Ffurflen

Gwneud cais i adolygu lle i anadlu neu barhau â chamau i orfodi’r ddyled

Gwneud cais i barhau â chamau i orfodi dyled sy'n ddyledus i chi fel credydwr mewn 'lle i anadlu', canslo neu newid y ‘lle i anadlu’, neu i dynnu dyled sy'n ddyledus i chi o le i anadlu.

Applies to England and Wales

Dogfennau

N244C: Cais am ganiatâd i gymryd camau gorfodi mewn perthynas â dyled mewn lle i anadlu

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

N244D: Cais i ganslo lle i anadlu mewn perthynas â dyled

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae’r Cynllun Seibiant Dyledion (Lle i Anadlu) yn rhoi hawl i rywun sydd mewn dyled broblemus gael amddiffyniad cyfreithiol rhag eu credydwyr.

Cyn llenwi un o’r ffurflenni hyn, darllenwch ein cyfarwyddyd ar wneud cais i’r llys fel credydwr dyled mewn lle i anadlu.

Rhaid i chi anfon eich cais i lys sirol lleol y dyledwr, gan y bydd angen trefnu gwrandawiad. Chwilio am lys sirol lleol y dyledwr.

Peidiwch ag anfon eich cais i Canolfan Fusnes Sifil Genedlaethol (CNBC) na’r Ganolfan Gorfodi Traffig (TEC).

Bydd arnoch angen talu am eich cais. Y ffi yw £303. Efallai y gallwch gael help i dalu’r ffi a ffioedd llys eraill os ydych ar incwm isel neu’n derbyn budd-daliadau penodol.

Cyhoeddwyd ar 30 April 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 May 2024 + show all updates
  1. Fee updated.

  2. Updated fee published.

  3. Added Welsh translations.

  4. Welsh version of the form D added

  5. First published.