Canllawiau

Gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth (FOI) i DWP

Sut i wneud cais Rhyddid Gwybodaeth (FOI) i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Applies to England, Scotland and Wales

Darllenwch am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI) a sut i wneud cais.

Gwiriwch ein datganiadau blaenorol i weld a ydym eisoes wedi ateb eich cwestiwn.

Rydym yn aml yn cael ymholiadau am y pynciau canlynol. Ni all tîm Rhyddid Gwybodaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau ddelio â’r rhain. Gwiriwch y canllawiau os oes angen i chi:

Cysylltwch â’r swyddfa rydych chi’n delio â hi fel arfer os oes gennych gwestiwn am eich cais am fudd-dal neu’ch Pensiwn Newydd y Wladwriaeth.

Gofynnwch am wybodaeth sydd gan DWP amdanoch chi

Mae gennych hawl i gael copi o’r wybodaeth a gedwir amdanoch chi. Weithiau gelwir hyn yn gais ‘hawl mynediad’.

Gofynnwch am y wybodaeth bersonol sydd gan DWP amdanoch chi.

Darllenwch y siarter gwybodaeth bersonol DWP i ddarganfod sut a pham mae DWP yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol a’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau.

Gwneud cais am Ryddid Gwybodaeth

Gwnewch gais newydd trwy gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol.

Trwy ebost

E-bost: freedom-of-information-request@dwp.gov.uk

Trwy post

Freedom of Information requests
Department for Work and Pensions
Caxton House
Tothill Street
London
SW1H 9NA
United Kingdom

Peidiwch ag anfon ceisiadau budd-dal i’r cyfeiriad hwn, ni ymdrinnir â nhw.

Darganfyddwch sut i wneud cais am fudd-daliadau.

Cyhoeddwyd ar 28 September 2020