Cyfraddau a throthwyon ar gyfer cyflogwyr am 2023 i 2024
Defnyddiwch y cyfraddau a’r trothwyon hyn pan fyddwch yn gweithredu’ch cyflogres neu’n darparu treuliau a buddiannau i’ch cyflogeion.
Oni nodir yn wahanol, mae’r ffigurau canlynol yn berthnasol rhwng 6 Ebrill 2023 a 5 Ebrill 2024.
Treth TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
Fel arfer rydych yn gweithredu TWE fel rhan o’ch cyflogres (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn i CThEF allu casglu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol oddi wrth eich cyflogeion.
Bydd eich meddalwedd gyflogres yn cyfrifo faint o dreth ac Yswiriant Gwladol i’w didynnu oddi wrth gyflog eich cyflogeion. Os byddwch yn dewis rhedeg y gyflogres eich hun, mae angen i chi ddod o hyd i feddalwedd gyflogres (yn agor tudalen Saesneg) i wneud hyn.
Trothwyon, cyfraddau a chodau treth
Mae faint o Dreth Incwm rydych yn ei didynnu oddi ar eich cyflogeion yn dibynnu ar eu cod treth a faint o’u hincwm trethadwy sydd uwchlaw eu Lwfans Personol (yn agor tudalen Saesneg).
Lloegr a Gogledd Iwerddon
Y lwfans personol safonol i gyflogeion ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 yw:
- £242 yr wythnos
- £1,048 y mis
- £12,570 y flwyddyn
| Cyfradd treth TWE | Cyfradd treth | Enillion blynyddol y defnyddir y gyfradd ar eu cyfer (uwchben y trothwy TWE) |
|---|---|---|
| Cyfradd dreth sylfaenol | 20% | Hyd at £37,700 |
| Cyfradd dreth uwch | 40% | O £37,701 hyd at £125,140 |
| Cyfradd dreth ychwanegol | 45% | Dros £125,140 |
Yr Alban

| Cyfradd dreth cychwyn | 19% | Hyd at £2,162 |
| Cyfradd dreth sylfaenol | 20% | O £2,163 hyd at £13,118 |
| Cyfradd dreth ganolradd | 21% | O £13,119 hyd at £31,092 |
| Cyfradd dreth uwch | 42% | O £31,093 hyd at £125,140 |
| Cyfradd dreth uchaf | 47% | Dros £125,140 |
Cymru
Y lwfans personol safonol i gyflogeion ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 yw:
- £242 yr wythnos
- £1,048 y mis
- £12,570 y flwyddyn
| Cyfradd treth TWE | Cyfradd treth | Enillion blynyddol y defnyddir y gyfradd ar eu cyfer (uwchben y trothwy TWE) |
|---|---|---|
| Cyfradd dreth sylfaenol | 20% | Hyd at £37,700 |
| Cyfradd dreth uwch | 40% | O £37,701 hyd at £125,140 |
| Cyfradd dreth ychwanegol | 45% | Dros £125,140 |
Codau treth dros dro
Dyma’r codau treth dros dro o 6 Ebrill 2023 ymlaen:
- 1257L W1
- 1257L M1
- 1257L X
Dysgwch ragor am godau treth dros dro.
Trothwyon cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
Dim ond ar enillion sy’n uwch na’r terfyn enillion isaf y cewch wneud didyniadau Yswiriant Gwladol.
| Trothwyon Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 | 2023 i 2024 |
|---|---|
| Terfyn enillion isaf | £123 yr wythnos £533 y mis £6,396 y flwyddyn |
| Prif drothwy | £242 yr wythnos £1,048 y mis £12,570 y flwyddyn |
| Trothwy eilaidd | £175 yr wythnos £758 y mis £9,100 y flwyddyn |
| Trothwy eilaidd uchaf Porthladdoedd Rhydd | £481 yr wythnos £2,083 y mis £25,000 y flwyddyn |
| Trothwy eilaidd uchaf (o dan 21) | £967 yr wythnos £4,189 y mis £50,270 y flwyddyn |
| Trothwy eilaidd uchaf i brentis (prentis o dan 25 oed) | £967 yr wythnos £4,189 y mis £50,270 y flwyddyn |
| Trothwy eilaidd uchaf i gyn-filwr | £967 yr wythnos £4,189 y mis £50,270 y flwyddyn |
| Terfyn enillion uchaf | £967 yr wythnos £4,189 y mis £50,270 y flwyddyn |
Cyfraddau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
Cyfraddau cyfraniadau’r cyflogai (prif gyfraniadau) o 6 Ebrill 2023 i 5 Ionawr 2024
Didynnwch brif gyfraniadau (Yswiriant Gwladol y cyflogai) oddi wrth gyflog eich cyflogeion drwy’r system TWE.
