Skip to main content

Gwneud hawliad i’r llys am arian

Sgipio cynnwys

Ffioedd

Mae’n rhaid i chi dalu ffi pan fyddwch yn gwneud eich hawliad. Mae swm y ffi yn dibynnu ar faint o arian rydych yn ei hawlio.

Efallai y bydd angen i chi dalu ffioedd eraill yn ddiweddarach, er enghraifft, os bydd gwrandawiad llys neu os bydd angen i chi orfodi dyfarniad.

Fel arfer, gallwch:

Os ydych yn gwybod swm yr hawliad

Mae ffi wedi’i seilio ar y swm rydych yn ei hawlio, gan gynnwys unrhyw log.

Os nad ydych yn gwybod swm yr hawliad

Os ydych yn amcangyfrif y swm rydych yn ei hawlio, bydd angen i chi dalu’r ffi sy’n berthnasol i’r swm hwnnw.

Er enghraifft, os ydych chi’n amcangyfrif eich bod yn hawlio rhwng £3,000.01 a £5,000, byddai rhaid i chi dalu £205.

Os byddwch yn gadael y blwch ‘swm a hawlir’ yn wag, yna bydd y ffi yn £10,000.

Gwirio’r ffi

Swm yr hawliad Ffi
Hyd at £300 £35
£300.01 i £500 £50
£500.01 i £1,000 £70
£1,000.01 i £1,500 £80
£1,500.01 i £3,000 £115
£3,000.01 i £5,000 £205
£5,000.01 i £10,000 £455
£10,000.01 i £200,000 5% o’r hawliad
Mwy na £200,000 £10,000

I gyfrifo 5% o werth yr hawliad, lluoswch y swm rydych yn ei hawlio gyda 0.05. Os oes angen, talgrynnwch y cyfanswm i lawr i’r 1c agosaf.

Bydd y ffi yn cael ei chyfrifo i chi os byddwch yn gwneud eich hawliad ar-lein.

Help i dalu’r ffi

Gallwch wneud cais am help i dalu ffioedd ar-lein neu drwy’r post.

Gwneud cais am help ar-lein

Gwnewch gais am help i dalu ffioedd ar-lein cyn i chi wneud hawliad llys. Fe gewch gyfeirnod ‘help i dalu ffioedd’ - byddwch ei angen pan fyddwch yn gwneud eich hawliad i’r llys.

Gwneud cais am help drwy’r post

Os byddwch yn gwneud cais am help i dalu ffioedd drwy’r post, yna bydd angen i chi wneud eich hawliad llys drwy’r post hefyd. Gwnewch y ddau gais ar yr un pryd.

  1. Llenwch ffurflen EX160 i gael help i dalu ffioedd.

  1. Llenwch ffurflen N1 i wneud hawliad i’r llys am arian.

  1. Dychwelwch y ddwy ffurflen i’r Ganolfan Busnes Sifil Genedlaethol.

Y Ganolfan Fusnes Sifil Genedlaethol
St Katharine’s House
21-27 St Katharine’s Street
Northampton
NN1 2LH

Sut i dalu’r ffi

Talwch gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd os ydych yn gwneud hawliad ar-lein.

Os byddwch yn defnyddio’r ffurflen gais bapur, talwch gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd drwy anfon llythyr gyda’ch ffurflen yn gofyn am gael talu â cherdyn. Dylech gynnwys eich rhif ffôn ac amser cyfleus i’r llys eich ffonio i gymryd y taliad.

Gallwch hefyd dalu gydag archeb bost neu siec (yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’) os byddwch yn defnyddio’r ffurflen hawlio bapur.