Canllawiau

Cefnogaeth recriwtio gynhwysol

Canllawiau, astudiaethau achos a gwybodaeth am sut y gall cyflogwyr ddenu, recriwtio a chadw pobl o amrywiaeth o gefndiroedd i wella'ch busnes.

This guidance was withdrawn on

This page is no longer kept up to date. Read the Employ someone: step by step for the latest guidance.

Mae gan recriwtio o ystod amrywiol o gefndiroedd nifer o fuddion busnes. Nawr yn fwy nag erioed, gall ystyried ymgeiswyr o gronfa dalent ehangach ddod â’r sgiliau sydd eu hangen i’ch busnes.

Mae’r buddion i gyflogwyr yn cynnwys:

  • recriwtio pobl sydd wedi goresgyn eu heriau personol eu hunain, felly gallant ddod â safbwyntiau, syniadau ac atebion newydd i broblemau
  • mae gan weithlu amrywiol gysylltiad cryf â chadw gweithwyr, gan fod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu derbyn a’u parchu
  • mae busnesau’n nodi bod gweithwyr yn mynd gam ymhellach i sicrhau canlyniadau, aros gyda’u cyflogwr am gyfnod hirach, bod gyda ymrwymiad cryf i’w sefydliad a chyfraddau is o absenoldeb
  • canfu’r cyhoeddiad ‘Business Benefits of Work Inclusion 2015’ gan Busnes yn y Gymuned bod 92% o gyflogwyr yn dweud bod recriwtio amrywiol wedi gwella eu henw da, gan eu helpu i ennill contractau newydd

Y buddion o weithlu amrywiol

Pam cyflogi gweithlu amrywiol?

Mae rhoi amser ac ymdrech i ddatblygu prosesau recriwtio a hyfforddi cynhwysol wedi helpu Buildbase i sicrhau staff ymroddedig a medrus o ystod amrywiol o gefndiroedd:

Fideo Buildbase ar recriwtio amrywiol

Dychwelwyr

Mae dychwelwyr yn bobl gyda phrofiad gwaith presennol sydd wedi cymryd seibiant gyrfa estynedig, am resymau gofalu neu resymau eraill.

Gall recriwtio dychwelwyr i weithio arwain at fanteision cystadleuol i gyflogwyr, gan gynnwys mynd i’r afael â phrinder sgiliau. Mae rhaglen ddychwelwyr yn ehangu eich darpar ymgeiswyr i gynnwys y rhai a allai fod â’r profiad neu’r sgiliau rydych eu hangen. Gall hefyd fod yn ffordd gost-effeithiol i recriwtio, oherwydd gallai leihau’r angen am hyfforddiant helaeth.

Beth mae busnesau eraill yn ei wneud?

Mae rhaglen dychwelwyr ‘Reconnect EY’ yn dod â sgiliau gwerthfawr i’w sefydliad.

Fideo EY am gyflogi dychwelwyr i’r gweithle

Sut allai gael mwy o wybodaeth?

Gall y ‘Government Equalities Office Returners Toolkit’ eich helpu i gymryd y camau cyntaf tuag at datblygu rhaglen dychwelwyr effeithiol. Mae’r ‘Best Practice Guidance’ yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am ddenu, recriwtio a chadw dychwelwyr.

Mae’r canllaw ‘Help and support for returning to work’ yn cynnig cyngor i’r rhai sy’n edrych i ddychwelyd i weithio.

Hyderus o Ran Anabledd

Mae Hyderus o Ran Anabledd yn creu symudiad o newid, gan annog cyflogwyr i feddwl yn wahanol am anabledd a gweithredu i wella sut maent yn recriwtio, cadw a datblygu gweithwyr anabl.