| Llythyren gategori Yswiriant Gwladol | Enillion ar neu uwchlaw’r terfyn enillion isaf hyd at a chan gynnwys y prif drothwy | Enillion uwchlaw’r prif drothwy hyd at a chan gynnwys y terfyn enillion uchaf | Balans yr enillion uwchlaw’r terfyn enillion uchaf |
|---|---|---|---|
| A | 0% | 12% | 2% |
| B | 0% | 5.85% | 2% |
| C | sero | sero | sero |
| F (Porthladdoedd Rhydd) | 0% | 12% | 2% |
| H (prentis o dan 25) | 0% | 12% | 2% |
| I (Porthladdoedd Rhydd — cyfradd is ar gyfer gwragedd priod a gwragedd gweddw) | 0% | 5.85% | 2% |
| J | 0% | 2% | 2% |
| L (Porthladdoedd Rhydd — gohirio) | 0% | 2% | 2% |
| M (o dan 21) | 0% | 12% | 2% |
| S (Porthladdoedd Rhydd — pensiynwr y wladwriaeth) | sero | sero | sero |
| V (cyn-filwr) | 0% | 12% | 2% |
| Z (o dan 21 — gohirio) | 0% | 2% | 2% |
Cyfraddau cyfraniadau’r cyflogai (prif gyfraniadau) o 6 Ionawr 2024 i 5 Ebrill 2024
Didynnwch brif gyfraniadau (Yswiriant Gwladol y cyflogai) oddi wrth gyflog eich cyflogeion drwy’r system TWE.
| Llythyren gategori Yswiriant Gwladol | Enillion ar neu uwchlaw’r terfyn enillion isaf hyd at a chan gynnwys y prif drothwy | Enillion uwchlaw’r prif drothwy hyd at a chan gynnwys y terfyn enillion uchaf | Balans yr enillion uwchlaw’r terfyn enillion uchaf |
|---|---|---|---|
| A | 0% | 10% | 2% |
| B | 0% | 3.85% | 2% |
| C | sero | sero | sero |
| F (Porthladdoedd Rhydd) | 0% | 10% | 2% |
| H (prentis o dan 25) | 0% | 10% | 2% |
| I (Porthladdoedd Rhydd — cyfradd is ar gyfer gwragedd priod a gwragedd gweddw) | 0% | 3.85% | 2% |
| J | 0% | 2% | 2% |
| L (Porthladdoedd Rhydd — gohirio) | 0% | 2% | 2% |
| M (o dan 21) | 0% | 10% | 2% |
| S (Porthladdoedd Rhydd — pensiynwr y wladwriaeth) | sero | sero | sero |
| V (cyn-filwr) | 0% | 10% | 2% |
| Z (o dan 21 — gohirio) | 0% | 2% | 2% |
Cyfraddau cyfraniadau’r cyflogwr (cyfraniadau eilaidd) o 6 Ebrill 2023 o 5 Ionawr 2024
Rydych yn talu cyfraniadau eilaidd (Yswiriant Gwladol y cyflogwr) i CThEF fel rhan o’ch bil TWE. Dysgwch ragor am redeg y gyflogres a thalu CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Talu treth TWE ac Yswiriant Gwladol y cyflogwr.
