Canllawiau

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 'Dull Newydd': canllaw manwl

Mwy o fanylion manwl am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 'Dull Newydd' i randdeiliaid a hawlwyr.

Trosolwg

Os ydych yn sâl neu gyda chyflwr iechyd neu anabledd sy’n cyfyngu ar eich gallu i weithio, efallai y gallwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) ‘Dull Newydd’.

Mae ESA ‘Dull Newydd’ yn daliad bob pythefnos gall gael ei hawlio ar ei ben ei hun neu ar yr un pryd â Chredyd Cynhwysol (UC).

Mae ESA ‘Dull Newydd’ yn fudd-dal sy’n seiliedig ar gyfraniadau. Fel arfer, mae hyn yn golygu efallai y byddwch yn gallu ei gael os ydych wedi talu a/neu wedi cael eich credydu gyda digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y ddwy flwyddyn dreth lawn cyn y flwyddyn rydych yn gwneud cais ynddi.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael mewn ffurf hawdd i’w ddarllen.

Cymhwyster

I gael ESA ‘Dull Newydd’ bydd angen i chi fod wedi bod yn gyflogai neu’n hunangyflogedig ac wedi talu (neu wedi’ch credydu â) chyfraniadau Yswiriant Gwladol, fel arfer yn y 2 i 3 blynedd diwethaf.

Gallwch gael ESA ‘Dull Newydd’ ar ei ben ei hun neu ar yr un pryd â Chredyd Cynhwysol. Os ydych yn gwneud cais am y ddau fudd-dal a ddyfarnwyd y ddau fudd-dal i chi, bydd yr ESA ‘Dull Newydd’ rydych yn cael ei dalu yn lleihau eich taliad Credyd Cynhwysol o’r un swm.

Ni chewch unrhyw ESA ‘Dull Newydd’ os ydych yn cael Tâl Salwch Statudol (SSP) ond gallwch wneud cais hyd at 3 mis cyn i’ch SSP ddod i ben. Os ydych yn cael ESA ‘Dull Newydd’, caiff ei dalu cyn gynted ag y daw eich SSP i ben.

Sut i wneud cais

Gwneud cais ar-lein

Gallwch wneud cais am ESA Dull Newydd ar-lein.

Byddwch angen:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • rhif cyfrif a chod didoli eich banc neu gymdeithas adeiladu (gallwch ddefnyddio cyfrif ffrind neu aelod o’r teulu os nad oes gennych un)
  • enw, cyfeiriad a rhif ffôn eich meddyg
  • nodyn ffitrwydd (a elwir hefyd yn ‘nodyn salwch’ neu ‘datganiad ffitrwydd am waith’) os nad ydych wedi gallu gweithio am fwy na 7 diwrnod cydlynol oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd
  • manylion eich incwm os ydych yn gweithio
  • y dyddiad y bydd eich Tâl Salwch Statudol (SSP) yn dod i ben os ydych yn ei hawlio

Mae’n rhaid i chi wneud cais dros y ffôn os ydych yn benodai sy’n gwneud cais ar ran rhywun arall.

Ni allwch gael ESA Dull Newydd os ydych yn cael Tâl Salwch Statudol (SSP) gan gyflogwr. Gallwch wneud cais am ESA Dull Newydd hyd at 3 mis cyn bydd eich SSP yn dod i ben.

Gwneud cais nawr

Os na allwch wneud cais ar-lein

Ffoniwch linell gymorth ceisiadau newydd y Ganolfan Byd Gwaith os:

  • ni allwch wneud cais ar-lein
  • rydych yn benodai i rywun

Llinell gymorth ceisiadau newydd y Ganolfan Byd Gwaith

Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 055 6688
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 055 6688
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Ar ôl i chi wneud cais

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gwneud apwyntiad i siarad â chi, naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.

Y Broses ESA ‘Dull Newydd’: beth i’w ddisgwyl

1. Dechrau eich cais

Dechreuwch eich cais ar-lein neu trwy ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

2. Mynychu’r apwyntiad gyda’ch anogwr gwaith

Mynychu eich ‘apwyntiad cais newydd’ a chytuno gyda’ch anogwr gwaith pa weithrediadau sydd angen i chi eu cymryd i gael taliadau. Gelwir hwn yn ‘Ymrwymiad Hawlydd’. Bydd yr apwyntiad fel arfer dros y ffôn.

Os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud bod gennych lai na 12 mis i fyw, ni fydd angen i chi fynd i apwyntiad na gwneud Ymrwymiad Hawlydd. Darganfyddwch fwy am gael budd-daliadau os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud wrthych y gallai fod gennych lai na 12 mis i fyw.