Pam ddylwn i ddod yn Hyderus o Ran Anabledd

Mae’r cynllun yn helpu cyflogwyr i recriwtio a chadw pobl gwych, a:

  • tynnu o’r gronfa dalent ehangaf bosibl
  • sicrhau staff o ansawdd uchel sy’n fedrus, yn ffyddlon ac yn gweithio’n galed
  • gwella morâl ac ymrwymiad gweithwyr trwy ddangos eich bod yn trin pob gweithiwr yn deg

Mae hefyd yn helpu cwsmeriaid a busnesau eraill i nodi’r cyflogwyr hynny sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb yn y gweithle.

Sut mae Acacia Training wedi elwa o fod yn gyflogwr Hyderus o Ran Anabledd

Cefnogaeth sydd ar gael i’ch busnes

Mae gan y cynllun Hyderus o Ran Anabledd 3 lefel, felly gallwch gwrdd â’r lefel sy’n iawn ar gyfer eich sefydliad chi. Mae llofnodi i fyny yn rhad ac am ddim ac mae adnoddau am ddim i’ch helpu.

Am fwy o wybodaeth am y cynllun ewch i Hyderus o Ran Anabledd website.

Efallai y bydd Mynediad at Waith yn gallu helpu gyda chymorth ymarferol ac ariannol i weithwyr sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol tymor hir.

Pobl di-gartref

Gall digartrefedd olygu cysgu ar y strydoedd neu fyw mewn hostel neu loches. Mae hefyd yn golygu byw mewn tai â chymorth pan fydd unigolyn wedi bod yn ddigartref, yn syrffio soffa neu’n byw gyda ffrindiau neu deulu gan nad oes ganddynt unman arall i fynd.

Gall cefnogaeth amserol gan eu cyflogwr helpu i gadw bywyd person digartref ar y trywydd iawn, cefnogi eu lles, eu cadw mewn gwaith a chynnal eu cynhyrchiant. Gall cyflogaeth dda weithredu fel mesur ataliol i ddigartrefedd yn ogystal â llwybr cynaliadwy allan o ddigartrefedd .

Sut all eich busnes elwa o gyflogi pobl di-gartref?

Mae Kelly Creighton o’r ‘HR daily adviser’ yn egluro sut mae gweithio gyda sefydliadau lleol i gefnogi pobl anabl yn helpu adeiladu perthynas gadarnhaol a pharhaol o fewn eich cymuned:

Gall cyflogi pobl ddigartref helpu i ddatblygu sgiliau staff presennol trwy eu cynnwys i ddarparu cymorth mewn gwaith neu gyn-gyflogaeth i’r unigolyn.

Cefnogaeth sydd ar gael i gyflogwyr

Mae ‘Only a Pavement Away’ (OAPA) yn elusen a sefydlwyd i helpu pobl ddigartref i ddod o hyd i gyflogaeth yn y diwydiant lletygarwch. Maent yn gwneud hyn trwy gysylltu cyflogwyr â sefydliadau sy’n bodoli i gefnogi’r digartref, yn ogystal â chyn-droseddwyr a chyn-filwyr bregus. Mae bwrdd swyddi canolog am ddim yn bodoli i ddarpar gyflogwyr y diwydiant lletygarwch i osod eu swyddi gwag.

Mae sgiliau pob unigolyn digartref yn cael eu paru â swyddi gwag a chyrsiau hyfforddi a ddarperir i fod yn gymwys ar gyfer gwaith lletygarwch. Ynghyd â pharatoi at gyfweliad a chefnogaeth gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, mae’r unigolyn yn derbyn 12 mis o gefnogaeth gan OAPA a’i bartneriaid.

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch enquiries@onlyapavementaway.co.uk

Mae ‘Busnes yn y Gymuned’ (BITC) yn sefydliad aelodaeth a arweinir gan fusnes sy’n ymroddedig i fusnes cyfrifol. Mae eu rhaglenni cyflogaeth yn galluogi rhai o bobl fwyaf difreintiedig y gymdeithas i fynd i mewn i waith.