| Llythyren gategori Yswiriant Gwladol | Enillion ar neu uwchlaw’r terfyn enillion isaf hyd at a chan gynnwys y trothwy eilaidd | Enillion uwchlaw’r trothwy eilaidd hyd at a chan gynnwys y trothwy eilaidd uchaf Porthladdoedd Rhydd | Enillion uwchlaw’r trothwy eilaidd uchaf Porthladdoedd Rhydd hyd at a chan gynnwys y terfyn enillion uchaf, y trothwyon eilaidd uchaf i bobl o dan 21, i brentisiaid ac i gyn-filwyr | Balans yr enillion uwchlaw’r terfyn enillion uchaf, y trothwyon eilaidd uchaf i bobl o dan 21, i brentisiaid ac i gyn-filwyr |
|---|---|---|---|---|
| A | 0% | 13.8% | 13.8% | 13.8% |
| B | 0% | 13.8% | 13.8% | 13.8% |
| C | 0% | 13.8% | 13.8% | 13.8% |
| F (Porthladdoedd Rhydd) | 0% | 0% | 13.8% | 13.8% |
| H (prentis o dan 25) | 0% | 0% | 0% | 13.8% |
| I (Porthladdoedd Rhydd — cyfradd is ar gyfer gwragedd priod a gwragedd gweddw) | 0% | 0% | 13.8% | 13.8% |
| J | 0% | 13.8% | 13.8% | 13.8% |
| L (Porthladdoedd Rhydd — gohirio) | 0% | 0% | 13.8% | 13.8% |
| M (o dan 21) | 0% | 0% | 0% | 13.8% |
| S (Porthladdoedd Rhydd — pensiynwr y wladwriaeth) | 0% | 0% | 13.8% | 13.8% |
| V (cyn-filwr) | 0% | 0% | 0% | 13.8% |
| Z (o dan 21 — gohirio) | 0% | 0% | 0% | 13.8% |
Cyfraddau cyfraniadau’r cyflogwr (cyfraniadau eilaidd) o 6 Ionawr 2024 o 5 Ebrill 2024

Cyfarwyddwyr — cyfraddau cyfraniadau (prif gyfraniadau)
Mae’r cyfraddau hyn yn berthnasol ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan pan na ddefnyddir y dull cyfrifo amgen.
Os byddwch yn defnyddio’r dull amgen o gyfrifo — bydd angen i chi ailgyfrifo Yswiriant Gwladol eich cyfarwyddwr gan ddefnyddio dull y cyfnod enillion blynyddol safonol ar ddiwedd y flwyddyn. Defnyddiwch feddalwedd gyflogres i gyfrifo a oes rhagor o gyfraniadau yn ddyledus.
Tynnu prif gyfraniadau Yswiriant Gwladol o’ch cyflog fel cyfarwyddwr drwy TWE.
| Llythyren gategori Yswiriant Gwladol | Enillion ar neu uwchlaw’r terfyn enillion isaf hyd at a chan gynnwys y prif drothwy | Enillion uwchlaw’r prif drothwy hyd at a chan gynnwys y terfyn enillion uchaf | Balans yr enillion uwchlaw’r terfyn enillion uchaf |
|---|---|---|---|
| A | 0% | 11.5% | 2% |
| B | 0% | 5.35% | 2% |
| C | sero | sero | sero |
| F (Porthladdoedd Rhydd) | 0% | 11.5% | 2% |
| H (prentis o dan 25) | 0% | 11.5% | 2% |
| I (Porthladdoedd Rhydd — cyfradd is ar gyfer gwragedd priod a gwragedd gweddw) | 0% | 5.35% | 2% |
| J | 0% | 2% | 2% |
| L (Porthladdoedd Rhydd — gohirio) | 0% | 2% | 2% |
| M (o dan 21) | 0% | 11.5% | 2% |
| S (Porthladdoedd Rhydd — pensiynwr y wladwriaeth) | sero | sero | sero |
| V (cyn-filwr) | 0% | 11.5% | 2% |
| Z (o dan 21 — gohirio) | 0% | 2% | 2% |
Cyfarwyddwyr — cyfraddau cyfraniadau’r cyflogwr (cyfraniadau eilaidd)
Mae’r cyfraddau hyn yn berthnasol ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan pan na ddefnyddir y dull cyfrifo amgen.