3. Hysbysiad a’r taliad cyntaf

Byddwch yn cael llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn dweud wrthych os byddwch yn cael ESA ‘Dull Newydd’ a faint.

4. Darparu diweddariadau am eich iechyd a’ch amgylchiadau

Er mwyn parhau i gael ESA ‘Dull Newydd’ mae’n rhaid i chi anfon nodiadau ffitrwydd yn rheolaidd a rhoi gwybod am unrhyw newid yn eich amgylchiadau.

Darganfyddwch sut i anfon nodyn ffitrwydd i DWP

Mwy o wybodaeth ar rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau

5. Cwblhau a dychwelyd y ffurflen ESA50W

Byddwch yn derbyn ffurflen ESA50W trwy’r post, fel arfer o fewn 4 wythnos i’ch taliad cyntaf. Mae’r ffurflen ESA50W yn holiadur gallu i weithio ac mae’n gyfle i chi ddweud wrth DWP sut mae eich cyflwr iechyd, anabledd neu salwch yn effeithio ar eich gallu i weithio. Mae’n rhaid i chi anfon y ffurflen yn ôl o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad rydych yn ei derbyn gan DWP.

Os ydych hefyd yn hawlio Credyd Cynhwysol gelwir y ffurflen yn UC50W, a bydd ond angen i chi gwblhau un ffurflen.

6. Eich Asesiad Gallu i Weithio

Ar ôl i chi ddychwelyd eich ffurflen ESA50W efallai y gofynnwyd i chi fynd am asesiad, a elwir yn ‘Asesiad Gallu i Weithio’. Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu dyddiad ac amser ar gyfer yr asesiad.

Mae’r Asesiad Gallu i Weithio yn cael ei ddefnyddio i ddarganfod faint mae eich cyflwr iechyd, anabledd neu salwch yn effeithio ar eich gallu i weithio. Mae’n asesu beth allwch ei wneud, yn ogystal â’r hyn na allwch ei wneud.

Bydd cwestiynau yn cael eu gofyn i chi am sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch yn eich bywyd bob dydd. Mae’n rhoi cyfle i chi esbonio a all, a sut, bydd eich cyflwr iechyd neu anabledd amrywio dros amser.

Gall asesiadau fod yn bersonol, trwy alwad fideo neu ar y ffôn. Fe’ch hysbysir sut y bydd eich asesiad yn digwydd.

Byddwch yn aros ar y ‘gyfradd asesu’ hyd nes y gellir benderfynu ar eich Asesiad Gallu i Weithio.

Mwy o wybodaeth am Asesiadau Gallu i Weithio.

Os ydych yn hawlio ESA ‘Dull Newydd’ a Chredyd Cynhwysol bydd ond angen i chi fynd i un Asesiad Gallu i Weithio.

7. Llythyr penderfyniad

Cewch lythyr gyda phenderfyniad ynghylch a oes gennych allu cyfyngedig i weithio neu allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith, ac os byddwch yn parhau i gael ESA ‘Dull Newydd’. Bydd hefyd yn dweud wrthych a fydd angen i chi gael eich asesu eto rywbryd yn y dyfodol.

Os oes angen i chi gael eich asesu eto yn y dyfodol, cewch ffurflen ESA50W arall ar yr adeg briodol. Mae hyn fel arfer yn digwydd o fewn 3 blynedd.

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad, gallwch ofyn i’r penderfyniad gael ei ystyried eto - gelwir hyn yn ailystyriaeth orfodol.

Os ydych yn hawlio ESA ‘Dull Newydd’ a Chredyd Cynhwysol byddwch yn cael 2 lythyr penderfyniad. Os byddwch yn methu â dychwelyd y ffurflen UC50W neu nad ydych yn mynd i’r Asesiad Gallu i Weithio, ni fyddwch yn gymwys i gael ESA ‘Dull Newydd’ a Chredyd Cynhwysol.

Ar ôl i’ch cais gael ei asesu

Os ydych yn gymwys am ESA byddwch yn cael eich gosod mewn un o 2 grŵp:

  • grŵp gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith (ni allwch weithio nawr, ond gallwch baratoi at weithio yn y dyfodol, er enghraifft drwy ysgrifennu CV)
  • grŵp cymorth (ni allwch weithio nawr ac nid oes disgwyl i chi baratoi at waith yn y dyfodol)

Byddwch:

  • fel arfer yn y grŵp cymorth os yw eich salwch neu anabledd yn cyfyngu’n ddifrifol ar yr hyn y gallwch ei wneud
  • yn y grŵp cymorth os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud bod gennych lai na 12 mis i fyw

Os ydych yn y grŵp gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith

Mae’n rhaid i chi fynychu cyfweliadau rheolaidd gydag anogwr gwaith. Maent yn gallu eich helpu i wella eich sgiliau neu ysgrifennu CV i’ch helpu yn ôl i’r gwaith.

