen i chi wneud hawliad newydd i’r llys.

Dim ond os llai na 50 diwrnod ers i’r ddyled sy’n ddyledus i chi fynd yn ddyled lle i anadlu y gallwch wneud cais i’r llys.

Dylech atodi unrhyw dystiolaeth ategol i’ch cais lle bo hynny’n bosibl.

Os caiff y lle i anadlu ei ganslo ar gyfer y cyfan neu rai o’r dyledion, bydd y llys yn dweud wrth y Gwasanaeth Ansolfedd fel y gallant ddiweddaru’r gofrestr lle i anadlu.

Sut i wneud cais

Dylech lenwi ffurflen gais N244D: Gwneud cais i ganslo (y cyfan neu ran) o le i anadlu mewn perthynas â dyled.

Rhaid i chi anfon eich cais i lys sirol lleol y dyledwr, gan y bydd angen trefnu gwrandawiad. Chwilio am lys sirol lleol y dyledwr.

Peidiwch ag anfon eich cais i Canolfan Fusnes Sifil Genedlaethol (CNBC) na’r Ganolfan Gorfodi Traffig (TEC).

Bydd arnoch angen talu am eich cais. Y ffi yw £303. Efallai y gallwch gael help i dalu’r ffi a ffioedd llys eraill os ydych ar incwm isel neu’n derbyn budd-daliadau penodol.

Cyhoeddwyd ar 30 April 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 May 2024 + show all updates
  1. The fee for an application to cancel a breathing space or remove a debt from a breathing space has updated. The fee for an application for permission to take a step in recovering a debt has updated.

  2. Updated fee published.

  3. Welsh translation added.

  4. First published.