Os byddwch yn defnyddio’r dull amgen o gyfrifo — bydd angen i chi ailgyfrifo Yswiriant Gwladol eich cyfarwyddwr gan ddefnyddio dull y cyfnod enillion blynyddol safonol ar ddiwedd y flwyddyn. Defnyddiwch feddalwedd gyflogres i gyfrifo a oes rhagor o gyfraniadau yn ddyledus.
Rydych yn talu cyfraniadau eilaidd (Yswiriant Gwladol y cyflogwr) i CThEF fel rhan o’ch bil TWE. Dysgwch ragor am redeg y gyflogres a thalu CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Talu treth TWE ac Yswiriant Gwladol y cyflogwr.
| Llythyren gategori Yswiriant Gwladol | Enillion ar neu uwchlaw’r terfyn enillion isaf hyd at a chan gynnwys y trothwy eilaidd | Enillion uwchlaw’r trothwy eilaidd hyd at a chan gynnwys y trothwy eilaidd uchaf Porthladdoedd Rhydd | Enillion uwchlaw’r trothwy eilaidd uchaf Porthladdoedd Rhydd hyd at a chan gynnwys y terfyn enillion uchaf, y trothwyon eilaidd uchaf i bobl o dan 21, i brentisiaid ac i gyn-filwyr | Balans yr enillion uwchlaw’r terfyn enillion uchaf, y trothwyon eilaidd uchaf i bobl o dan 21, i brentisiaid ac i gyn-filwyr |
|---|---|---|---|---|
| A | 0% | 13.8% | 13.8% | 13.8% |
| B | 0% | 13.8% | 13.8% | 13.8% |
| C | 0% | 13.8% | 13.8% | 13.8% |
| F (Porthladdoedd Rhydd) | 0% | 0% | 13.8% | 13.8% |
| H (prentis o dan 25) | 0% | 0% | 0% | 13.8% |
| I (Porthladdoedd Rhydd — cyfradd is ar gyfer gwragedd priod a gwragedd gweddw) | 0% | 0% | 13.8% | 13.8% |
| J | 0% | 13.8% | 13.8% | 13.8% |
| L (Porthladdoedd Rhydd — gohirio) | 0% | 0% | 13.8% | 13.8% |
| M (o dan 21) | 0% | 0% | 0% | 13.8% |
| S (Porthladdoedd Rhydd — pensiynwr y wladwriaeth) | 0% | 0% | 13.8% | 13.8% |
| V (cyn-filwr) | 0% | 0% | 0% | 13.8% |
| Z (o dan 21 — gohirio) | 0% | 0% | 0% | 13.8% |
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A: treuliau a buddiannau
Mae’n rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau gwaith rydych yn eu rhoi i’ch cyflogeion — er enghraifft, ffôn symudol y cwmni. Rydych yn rhoi gwybod am, a thalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar, dreuliau a buddiannau ar ddiwedd pob blwyddyn dreth.
Y gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar gyfer 2023 i 2024 yw 13.8%.
Dysgwch ragor am dreuliau a buddiannau ar gyfer cyflogwyr.
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A: dyfarniadau terfynu a thaliadau tystebau chwaraeon
Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn ddyledus ar swm y dyfarniadau terfynu (yn agor tudalen Saesneg) a delir i gyflogeion sy’n fwy na £30,000, ac ar swm y taliadau tystebau chwaraeon a delir gan bwyllgorau annibynnol sy’n fwy na £100,000. Rydych yn rhoi gwybod am ac yn talu Dosbarth 1A ar y mathau hyn o daliadau yn ystod y flwyddyn dreth fel rhan o’ch cyflogres.
Y gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar gyfer dyfarniadau terfynu a thaliadau tystebau chwaraeon ar gyfer 2023 i 2024 yw 13.8%.
Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y cyflogwr.
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B: Cytundebau Setliad TWE (PSA)
Rydych yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B os oes gennych Gytundeb Setliad TWE (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn yn caniatáu i chi wneud taliad blynyddol ar gyfer yr holl dreth a’r Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar dreuliau neu fuddiannau trethadwy bach neu afreolaidd ar gyfer eich cyflogeion.