Gweithwyr hŷn

Fel cyflogwr mae werth ystyried y gall cadw, ailhyfforddi a recriwtio gweithwyr hŷn ddod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad. Gyda hyn gall ddod ystod o safbwyntiau, syniadau a sgiliau ffres - gall pob un ohonynt fod o fudd i’ch busnes

Beth mae busnesau eraill yn ei wneud?

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn annog gweithwyr hŷn i aros yn y gwaith a datblygu eu hunain fel y gallant gyflawni eu potensial llawn a dod ag amrywiaeth o sgiliau i’r busnes. Mae’r fideo hon yn rhoi mwy o wybodaeth am sut maent yn gwneud hyn.

Fideo DWP ar y buddion o gefnogi gweithwyr hŷn

Gall gweithio mewn ffordd wahanol fod yn bont dda i ymddeoliad i unigolion a gall [cynnig gweithio hyblyg] (https://www.gov.uk/flexible-working) fod yn ffordd dda i chi gadw eu sgiliau a’u profiad gwerthfawr.

Darganfyddwch sut mae Lorraine a’i chyflogwr wedi dod o hyd i’r cydbwysedd perffaith.

Bywydau gwaith llawnach

Trwy gael cyfres o sgyrsiau cefnogol, gall eich gweithwyr fod yn glir ac yn hyderus am sut i lunio eu dyfodol yn y gwaith. Mae’r teclyn ‘Busnes yn y Gymuned’ yn darparu adnodd ymarferol i’ch helpu i wneud hyn, gan eich galluogi i gadw gweithwyr gwych trwy gefnogi eu hanghenion.

Fideo o arbenigwyr diwydiant yn cynghori ar bwysigrwydd gweithwyr hŷn

Gwybodaeth bellach

Mae ‘Ageing better’ yn darparu awgrymiadau defnyddiol ac arweinaid ar ymarferion gorau i gefnogi gweithwyr hŷn.

Mae gan ACAS arweiniad ar wahaniaethu ar sail oedran yn y gweithle.

Pobl sy’n gwella o gamdrin alchohol a chyffuriau

Pam ddylech chi gefnogi pobl sy’n gwella

Mae pobl sy’n gwella ar ôl camddefnyddio sylweddau eisoes wedi penderfynu newid eu bywydau. Roedd y daith honno’n gofyn am benderfyniad, ymrwymiad a chymhelliant, rhinweddau sy’n ddymunol mewn unrhyw ddarpar weithiwr. Mae cael a chadw swydd yn flaenoriaeth allweddol i lawer o bobl sy’n gwella a gall cael cyfle i ddefnyddio eu profiad bywyd annog lefelau uchel o deyrngarwch i gwmni.

Gall recriwtio o ystod amrywiol o gefndiroedd helpu i ehangu eich cronfa dalent a dod â nifer o fuddion i’ch busnes. Canfu arolwg gan Busnes yn y Gymuned fod 92% o fusnesau sydd â pholisïau recriwtio agored yn dweud bod y dull wedi gwella eu henw da.

Os ydych am recriwtio, gall rhoi cyfle i rywun arwain at weithiwr ffyddlon, llawn cymhelliant a dibynadwy a all yn aml ddarparu persbectif newydd i’ch busnes.

Ystyried recriwtio?

Os ydych yn ystyried recriwtio rhywun sy’n gwella ar ôl camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, gallai’r awgrymiadau canlynol fod o gymorth iddynt hwy a chi:

  • hyrwyddo diwylliant o ddealltwriaeth am gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn eich gweithle - mae’n bwysig gwerthfawrogi y gall dibyniaeth ddigwydd am nifer o resymau
  • cynnig patrwm gwaith rheolaidd gan y gallai fod o gymorth i’r unigolyn i helpu i gynnal neu greu trefn arferol
  • cael polisi clir ar gyffuriau ac alcohol ar waith fel bod yr holl weithwyr yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt yn y gweithle
  • mae pobl sy’n gwella ar ôl dibyniaeth wedi penderfynu eu bod am roi eu dibyniaeth y tu ôl iddynt - a chyfrannu’n gadarnhaol at eich busnes

