Carchar Lewes
Mae Lewes yn garchar i ddynion yn Lewes, Dwyrain Sussex.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.
Bwcio a chynllunio eich ymweliad â Lewes
I ymweld â rhywun yn Lewes, rhaid i chi:
- bod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
- bwcio eich ymweliad o leiaf 24 awr ymlaen llaw
- bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd
Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.
Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall carcharor eu cael. Gallwch wirio hyn gyda Lewes.
Cysylltwch â Lewes os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.
Help gyda chost eich ymweliad
Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:
- teithio i Lewes
- rhywle i aros dros nos
- prydau bwyd
Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau
Gallwch drefnu eich ymweliad ar-lein..
Rhaid i chi gyrraedd o leiaf 45 munud cyn eich ymweliad i ganiatáu diogelwch a phrosesu.
Mae carchar Lewes yn gallu cynnig ymweliadau cymdeithasol a phroffesiynol i’r rheini sydd â phryderon symudedd. Anfonwch e-bost at SocialVisits.Lewes@justice.gov.uk, os oes angen cymorth arnoch chi gyda’ch ymweliad oherwydd pryderon symudedd. Os oes angen i chi newid unrhyw wybodaeth am eich archeb ar-lein, cysylltwch â SocialVisits.Lewes@justice.gov.uk gyda’ch ceisiadau.
Amseroedd ymweld
- Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Sadwrn a dydd Sul, 2pm i 3:30pm
Sut i drefnu ymweliadau swyddogol
Amseroedd ar gyfer ymweliadau swyddogol drwy fideo:
- Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am to 4:30pm
- Dydd Sadwrn i ddydd Sul, 9am i 11:30am a 2pm i 4pm
Gallwch drefnu ymweliadau wyneb yn wyneb swyddogol drwy:
- e-bostio legalvisits.lewes@justice.gov.uk
- ffonio 01273 785 135 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan hanner dydd ac 1pm tan 4:30pm)
Amseroedd ymweliadau wyneb yn wyneb swyddogol:
- Dydd Llun, 2pm to 4pm
- Dydd Mawrth, 2pm to 4pm
- Dydd Mercher, 9am to 11:30am
- Dydd Iau, 2pm to 4pm
- Dydd Gwener, 9am to 11:30am
- Dydd Sadwrn, 2pm to 4pm
- Dydd Sul, 9am to 11:30am and 2pm to 4pm
Sut mae trefnu ymweliadau Dyddiau Cynnar
Mae unrhyw un sydd newydd gael euogfarn (dim wedi’u galw’n ôl nac ar remand) yn gallu cael ymweliad ‘dyddiau cynnar’ os oes rhai ar gael. Pan fydd y rhain ar gael, bydd hyn yn digwydd o fewn 72 awr a dim ond i hyd at 3 ymwelydd dros 18 oed.
Gall ymwelwyr drefnu’r rhain drwy e-bostio SocialVisits.Lewes@justice.gov.uk.
Mae hi’n bosibl i’r rhai nad ydynt yn gallu ymweld wyneb yn wyneb ddefnyddio ap fideo’r carchar.
Amseroedd ymweld:
- Dydd Mercher, dydd Gwener a dydd Sul, 9am tan 11:30am
Cyrraedd Lewes
Lewes yw’r orsaf drenau agosaf. Gallwch chi gael tacsi 5 munud i’r carchar neu mae’n cymryd 25 munud i gerdded yno.
I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:
- defnyddiwch National Rail Enquiries
- defnyddiwch Traveline ar gyfer amseroedd bysiau lleol
Dim ond deiliaid Bathodyn Glas sy’n cael parcio yn y carchar. Mae 2 le wrth ymyl y ganolfan ymwelwyr. Dywedwch wrth staff y carchar eich bod yn parcio yma, dangoswch eich Bathodyn Glas iddyn nhw a rhowch eich rhif cofrestru cerbyd iddynt. Gall staff y ganolfan ymwelwyr eich helpu gyda hyn.