Y gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B ar gyfer 2023 i 2024 yw 13.8%.
Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B.
Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw’r cyflog isaf yr awr y mae gan bron pob gweithiwr yr hawl iddo yn ôl y gyfraith. Dysgwch ragor am bwy all gael yr isafswm cyflog (yn agor tudalen Saesneg).
Defnyddiwch y gyfrifiannell Isafswm Cyflog Cenedlaethol (yn agor tudalen Saesneg) i wirio a ydych yn talu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i weithwyr neu a oes arnoch daliadau iddynt o flynyddoedd blaenorol.
Mae’r cyfraddau hyn yn gymwys o 1 Ebrill 2023 ymlaen.
| Categori’r gweithiwr | Cyfradd fesul awr |
|---|---|
| 23 oed neuʼn hŷn (cyfradd cyflog byw cenedlaethol) | £10.42 |
| 21 i 22 oed yn gynwysedig | £10.18 |
| 18 i 20 oed yn gynwysedig | £7.49 |
| O dan 18 oed (ond yn hŷn na’r oedran gadael ysgol gorfodol) | £5.28 |
| Prentisiaid o dan 19 oed | £5.28 |
| Prentisiaid 19 oed ac yn hŷn, ond ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth | £5.28 |
Gwirio cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer blynyddoedd blaenorol.
Tâl Mamolaeth Statudol, Tâl Tadolaeth Statudol, Tâl Mabwysiadu Statudol, Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth
Defnyddiwch y gyfrifiannell mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth i gyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo’r canlynol ar gyfer eich cyflogeion:
- Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)
- Tâl Tadolaeth neu Fabwysiadu
- wythnos gymhwysol
- enillion wythnosol cyfartalog
- cyfnod absenoldeb
Mae’r cyfraddau hyn yn gymwys o 2 Ebrill 2023 ymlaen.
| Y math o daliad neu ad-daliad | Cyfradd 2023 i 2024 |
|---|---|
| Tâl Mamolaeth Statudol (SMP) — y gyfradd wythnosol am y 6 wythnos gyntaf | 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai |
| Tâl Mamolaeth Statudol — y gyfradd wythnosol ar gyfer yr wythnosau sy’n weddill | £172.48 neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag sydd isaf |
| Tâl Tadolaeth Statudol (SPP) — cyfradd wythnosol | £172.48 neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag sydd isaf |
| Tâl Mabwysiadu Statudol (SAP) — y gyfradd wythnosol am y 6 wythnos gyntaf | 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai |
| Tâl Mabwysiadu Statudol — y gyfradd wythnosol ar gyfer yr wythnosau sy’n weddill | £172.48 neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag sydd isaf |
| Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP) — cyfradd wythnosol | £172.48 neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag sydd isaf |
| Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth (SPBP) — cyfradd wythnosol | £172.48 neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag sydd isaf |
| SMP, SPP, ShPP, SAP neu SPBP — cyfran o’ch taliadau y gallwch ei hadennill oddi wrth CThEF | 92% os yw cyfanswm eich Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (cyfraniadau’r cyflogai a chyfraniadau’r cyflogwr) yn fwy na £45,000 am y flwyddyn dreth flaenorol 103% os yw cyfanswm eich Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn £45,000 neu lai am y flwyddyn dreth flaenorol |
Tâl Salwch Statudol (SSP)
Mae’r un gyfradd wythnosol o Dâl Salwch Statudol yn gymwys i bob cyflogai. Fodd bynnag, mae’r swm y mae’n rhaid i chi ei dalu mewn gwirionedd i’r cyflogai am bob diwrnod y mae’n absennol o’r gwaith oherwydd salwch (y gyfradd ddyddiol) yn dibynnu ar nifer y ‘diwrnodau cymhwysol’ y mae’n gweithio bob wythnos.