Os ydych yn y grŵp cymorth

Rydych fel arfer yn y grŵp hwn os yw eich salwch neu’ch anabledd yn rhoi terfyn difrifol ar yr hyn y gallwch eu gwneud. Nid oes rhaid i chi fynychu cyfweliadau. Gallwch ddweud wrth eich anogwr gwaith os hoffech gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith.

Faint o ESA ‘Dull Newydd’ i’w ddisgwyl

Cyfnod asesu

Mae’r 13 wythnos gyntaf o’ch cais yn cael eu galw’n ‘cyfnod asesu’ a bydd y lwfans sylfaenol yn cael ei dalu i chi.

Mae faint fyddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich oedran:

  • rhwng 18 a 24 oed – hyd at £71.70 (yr wythnos)
  • 25 oed a throsodd – hyd at £90.50 (yr wythnos)

Prif gyfnod

Unwaith y byddwch wedi cael eich canfod i fod â gallu cyfyngedig i weithio, byddwch yn symud i’r ‘prif gyfnod’ ar gyfer ‘ESA Dull Newydd’ a byddwch yn cael y lwfans sylfaenol, yn ogystal ag ‘elfen gymorth’ os ydych yn cael eich gosod yn y grŵp cymorth.

  • lwfans sylfaenol (cyfradd safonol) – hyd at £90.50 (yr wythnos)
  • elfen gymorth – £47.70 (yr wythnos)

Taliad

Mae ESA ‘Dull Newydd’ yn cael ei dalu ar ddiwedd bob pythefnos i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.

Incwm pensiwn

Os ydych yn cael pensiwn galwedigaethol neu bersonol sy’n talu mwy na £85 yr wythnos, bydd eich taliad ESA ‘Dull Newydd’ yn cael ei leihau gan hanner y swm dros y terfyn o £85.

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Mae angen i chi roi gwybod am newidiadau i’ch amgylchiadau fel eich bod yn parhau i gael y swm cywir o ESA ‘Dull Newydd’ (a Chredyd Cynhwysol os ydych yn hawlio’r ddau).

Mae’n bosibl y bydd eich hawl yn cael ei stopio neu ei leihau os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid ar unwaith.

Gall newid mewn amgylchiadau gynnwys:

  • unrhyw newidiadau i’ch cyflwr iechyd neu anabledd
  • mynd i’r ysbyty neu gartref gofal neu lety gwarchod
  • dechrau neu roi’r gorau i waith, addysg, hyfforddiant neu brentisiaeth
  • symud tŷ
  • newid eich enw
  • newidiadau i’ch pensiwn
  • newid eich meddyg
  • mynd dramor am unrhyw gyfnod o amser

Ffoniwch linell gymorth ESA ‘Dull Newydd’ os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi roi gwybod am newid.

Sut i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Gallwch roi gwybod am newid mewn amgylchiadau trwy:

  • ffonio’r llinell gymorth ESA ‘Dull Newydd’
  • ysgrifennu at swyddfa’r Ganolfan Byd Gwaith sy’n talu eich ESA ‘Dull Newydd’ - mae’r cyfeiriad ar y llythyrau a gewch am eich ESA ‘Dull Newydd’

Llinell gymorth ESA ‘Dull Newydd’

Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Relay UK – os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn: 18001 yna 0800 169 0310
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm

Darganfyddwch am gostau galwadau

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol yn ogystal ag ESA ‘Dull Newydd’, mae’n rhaid i chi roi gwybod am newidiadau i’r ddau wasanaeth.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK – os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn: 18001 yna 0800 328 5644
Llinell Saesneg: 0800 328 5644
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Darganfyddwch am gostau galwadau

Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ‘video relay service’

I ddefnyddio hwn, bydd angen i chi:

gwirio os ydych yn gallu defnyddio’r gwasanaeth

Mae’r ‘video relay service’ ar gael dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm.

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon cysylltwch â’r NI Direct Employment and Support Allowance Centre’.