Mae parcio ar fesurydd ar y ffyrdd y tu allan i’r carchar.
Mynd i mewn i Lewes
Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.
-
bydd pob ymwelydd yn cael chwiliad ‘patio i lawr’, gan gynnwys plant. Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd
-
mae gan Lewes bolisi cod gwis, sy’n golygu y dylai ymwelwyr wisgo dillad ystyriol o deuluoedd (dim festiau, dim topiau isel, dim trowsus byr, dim ffrogiau byr, a dim penwisg, ar wahân i’r rheini a wisgir am resymau crefyddol). Efallai y cewch eich troi i ffwrdd os ydych yn gwisgo eitemau fel dillad sy’n dangos cnawd neu ddillad gyda sloganau sarhaus
-
mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Lewes. Os nad ydych chi’n siŵr, gofynnwch am gyngor wrth drefnu eich ymweliad. Mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi ceir
-
mae Lewes yn derbyn arian parod yn unig. Gall pob ymwelydd sy’n oedolyn ddod â hyd at £25 mewn nodiadau £10, nodiadau £5 ac arian mân efo nhw i’w wario ar luniaeth poeth ac oer. (Ni chaniateir nodiadau £20.) Mae’r peiriant gwerthu yn derbyn arian mân, felly dewch ag arian mân efo chi, gan efallai ni fyddwn yn gallu helpu gyda rhoi newid
-
wrth ymweld â’ch partner, aelod o’r teulu neu ffrind, mae disgwyl i chi fod yn gwrtais ac yn barchus tuag at yr holl ymwelwyr eraill a’r holl staff. Mae gan Garchar Lewes yr hawl i wrthod mynediad neu derfynu ymweliad os yw ymwelydd yn sarhaus neu’n ymosodol tuag at unrhyw ymwelydd, carcharor neu aelod arall o staff
Cyfleusterau ymweld
Mae PACT yn rhedeg y ganolfan ymwelwyr gyda theganau a deunyddiau celf a man chwarae bach i blant. Bydd lluniaeth ar gael i’w brynu yn ystod eich ymweliad.
Os oes gennych chi anabledd, rhowch wybod i’r carchar a byddan nhw’n gwneud yn siŵr bod eich ymweliad ar y lefel isaf.
Mae peiriannau gwerthu ar gael yn y ganolfan ymweld. (Dewch â newid mân i’w ddefnyddio os gwelwch yn dda.)
Ymweliadau teulu
. Mae carchar Lewes wedi cyflwyno dull newydd o ran Ymweliadau Teulu a oedd gynt yn cael eu galw’n Ddiwrnodau Teulu
Bydd pob diwrnod yn cael ei rannu’n ddwy sesiwn, un yn cael ei chynnal yn y bore, ac un yn cael ei chynnal yn y prynhawn. Er y bydd yr Ymweliadau Teulu yn fyrrach (3 awr y sesiwn) bydd cael dwy sesiwn yn helpu mwy o garcharorion i gael y cyfle i wneud cais am y digwyddiadau hyn a threulio amser gyda’u hanwyliaid.
- rhaid i bob ymwelydd fod ar restr ymwelwyr cymeradwy’r carcharor
- mae plant yn cael eu hystyried yn oedolion o’u pen-blwydd yn 18 oed
- mae ceisiadau’n cael eu cyflwyno gan y carcharorion ac yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Ymweliadau Teulu
- mae ceisiadau’n cael eu hystyried yn unigol, gan ystyried nifer o bwyntiau gan gynnwys y lle sydd ar gael yn y Neuadd Ymweliadau
- mae carchar Lewes yn cael ei lywodraethu gan y rheoliadau Iechyd a Diogelwch mewn perthynas â nifer y bobl sy’n cael bod yn y Neuadd Ymweliadau ar unrhyw un adeg
- bydd y ffigur hwn hefyd yn cynnwys Staff a PACT
- bydd amseroedd y sesiynau rhwng 9am a 12pm a 2pm a 5pm
- mae’r model newydd yn caniatáu i hyd at 20 o garcharorion a’u teuluoedd gymryd rhan yn y digwyddiad ym mhob sesiwn
- bydd gweithgareddau i blant ar gael
- darperir lluniaeth ysgafn hefyd gan PACT, a bydd y Siop Byrbrydau hefyd ar agor fel arfer lle gall eich teuluoedd brynu lluniaeth ysgafn
Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn Lewes
Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yn Lewis.