Defnyddiwch y gyfrifiannell Tâl Salwch Statudol (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo tâl salwch eich cyflogai, neu darllenwch am sut i gyfrifo Tâl Salwch Statudol eich cyflogai â llaw (yn agor tudalen Saesneg) gan ddefnyddio’r cyfraddau hyn.
| Cyfraddau dyddiol heb eu talgrynnu | Nifer y diwrnodau cymhwysol yn ystod yr wythnos |
|---|---|
| £15.6285 | 7 |
| £18.2333 | 6 |
| £21.88 | 5 |
| £27.35 | 4 |
| £36.4666 | 3 |
| £54.70 | 2 |
| £109.40 | 1 |
7 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 7 diwrnod cymhwysol mewn wythnos.
| Nifer y diwrnodau i dalu amdanynt | Swm i’w dalu |
|---|---|
| 1 | £15.63 |
| 2 | £31.26 |
| 3 | £46.89 |
| 4 | £62.52 |
| 5 | £78.15 |
| 6 | £93.78 |
| 7 | £109.40 |
6 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 6 diwrnod cymhwysol mewn wythnos.
| Nifer y diwrnodau i dalu amdanynt | Swm i’w dalu |
|---|---|
| 1 | £18.24 |
| 2 | £36.47 |
| 3 | £54.70 |
| 4 | £72.94 |
| 5 | £91.17 |
| 6 | £109.40 |
5 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 5 diwrnod cymhwysol mewn wythnos.
| Nifer y diwrnodau i dalu amdanynt | Swm i’w dalu |
|---|---|
| 1 | £21.88 |
| 2 | £43.76 |
| 3 | £65.64 |
| 4 | £87.52 |
| 5 | £109.40 |
4 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 4 diwrnod cymhwysol mewn wythnos.
| Nifer y diwrnodau i dalu amdanynt | Swm i’w dalu |
|---|---|
| 1 | £27.35 |
| 2 | £54.70 |
| 3 | £82.05 |
| 4 | £109.40 |
3 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 3 diwrnod cymhwysol mewn wythnos.
| Nifer y diwrnodau i dalu amdanynt | Swm i’w dalu |
|---|---|
| 1 | £36.47 |
| 2 | £72.94 |
| 3 | £109.40 |
2 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 2 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.
| Nifer y diwrnodau i dalu amdanynt | Swm i’w dalu |
|---|---|
| 1 | £54.70 |
| 2 | £109.40 |
1 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 1 diwrnod cymhwysol mewn wythnos.
| Nifer y diwrnodau i dalu amdanynt | Swm i’w dalu |
|---|---|
| 1 | £109.40 |
Ad-daliadau Benthyciad Myfyriwr a Benthyciad Ôl-raddedig
Os yw enillion eich cyflogeion uwchlaw’r trothwy enillion, cofnodwch eu didyniadau benthyciad myfyriwr a’u didyniadau benthyciad ôl-raddedig (yn agor tudalen Saesneg) yn eich meddalwedd gyflogres. Bydd yn cyfrifo ac yn didynnu ad-daliadau o’u cyflog yn awtomatig.
| Cyfradd neu drothwy | Cyfradd 2023 i 2024 |
|---|---|
| Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad myfyriwr cynllun 1 | £22,015 y flwyddyn £1,834.58 y mis £423.36 yr wythnos |
| Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad myfyriwr cynllun 2 | £27,295 y flwyddyn £2,274.58 y mis £524.90 yr wythnos |
| Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad myfyriwr cynllun 4 | £27,660 y flwyddyn £2,305 y mis £531.92 yr wythnos |
| Didyniadau Benthyciad Myfyrwyr | 9% |
| Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad ôl-raddedig | £21,000 y flwyddyn £1,750 y mis £403.84 yr wythnos |
| Didyniadau Benthyciad Ôl-raddedig | 6% |
Ceir cwmni: cyfraddau tanwydd ymgynghorol
Defnyddiwch gyfraddau tanwydd ymgynghorol i gyfrifo costau milltiroedd os ydych yn darparu ceir cwmni i’ch cyflogeion.
