Carchar Abertawe
Mae Carchar Abertawe yn garchar i ddynion yng nghanol Abertawe, Cymru.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.
Bwcio a chynllunio eich ymweliad â charchar Abertawe
I ymweld â rhywun yng Ngharchar Abertawe, rhaid i chi:
- fod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
- bwcio eich ymweliad o leiaf 24 awr ymlaen llaw
- bod â’r dogfennau adnabod gofynnol gyda chi pan fyddwch yn ymweld
Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.
Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall carcharor eu cael. Gallwch wirio hyn gyda Charchar Abertawe.
Cysylltwch â Charchar Abertawe os oes gennych unrhyw gwestiynau am ymweld.
Help gyda chost eich ymweliad
Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:
- teithio i Garchar Abertawe
- rhywle i aros dros nos
- prydau bwyd
Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau
I drefnu ymweliad gallwch:
- archebu eich ymweliad ar-lein
- anfon e-bost, socvisswansea@justice.gov.uk
- ffonio, 01792 485 322
Mae’r llinell archebu ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8:45am a 11:45am a rhwng 1pm a 3:45pm
Amseroedd ymweliadau:
- Dydd Llun i ddydd Lau: 2pm i 3pm a 3:30pm i 4:30pm
- Dydd Sadwrn i ddydd Sul: 2pm i 3pm a 3:30pm i 4:30pm
Dylech gyrraedd o leiaf awr cyn eich ymweliad.
Sut i drefnu ymweliadau swyddogol
I drefnu ymweliad swyddogol gallwch:
- anfon e-bost i legalvideolink.swansea@justice.gov.uk
- ffonio 01792 485 455
Amseroedd ymweliadau fideo swyddogol:
- Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 4:30pm (slot awr o hyd)
I drefnu ymweliad wyneb yn wyneb swyddogol gallwch:
- anfon e-bost i socvisswansea@justice.gov.uk
- ffonio 01792 485 322
Mae’r llinell archebu ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, 8:45am a 11:45am a rhwng 1pm a 3:45pm.
Gwybodaeth am gost galwadau
Amseroedd ymweliadau wyneb yn wyneb swyddogol:
- Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8:30am a 11:15am (slot 45 munud o hyd)
Cyrraedd Carchar Abertawe
Dod o hyd i Garchar Abertawe ar fap
Mae Carchar EF Abertawe ar Heol Ystumllwynarth. Dim ond milltir o’r orsaf drenau a thaith gerdded fer o’r orsaf fysiau.
Mae maes parcio talu ac arddangos gyferbyn â’r carchar ym “Maes parcio Stryd Paxton”. Defnyddiwch y chwiliwr llwybrau i gael cyfarwyddiadau ar gyfer SA1 3SR.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, anfonwch e-bost at socvisswansea@justice.gov.uk.
I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:
- defnyddiwch National Rail Enquiries
- defnyddiwch Traveline ar gyfer amseroedd bysiau lleol
Nid oes lle parcio i ymwelwyr yn y carchar ond gall ymwelwyr ddefnyddio maes parcio talu ac arddangos Stryd Paxton yn union gyferbyn.
Mynd i Garchar Abertawe
Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ddogfennau adnabod wrth ymweld â charchar.
Bydd pob ymwelydd yn cael chwiliad ‘patio i lawr’ lefel B, gan gynnwys plant.
Efallai y byddwch hefyd yn cael eich arogli gan ein cŵn diogelwch.
Rhaid i ymwelwyr gadw at god gwisg y carchar – priodol a chyfeillgar i’r teulu.
Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Garchar Abertawe. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’ch pethau mewn locer yn y ganolfan ymwelwyr neu yn eich car - mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi car.
Ffoniwch y llinell archebu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.
Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.
Cyfleusterau ymweld
Mae yna ganolfan ymwelwyr sy’n cael ei rhedeg gan elusen Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai (PACT).
Ffôn: 01792 485 300
Gwybodaeth am gost galwadau
Diwrnodau teulu
Mae Carchar EF Abertawe yn cynnal 12 ymweliad teulu bob blwyddyn. Mae manylion am sut mae’r ymweliadau hyn yn cael eu cynnal ar gael drwy anfon e-bost at: socvisswansea@justice.gov.uk.
Cadw mewn cysylltiad â rhywun yng Ngharchar Abertawe
Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yng Ngharchar Abertawe.