Galwadau fideo diogel
I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:
- Lawrlwytho ap Fideo’r Carchar
- Creu cyfrif
- Cofrestru pob ymwelydd
- Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.
Sut i drefnu galwad fideo ddiogel
Gallwch ofyn am alwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn drwy ap Prison Video.
Byddwch yn cael hysbysiad pan fydd eich cais wedi cael ei dderbyn.
Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio
Galwadau ffôn
Mae gan garcharorion ffonau yn eu celloedd ond bydd yn rhaid iddyn nhw eich ffonio chi bob amser. Maent yn prynu credydau ffôn i wneud hyn a gallant ffonio ar unrhyw adeg rhwng 6am a hanner nos.
Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.
Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.
Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.
E-bost
Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yn Lewes drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.
Llythyrau
Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.
Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen. Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Lewes.
Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.
Bob wythnos, gall carcharorion anfon 2 lythyr ail ddosbarth ac un llythyr cyfreithiol dosbarth cyntaf.
Radio Cenedlaethol y Carchardai - Sioe i Deulu a Ffrindiau Ddewis y Caneuon
Mae Radio Cenedlaethol y Carchardai yn darlledu i holl gelloedd y carchardai ledled Cymru a Lloegr, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gall teulu a ffrindiau gadw mewn cysylltiad gyda’u hanwyliaid yn y carchardai trwy anfon ceisiadau am ganeuon, negeseuon ysgrifenedig neu recordiadau llais. Yna bydd y rhain yn cael eu darllen allan ar y radio neu’n cael eu chwarae yn ystod y sioe wythnosol.
Gallwch anfon neges atom, a gwrando ar y sioe yn nationalprisonradio.com
Anfon arian a rhoddion
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.
Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:
- os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
- os nad oes gennych chi gerdyn debyd
Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.
Rhoddion a pharseli
Ar hyn o bryd, ni chewch chi ddod ag unrhyw eitemau i Garchar Lewes ar gyfer yr unigolyn rydych chi’n ymweld ag ef.
Mae ein prosesau yma yn Lewes yn galluogi pob carcharor i wneud cais i eitemau gael eu hanfon i mewn, eitemau sy’n briodol i’w Lefel IEP a’u statws presennol; ar remand neu wedi’u dyfarnu’n euog.
Prosesu
Er mwyn i eitemau gael eu hanfon i mewn, mae’n rhaid i garcharorion gyflwyno cais i’r Tîm Derbyn, gan amlinellu’r hyn y maen nhw’n gofyn amdano.
Bydd y Tîm Derbyn yn adolygu’r ceisiadau ac naill ai’n eu cymeradwyo neu’n eu gwrthod. Bydd y cais wedyn yn cael ei ddychwelyd i’r carcharor ar ei adain.
Os bydd y cais yn cael ei gymeradwyo, bydd yn cael ei ddychwelyd i’r carcharor a bydd copi’n cael ei anfon i’r Porthdy ‘y fynedfa i Garchar Lewes’. Dim ond ar ôl gais y carcharor gael ei gymeradwyo, y dylai ofyn i aelod o’r teulu neu ffrind anfon yr eitemau ato. Sylwch, wrth anfon parsel i Garchar Lewes, mae’n rhaid i chi gofnodi eich enw a’ch cyfeiriad (yr anfonwr) ar y tu allan i’r pecyn. Mae hefyd yn ofynnol i chi restru’n glir yr holl eitemau sydd o fewn y parsel, hefyd ar y tu allan i’r parsel.