Os ydych yn derbyn sancsiwn

Gall eich ESA gael ei ostwng os nad ydych yn mynychu cyfweliadau neu wneud gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith fel y cytunwyd gyda’ch anogwr gwaith yn eich ‘Ymrwymiad Hawlydd’. Gall y gostyngiad hwn barhau hyd at 4 wythnos ar ôl i chi ail-ddechrau weithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith.

Byddwch yn derbyn llythyr yn datgan efallai y byddwch yn derbyn sancsiwn. Dywedwch wrth eich anogwr gwaith os oes gennych reswm da am beidio â gwneud yr hyn y cytunwyd yn eich ‘Ymrwymiad Hawlydd’.

Byddwch yn derbyn llythyr arall os yw’r penderfyniad yn cael ei wneud i roi sancsiwn. Bydd eich budd-dal dim ond yn cael ei effeithio ar ôl gwneud penderfyniad.

Dylech gysylltu â’ch cyngor lleol yn syth os ydych yn hawlio Budd-dal Tai neu Gostyngiad Treth Cyngor. Byddant yn dweud wrthych yr hyn y dylech eu gwneud i barhau i gael cefnogaeth.

Os ydych yn derbyn sancsiwn gallwch ofyn i’r penderfyniad gael ei edrych arno eto.

Ni fyddwch yn derbyn sancsiwn os ydych yn y grŵp cymorth.

Cyhoeddwyd ar 17 June 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 April 2024 + show all updates
  1. Updated with the latest benefit rates, effective from 8 April 2024.

  2. Updated with the latest benefit rates, effective from 10 April 2023.

  3. Link to Easy Read version of the guidance has been added.

  4. From 1 July 2022, you can get a fit note to support your claim from a registered nurse, occupational therapist, pharmacist or physiotherapist. as well as from a GP or hospital doctor.

  5. Removed guidance on claiming New Style Employment and Support Allowance (ESA) if you had to self isolate because of coronavirus (COVID-19). You can no longer claim ESA under the rules introduced during the pandemic for people who had to self isolate.

  6. Updated with the latest benefit rates, effective from 11 April 2022.

  7. People near the end of their life who have been told by a medical professional that they might have less than 12 months to live, do not need attend an appointment at the start of their claim for Employment and Support Allowance or make a Claimant Commitment and they will be put in the 'support group'. This has changed from 6 months.

  8. Updated the guidance on claiming New Style Employment and Support Allowance because of coronavirus (COVID-19) because the temporary eligibility rules have ended.

  9. The service to apply for New Style Employment and Support Allowance will be unavailable from 6pm on Thursday 17 March to 00:01am on Friday 18 March.

  10. Updated to explain a change to the rules for claiming Employment and Support Allowance that mean if a medical professional has said you have less than 6 months to live, you will not need a Claimant Commitment and you will be placed in the support group after your claim is assessed.

  11. Added a message about not having to provide fit notes (sick notes) until 27 January 2022 to give GPs more time to work on the coronavirus vaccination boosters.

  12. Updated the eligibility conditions for New Style ESA if you've been affected by coronavirus (COVID-19) for the new rules on returning from abroad.

  13. Removed guidance on claiming New Style Employment and Support Allowance (ESA) because you or your child were advised to ‘shield’ (take extra precautions to reduce contact with others) because you’re at very high risk of severe illness from COVID-19. Shielding in England, Scotland and Wales has stopped and the time limit for making a backdated claim has passed.

  14. Updated because face-to-face Work Capability Assessments have resumed for some claimants.

  15. Added guidance about needing to attend an interview with a work coach after you have made a claim and attending regular interviews with a work coach if you are in the 'work-related activity group'.

  16. Updated with the latest rates effective from 12 April 2021.

  17. Shielding in England and Wales has stopped. You can still apply for ESA if you were shielding in England or shielding in Wales before 1 April 2021, or if you’re shielding in Scotland.

  18. Updated the opening hours of the New Style ESA helpline to 8am to 5pm, Monday to Friday.

  19. Replaced guidance that you do not need to go to an appointment with a work coach at the moment with new guidance that DWP will make an appointment to talk to you, either over the phone or face-to-face.

  20. Added guidance on evidence you'll need to provide if you're claiming New Style Employment and Support Allowance because of coronavirus (COVID-19).

  21. Updated guidance to explain that Work Capability Assessments are currently taking place over the phone because of coronavirus (COVID-19).

  22. Universal Credit claimants should now apply for New Style Employment and Support Allowance online or by phone instead of through their online account.

  23. Updated guidance with link to new service to apply for New Style Employment and Support Allowance online and for new eligibility conditions introduced because of coronavirus (COVID-19).

  24. Updated with new rates effective from 6 April 2020.

  25. First published.