Mwy o wybodaeth

Gall mwy o wybodaeth a chefnogaeth gael ei gynnig gan y sefydliadau hyn:

Cyn-droseddwyr

Mae nifer o fuddion busnes i recriwtio o ystod amrywiol o gefndiroedd. Gall ystyried ymgeiswyr o gronfa dalent ehangach ddod â’r sgiliau rydych eu hangen i’ch busnes.

Mae cyn-droseddwyr yn bobl a fydd wedi goresgyn eu heriau personol eu hunain ac sy’n gallu dod â syniadau ac atebion newydd i broblemau. Mae busnesau’n nodi bod gweithwyr yn mynd gam ymhellach i sicrhau canlyniadau, aros gyda’u cyflogwr am gyfnod hirach, bod ganddynt ymrwymiad cryf i’w sefydliad a chyfraddau absenoldeb is.

Ac mae yna fuddion cymunedol go iawn hefyd. Mae 79% o bobl o’r farn bod busnesau sy’n cyflogi cyn-droseddwyr yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r gymdeithas. Dywed 92% o gyflogwyr cynhwysol ei fod wedi gwella eu henw da.

Dim ond 17% o gyn-droseddwyr sy’n llwyddo i gael swydd o fewn blwyddyn i’w rhyddhau, er bod 3 o bob 4 o bobl wedi dweud y byddent yn gyffyrddus yn prynu gan fusnes sy’n cyflogi cyn-droseddwyr.

Beth mae sefydliadau eraill yn ei wneud?

Edrychwch i weld y gwahaniaeth mae Leigh yn ei wneud yn ei swydd gyda Halfords:

Fideo o stori Leigh yn gweithio i Halfords

Mwy o wybodaeth

Mae’r ‘New Futures Network’ (NFN) yn rhan arbenigol o’r gwasanaeth carchardai sy’n brocera partneriaethau rhwng carchardai a chyflogwyr. Bydd yn eich helpu i nodi’r opsiwn gorau i’ch sefydliad a darganfod mwy gan fusnesau eraill. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y canllaw Employing Prisoners and Ex-Offenders gan NFN.

Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o wybodaeth o ymgyrch Cyflogaeth i Droseddwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Cefnogaeth

Mae gan y Ganolfan Byd Gwaith ystod o wasanaethau recriwtio a all eich helpu chi fel cyflogwr a darpar weithwyr, gan gynnwys:

  • treialon gwaith sydd yn gyfnod byr mewn gwaith y gallwch ei gynnig i geisiwr gwaith sydd ar fudd-daliadau - mae’n ffordd i’r ddau ohonoch weld a yw’r swydd yn ffit dda
  • academïau gwaith syn seiliedig ar sector sydd wedi’u cynllunio i helpu i ddiwallu anghenion recriwtio cyflogwyr nawr ac yn y dyfodol, yn ogystal â recriwtio gweithlu sydd â’r sgiliau cywir i gynnal a thyfu eu busnes
  • Mynediad at Waith sydd yn wasanaeth anabledd arbenigol gan y Ganolfan Byd Gwaith sy’n rhoi cyngor a chefnogaeth ymarferol i bobl anabl - p’un a ydynt yn gweithio, yn hunangyflogedig neu’n chwilio am waith

Gweithio hyblyg

Easy Internet – awgrymiadau i wneud gweithio’n hyblygu weithio i chi

Mae Mark Esho yn entrepreneur Prydeinig, sefydlwr a Phrif Swyddog Gweithredol Easy Internet Services Ltd. Fel perchennog busnes bach o Gaerlŷr sydd â gweithlu wedi’i wasgaru ledled y wlad, mae mewn sefyllfa dda i drosglwyddo ei brif awgrymiadau i weithio’n hyblyg.