Fodd bynnag, gellir anfon llyfrau at y carcharor yn uniongyrchol heb i’r carcharor orfod cyflwyno cais. Mae hyn yn cynnwys llyfrau sy’n cael eu prynu o un o’r ‘Manwerthwyr Cymeradwy’, ond mae anfonwyr yn cael eu cynghori i nodi’r cynnwys yn glir fel ‘Llyfrau’ gyda’u henw a’u cyfeiriad dychwelyd y tu allan i’r parsel.
Manwerthwyr Cymeradwy
- Blackwell
- Foyles Waterstones
- Mr B’s Emporium of reading delights
- Wordery
- W.H Smiths
- Housman’s
- Incentive plus
- Prisons Org UK
Ni ddylid anfon unrhyw lyfr sydd wedi’i brynu gan fanwerthwr sydd ddim ar y rhestr manwerthwyr cymeradwy yn uniongyrchol at garcharor yng Ngharchar Lewes. Rhaid anfon y llyfrau hyn yn uniongyrchol at aelod o’r teulu/ffrind, a fydd yna angen anfon y llyfrau at y carcharor fel y disgrifir uchod.
Mae carcharorion yn cael gwneud cais i eitemau gael eu hanfon i’r carchar yn ystod eu 28 diwrnod cyntaf yng Ngharchar Lewes. Ar ôl hynny, gall pob carcharor ofyn i eitemau pellach gael eu hanfon i mewn unwaith bob 12 mis, neu pan fyddant wedi cael IEP (Cymhellion a Breintiau a Enillir) Uwch
Mae rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy ar gael yn - Polisi Cymhellion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Atodiad F.
Mae ‘rhestr cyfleusterau’ Carchar Lewes yn dweud wrthych beth sy’n cael ei ganiatáu mewn parseli ac mae ar gael yn y ganolfan ymwelwyr.
Bydd pob parsel yn cael ei roi drwy belydr-x, yn cael ei archwilio gan gŵn chwilio ac yn cael ei brofi am gyffuriau anghyfreithlon cyn ei drosglwyddo i’r derbynnydd arfaethedig.
Bydd parseli neu eitemau yn y parsel sy’n cynnwys neu’n halogi eitemau anghyfreithlon, yn cael eu hatafaelu a’u trosglwyddo i’r heddlu i weithredu ymhellach.
Bywyd yn Lewes
Mae Lewes wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.
Diogelwch a diogelu
Mae gan bob carcharor yn Lewes hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.
I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Cyrraedd a’r noson gyntaf
Pan fydd rhywun yn cyrraedd Lewes am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar bryd maen nhw’n cyrraedd, a dim ond 2 funud maen nhw’n cael ei gael.
Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.
Cynefino
Bydd pawb sy’n cyrraedd Lewes yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:
- iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
- unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
- datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
- mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd
Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.
Llety
Mae 692 o garcharorion yn Lewes gyda chymysgedd o gelloedd sengl a dwbl.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys campfa, llyfrgell, uned gofal iechyd, fferyllfa ar y safle a chanolfan aml-ffydd.
Addysg a gwaith
Mae Lewes yn darparu amrywiaeth o gyfleusterau gwaith, addysg a hyfforddiant gan gynnwys TG, gwaith cegin, peintio ac addurno, gwaith barista, diogelwch a pharatoi bwyd, rheoli gwastraff, garddwriaeth, cymorth cyntaf ac arweinyddiaeth chwaraeon.
Mae rhaglen addysg gorfforol ar gael, yn ogystal â sesiynau llyfrgell wythnosol ac mae cyrsiau ar gael i leihau’r risg o aildroseddu.