Galwadau fideo diogel
I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:
- Lawrlwytho ap Prison Video
- Creu cyfrif
- Cofrestru pob ymwelydd
- Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.
Sut i drefnu galwad fideo ddiogel
Dim ond carcharorion all wneud cais am alwadau fideo diogel yn y carchar hwn.
Byddwch yn cael hysbysiad os bydd carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.
Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio
Galwadau ffôn
Nid oes gan garcharorion ffonau yn eu celloedd, felly bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn.
Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.
Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.
Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.
E-bost
Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yng Ngharchar Abertawe drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion gan y carcharor, yn dibynnu ar y rheolau yng Ngharchar Abertawe.
Llythyrau
Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.
Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.
Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Charchar Abertawe.
Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’u gwirio gan swyddogion.
Anfon arian a rhoddion
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.
Rhoddion a pharseli
Efallai y bydd carcharorion yn cael derbyn parseli gan anwyliaid.
Gofynnwch yn y ganolfan ymwelwyr am wybodaeth am brosesau eiddo yng Ngharchar Abertawe.
Bywyd yng Ngharchar Abertawe
Mae Carchar Abertawe wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.
Diogelwch a diogelu
Mae gan bob carcharor yng Ngharchar Abertawe hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.
Gall carcharorion hefyd gael eu hyfforddi gan y Samariaid i fod yn ‘wrandawyr’ i helpu i gefnogi pobl sy’n mynd drwy gyfnodau anodd.
Cyrraedd a’r noson gyntaf
Pan fydd rhywun yn cyrraedd Carchar Abertawe am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.
Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.
Cynefino
Bydd pawb sy’n cyrraedd Abertawe yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:
- iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
- unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
- datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
- mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd
Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.
Llety
Mae tua 500 o garcharorion yn byw yng Ngharchar Abertawe ar draws 6 uned.
Addysg a gwaith
Mae gan garcharorion fynediad at raglen eang o gyfleoedd dysgu, yn amrywio o sgiliau sylfaenol, fel Cymraeg, Saesneg a mathemateg, i ddysgu a chymwysterau uwch.
Mae cyflogaeth ar gael mewn gweithdai carchar, ceginau ac unedau ailgylchu.
Cefnogaeth i deulu a ffrindiau
Gwybodaeth am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.
Cefnogaeth yng Ngharchar Abertawe
Mae’r tîm Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal (PACT) yn darparu amrywiaeth o wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau carcharorion. Gallwch ffonio neu ofyn yn y ganolfan ymwelwyr i gael siarad â rhywun.
Pryderon, problemau a chwynion
Mewn argyfwng
Ffoniwch 01792 485 300 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.
| Categori cyswllt | Rhif ffôn | Gwybodaeth ychwanegol |
|---|---|---|
| Dim brys | 01792 485 364 | Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion. |
| Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff | 0800 917 6877 (peiriant ateb 24 awr) |
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. |
| Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion | 0808 808 2003 | Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol. |
| Cyswllt Digroeso gan Garcharor | 0300 060 6699 | Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor. Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn. |
Problemau a chwynion
Os oes gennych chi broblem, cysylltwch â Charchar Abertawe. Os na allwch ddatrys y broblem yn uniongyrchol, gallwch wneud cwyn i Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF.
Adroddiadau arolygu
Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Carchar Abertawe mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.
Cysylltu â Charchar Abertawe
Llywodraethwr: Chris Simpson
Ffôn: 01792 485 300
Ffacs: 01792 485 430
Gwybodaeth am gost galwadau
Dilynwch Garchar Abertawe ar Twitter
Cyfeiriad
CEF Abertawe,
200 Heol Ystumllwynarth,
Abertawe
SA1 3SR
Gallwch hefyd ddarllen mwy o wybodaeth am bryderon am garcharu mwy diogel ar wefan Teuluoedd Carcharorion.
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.
Updates to this page
-
Updated official visits booking information.
-
Updated booking information for official video and face to face visits.
-
Updated Governor to Chris Simpson.
-
Added translation
-
Updated visiting information
-
Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes
-
Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.
-
Added link to information about testing for physical contact at visits.
-
New visiting times and booking information added.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Updated visiting information.
-
Updated visiting information in line with new coronavirus rules in Wales.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Updated covid legal visit times
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
updated video call info
-
First published.