Uchafbwynt cynhyrchiant gwahanol

Mae pawb yn wahanol, mae rhai pobl yn cyrraedd uchafbwynt ar wahanol adegau o’r dydd. Mae’n gwneud synnwyr busnes i gynnig rhyw fath o drefniant hyblyg lle gall pobl weithio pan fyddant yn teimlo ar ei gorau

Ystyriwch anghenion penodol

Ystyriwch anghenion penodol pobl anabl – mae’r hyblygrwydd hwnnw’n mynd yn bell o ran eu helpu i berfformio ar eu gorau.

Cynllunio trefniadau gwaith

Mae’r un peth yn berthnasol i rieni sydd ag anghenion gofal plant, sy’n gallu cynllunio eu hamserlen waith o amgylch eu rhwymedigaethau teuluol.

Cymhelliant

Mae gweithio hyblyg yn helpu i wella cymhelliant a chydbwysedd gwaith/bywyd.

Cadw staff

Mae hefyd yn helpu gyda chadw staff – mae gweithwyr hapus yn golygu gweithwyr ffyddlon, llawn cymhelliant.

Ysgogi timau anghysbell

Prif awgrymiadau Mark:

System gyfathrebu effeithiol

Byddwn i’n dweud mai fy nghyngor gorau fyddai sefydlu systemau cyfathrebu effeithiol. Gallai hyn fod trwy Skype neu Zoom neu unrhyw sianel arall sy’n caniatáu sgwrsio. Gall gweithio gartref fod yn ynysig felly mae gallu sgwrsio â rhywun arall yn ystod y dydd yn help mawr. Felly yn hytrach nag e-bostio cydweithwyr neu deipio’ch negeseuon, trefnwch sgwrs llais neu fideo yn lle hynny

Egwyl paned rhithiol

Peth arall sy’n gweithio’n dda i’n tîm yw cael sesiwn ymlacio neu egwyl lle rydym yn ychwanegu sgwrs grŵp trwy Skype neu Zoom. Sgwrs gyffredinol yn unig ydyw. Mae pobl yn rhannu jôcs ac yn siarad am eu diwrnod ac mae’n gwasanaethu fel allfa fel nad yw pobl yn teimlo’n ynysig.

Offer cywir

Mae’n hollbwysig cael y systemau cywir ar waith sy’n caniatáu i’ch gweithwyr weithio’n gyfforddus gartref. Peidiwch ag anwybyddu’r manylion pwysig: gwnewch yn siŵr bod ganddyn nhw’r gliniadur neu’r cyfrifiadur pen desg gywir, sgriniau lluosog os oes angen, y gadair iawn i eistedd arni, edrychwch hefyd ar uchder y ddesg, y golau yn yr ystafell, ac ati. Lle bo hynny’n bosibl, sicrhau nad ydyn nhw’n gorfod defnyddio eu cyfrifiadur neu system ffôn eu hunain gartref.

Cadw cysylltiad rheolaidd

  1. Yn olaf, os ydych chi’n rheolwr llinell, cadwch gysylltiad rheolaidd gyda’ch tîm i sicrhau eu bod yn iawn, a gofalu am eu lles.

Cynnal iechyd meddwl wrth weithio gartref

Er mwyn cefnogi pellhau cymdeithasol a’r frwydr yn erbyn COVID-19, mae’r Llywodraeth wedi annog pobl i weithio gartref lle bynnag y bo modd, ond mae gweithio o bell wedi dod yn fwy a mwy poblogaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r profiad yn gynhyrchiol iawn i rai pobl ond efallai y bydd angen cefnogaeth ychwanegol ar eraill. I rai, fel y rhai sy’n profi cam-drin domestig, gall bod gartref fod yn brofiad brawychus ac i eraill gall fod yn ynysig iawn gan eu bod yn cael eu torri i ffwrdd o’r ffrindiau a’r rhwydweithiau cymdeithasol y maent yn dibynnu arnynt i gadw’n iach.