Rhyddhau dros dro
Gellir cyflwyno ceisiadau i ryddhau ar drwydded dros dro (ROTL) a byddan nhw’n cael eu hasesu’n unigol.
Sefydliadau y mae Lewes yn gweithio gyda nhw
Mae Lewes yn gweithio gyda’r Samariaid i hyfforddi tîm o ‘Wrandawyr’ sydd ar gael yn ystod y dydd a’r nos i’r rheini sydd angen cymorth ychwanegol.
Mae hefyd yn gweithio gyda The Forward Trust, sy’n cynnig cymorth o ran camddefnyddio sylweddau ac yn darparu nifer o ‘weithdai cysylltiadau teuluol’. Mae hyn mewn partneriaeth â Care UK a gall gynnig gwasanaeth dadwenwyno, os oes angen.
Mae Lewes hefyd yn gweithio gyda Thadau Llyfrau Stori sy’n helpu tadau i greu DVD neu CD stori amser gwely ar gyfer eu plant.
Cefnogaeth i deulu a ffrindiau
Cael gwybod am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.
Cefnogaeth yn Lewes
Mae PACT yn darparu gwasanaethau i deuluoedd yn Lewes, gan gynnig cefnogaeth a chyngor. Mae’n gweithio ochr yn ochr â Theuluoedd Carcharorion Sussex, mudiad cymunedol sy’n darparu cefnogaeth gan gymheiriaid a chymorth yn y llys.
Pryderon, problemau a chwynion
Mewn argyfwng
Ffoniwch 01273 785100 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Trefniadol ac eglurwch fod eich pryder yn argyfwng.
| Categori cyswllt | Rhif ffôn | Gwybodaeth ychwanegol |
|---|---|---|
| Dim brys | 01273 785392 | Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar y wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion. |
| Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff | 0800 917 6877 (peiriant ateb 24 awr) |
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. |
| Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion | 0808 808 2003 | Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol. |
| Cyswllt Digroeso gan Garcharor | 0300 060 6699 | Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor. Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn. |
Problemau a chwynion
Os oes gennych chi broblem arall cysylltwch â Lewes.
Adroddiadau arolygu
Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Lewes mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.
Cysylltu â Lewes
Llywodraethwr: Mark Creaven
Ffôn: 01273 785 100
Dydd Llun i ddydd Gwener, 7am i 8pm a phenwythnosau, 7am i 5pm
Mae gwasanaeth ailgyfeirio 24 awr y tu allan i’r oriau hyn
Ffacs: 01273 785 101
Gwybodaeth am gost galwadau
E-bost: Correspondence.Lewes@justice.gov.uk
Cyfeiriad
HMP/YOI Lewes
1 Brighton Road
Lewes
East Sussex
BN7 1EA
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.
Updates to this page
-
Updated the email address for booking official video visits to, videolink.lewes@justice.gov.uk.
-
How to book official visits section updated.
-
Welsh translation added.
-
Advice to bring coins rather than notes for the vending machines added.
-
Added translation.
-
Legal and professional visits booking details updated.
-
Details added for National Prison Radio's Family and Friends request show.
-
Visiting information updated.
-
Professional and virtual visits updated.
-
Secure video calls update.
-
Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes
-
Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.
-
Updated visiting information: Reduced visit schedule and testing for visitors aged 12 and over.
-
Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.
-
Updated visiting times.
-
Added link to information about testing for physical contact at visits.
-
New visiting times and booking information added.
-
Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.
-
Updated contact email address.
-
Updated visiting information in line with new local restriction tiers.
-
Updated visiting information in line with new local restriction tiers.
-
Updated visiting information in line with new local restriction tiers.
-
Updated the email contact address for families.
-
Updated visiting information in line with new national restrictions in England.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Updated: HMP Lewes visiting times and visiting procedure changes in line with coronavirus restrictions.
-
updated survey link
-
Updated survey link
-
First published.