Mae’r cyfraddau hyn yn gymwys o 1 Rhagfyr 2023 ymlaen.
| Maint yr injan | Petrol — swm y filltir | LPG — swm y filltir |
|---|---|---|
| 1400cc neu lai | 14 ceiniog | 10 ceiniog |
| 1401cc i 2000cc | 16 ceiniog | 12 ceiniog |
| Dros 2000cc | 26 ceiniog | 18 ceiniog |
| Maint yr injan | Diesel — swm y filltir |
|---|---|
| 1600cc neu lai | 13 ceiniog |
| 1601cc i 2000cc | 15 ceiniog |
| Dros 2000cc | 20 ceiniog |
Caiff ceir hybrid eu trin fel ceir petrol neu diesel at y diben hwn.
Gwiriwch gyfraddau tanwydd ymgynghorol am gyfnodau blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).
Cyfradd drydanol ymgynghorol ar gyfer ceir sy’n gwbl drydanol o 1 Rhagfyr 2023 ymlaen
Swm y filltir: 9 ceiniog.
Nid yw trydan yn danwydd at ddibenion buddiant tanwydd ceir.
Cerbydau cyflogeion: taliadau lwfans milltiroedd
Taliadau lwfans milltiroedd yw’r hyn rydych yn ei dalu i’ch cyflogeion am ddefnyddio eu cerbyd eu hunain ar gyfer teithiau busnes.
Gallwch dalu swm cymeradwy o daliadau lwfans milltiroedd i’ch cyflogeion bob blwyddyn heb orfod rhoi gwybod i CThEF amdanynt. I gyfrifo’r swm cymeradwy, lluoswch filltiroedd teithio busnes eich cyflogai am y flwyddyn â chyfradd y filltir ar gyfer ei gerbyd.
Dysgwch ragor am roi gwybod am daliadau lwfans milltiroedd a’u talu (yn agor tudalen Saesneg).
| Math o gerbyd | Cyfradd fesul milltir busnes 2023 i 2024 |
|---|---|
| Car | At ddibenion treth: 45 ceiniog ar gyfer y 10,000 cyntaf o filltiroedd busnes yn ystod blwyddyn dreth, yna 25 ceiniog am bob milltir ddilynol At ddibenion Yswiriant Gwladol: 45 ceiniog ar gyfer yr holl filltiroedd busnes |
| Beic modur | 24 ceiniog at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol ac ar gyfer yr holl filltiroedd busnes |
| Beic | 20 ceiniog at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol ac ar gyfer yr holl filltiroedd busnes |
Lwfans Cyflogaeth
Mae’r Lwfans Cyflogaeth yn caniatáu i gyflogwyr cymwys (yn agor tudalen Saesneg) ostwng eu rhwymedigaeth Yswiriant Gwladol flynyddol hyd at swm y lwfans blynyddol.
| Lwfans | Cyfradd 2023 i 2024 |
|---|---|
| Lwfans Cyflogaeth | £5,000 |
Ardoll Brentisiaethau
Mae cyflogwyr a chwmnïau cysylltiedig sydd â chyfanswm bil cyflogau blynyddol o dros £3 miliwn yn agored i dalu’r Ardoll Brentisiaethau (yn agor tudalen Saesneg), sy’n daladwy bob mis. Bydd gan gyflogwyr nad ydynt yn gysylltiedig â chwmni neu elusen arall lwfans blynyddol sy’n gostwng y swm o Ardoll Brentisiaethau y mae’n rhaid i chi ei thalu. Codir yr Ardoll Brentisiaethau ar sail canran o’ch bil cyflog blynyddol.
| Lwfans neu dâl | Cyfradd 2023 i 2024 |
|---|---|
| Lwfans Ardoll Brentisiaethau | £15,000 |
| Tâl Ardoll Brentisiaethau | 0.5% |
Updates to this page
-
Information has been added to clarify that if you use the alternative calculation method, at the end of the year, director’s National Insurance will need to be recalculated using the standard annual earnings period method.
-
The rates for National Insurance category letter Z in the the employee (primary) contribution rates from 6 April 2023 to 5 January 2024 table have been amended.
-
Class 1 National Insurance contribution rates tables have been added for directors and employers for 6 January 2024 to 5 April 2024. Advisory fuel rates have been updated.
-
The Income Tax rates and thresholds for Wales for the tax year 2023 to 2024 have been approved by Parliament.
-
First published.