Mae yna rai camau ymarferol y gallwch eu cymryd i sicrhau nad yw iechyd meddwl eich gweithwyr yn cael ei effeitho’n negyddol wrth weithio gartref.

Cynnwys amser ar gyfer cyfathrebu rheolaidd

Annog cyfathrebu strwythuredig gydag aelodau’r tîm, naill ai un i un neu fel grŵp. Rhowch gyfle rheolaidd i weithwyr godi pryderon, trafod materion neu ond i sgwrsio â rheolwyr a chydweithwyr.

Gall defnyddio’r dechnoleg gywir ar gyfer y cyfarfodydd hyn ychwanegu llawer o werth. Gall galwadau fideo fod yn fwy deniadol, effeithlon a phersonol ond cofiwch y gallant hefyd fod yn flinedig os oes gan unigolion lawer ohonynt trwy gydol y dydd. Meddyliwch yn ofalus am hyd galwadau a gadael digon o amser i bobl gymryd egwyl. Sicrhewch fod gan bob gweithiwr yr offer cywir i wneud eu gwaith yn dda ac i aros mewn cysylltiad â chi a’u tîm ehangach.

Gall llwyfannau fideo fod yn gynhwysol iawn, ond os ydych wedi dechrau eu defnyddio yn ddiweddar, dylech sicrhau fod pawb yn cael mynediad at hyfforddiant a chefnogaeth, fel bod gan bawb yr un lefel o hyder i’w defnyddio.

Byddwch yn hyblyg i weddu i anghenion gweithwyr

Mae’n bwysig cydnabod y gall eich holl weithwyr fod yn gweithio mewn gwahanol amgylchiadau, o bosibl yn gofalu am blant neu aelodau eraill o’r teulu a/neu addysgu gartref. Gall hyn arwain at ymyrraeth yn ystod cyfarfodydd, neu’r angen i gymryd amser estynedig i ffwrdd o’u gweithfan yn ystod y dydd. Mae derbyn yr aflonyddwch hwn yn gadael i weithwyr wybod eich bod yn deall eu sefyllfa, ac yn cymryd unrhyw bwysau ychwanegol i ffwrdd.

Lle bo modd, ystyriwch wneud addasiadau i oriau gwaith. Gall hyn helpu gweithwyr i sicrhau gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, darparu’r gofal maent ei angen ar gyfer eu teulu a gweithio’n fwy effeithiol.

Nodwch ddisgwyliadau clir

Bydd llawer o weithwyr yn jyglo cyfrifoldebau gofalu ochr yn ochr â gwaith. Trwy fod yn glir gyda disgwyliadau a chyflawniadau, rydych yn rhoi cyfle i bobl gynllunio eu hamser eu hunain a’u helpu i reoli eu llwyth gwaith. Heb hyn, gall gweithwyr ddechrau teimlo eu bod wedi eu gorlethu, neu orflino os ydynt yn gweithio oriau ychwanegol i wneud iawn am hyn. Dylech feithrin diwylliant gydag unigolion ac ymhlith y tîm i gynnwys amser adfer fel bod modd rheoli oriau gwaith a galluogi adfer capasiti fel bod gwaith yn gynaliadwy.

Anogwch ymddygiadau iach

Mae bwyta diet cytbwys, cynnal trefn arferol a chymryd seibiant rheolaidd yn rhai ffyrdd y gall eich gweithwyr ofalu am eu hiechyd meddwl a chorfforol. Rhannwch syniadau a phrofiadau â’ch tîm ac atgoffwch yn rheolaidd bwysigrwydd arferion iach i helpu pawb i sicrhau cydbwysedd sy’n addas iddynt hwy’n bersonol.

