Anfon eich nodyn ffitrwydd ar gyfer eich cais ESA

Byddwch yn cael gwybod yn ystod eich cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) Dull Newydd pan fydd angen i chi anfon nodyn ffitrwydd (a elwir weithiau’n ‘nodyn salwch’ neu ‘ddatganiad ffitrwydd i weithio’).

Dim ond rhai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol all roi nodyn ffitrwydd i chi

Anfon eich nodyn ffitrwydd ar-lein

Byddwch angen eich rhif Yswiriant Gwladol a naill ai:

  • nodyn ffitrwydd digidol, wedi’i gwblhau gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol
  • nodyn ffitrwydd sydd wedi’i argraffu, a’i lofnodi gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol - bydd angen llun neu gopi i lanlwytho

Mae’r gwasanaeth ar-lein ar gael yn Saesneg (English) hefyd.

Dechrau nawr

Ffyrdd eraill o wneud cais

Gallwch bostio eich nodyn ffitrwydd. Os ydych angen anfon unrhyw dystiolaeth feddygol arall, mae’n rhaid i chi ei bostio.

Anfonnwch eich nodyn ffitrwydd neu dystiolaeth feddygol arall i:

Freepost DWP ESA 26