Adolygwch yn barhaol

Mae sefyllfaoedd a theimladau bob amser yn newid, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn neilltuo amser i ofyn am adborth, trafod dewisiadau amgen a gweithredu unrhyw newidiadau angenrheidiol. Byddwch yn wyliadwrus o’r rhai a allai fod yn ei chael hi’n anodd ac a allai fod angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol. Efallai y bydd rhai o’r dolenni isod yn helpu i gyfeirio at fynediad at gymorth iechyd meddwl.

Cymorth Ychwanegol

Ewch i NHS – Every Mind Matters am arweiniad ac awgrymiadau am ofalu am iechyd meddwl tra’n aros gartref.

Mae gan Mental Health UK syniadau a chymorth i’r sawl sy’n gweithio o gartref.

Cewch gyngor gan Mind am gynnal eich hun â’ch tîm yn y sefyllfa bresennol.

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl= yn cael ei gyflenwi gan Remploy mewn partneriaeth â DWP.

Cewch gefnogaeth gan Refuge os ydych yn profi trais yn y cartref.

Mae gan Siambr Fasnach Prydain fwy o awgrymiadau ar weithio o gartref.

Am fwy o gyngor lles, ewch i Busnes yn y Gymuned.

Argymhellion ar gyfer recriwtio

Cera Care – recriwtio mewn gofal cymdeithasol

Yn ddiweddar mae Yvonne Hignell, Prif Swyddog Gweithredol Cera Care, wedi dechrau ymgyrch recriwtio ledled y DU am 10,000 o ofalwyr newydd.

Dyma ei hargymhellion gorau ar gyfer recriwtio i’r sector:

Yn yr argyfwng presennol rydym wedi gweld pobl nad ydynt erioed wedi ystyried gweithio yn y sector gofal, bellach yn barod ac yn awyddus i wneud hynny. Mae unrhyw un sy’n gweithio yn y sector yn gwybod pa mor bwysig yw ein gwaith; ond nid yw bob amser yn hawdd argyhoeddi eraill, neu ddenu gweithwyr, felly rwyf wedi llunio fy mhum awgrym gorau ar sut i ddenu a chadw’r ymgeiswyr gorau .

Gwerthu’r buddion

Mae yna lawer o rolau amrywiol ar gael a all fod yn hynod foddhaus ac a all drawsnewid bywydau pobl mewn gwirionedd; dyma’r negeseuon y mae’n rhaid i ni eu cyfleu yn ein hysbysebion recriwtio. Mae pobl hefyd yn tueddu i uniaethu â phobl fel nhw, felly gall defnyddio’ch gweithlu presennol i adrodd eu stori fod yn dacteg bwerus.

Mae gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol rai adnoddau ar-lein i helpu gyda recriwtio yn y sector.

Cydnabod sgiliau trosglwyddadwy

Ystyriwch ymgeiswyr sydd heb brofiad gofal. Yn aml mae gan bobl sydd wedi gweithio mewn swyddi sy’n delio â chwsmeriaid, fel manwerthu, lletygarwch a gwasanaeth cwsmeriaid sgiliau a rhinweddau trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd ar gyfer gyrfa mewn gofal. Meddyliwch am y llwybrau gyrfa sy’n bodoli yn eich sefydliad ac amlygwch y cyfleoedd hyn i ddarpar ymgeiswyr.

Cyflymwch eich proses recriwtio

Symleiddiwch eich prosesau recriwtio ac ymuno. Gallech hyd yn oed ystyried defnyddio cyfweliadau fideo. Ar ôl i chi wneud y penderfyniad, trefnwch sesiynau sefydlu a hyfforddi rheolaidd yn gynnar er mwyn sicrhau bod pobl gyda’r gallu i ddechrau cyn gynted â phosibl. Peidiwch ag anghofio sicrhau bod cefnogaeth ac anogaeth barhaus i staff newydd. Mae llawer o bobl sy’n gadael y sector yn gwneud hynny yn eu 90 diwrnod cyntaf.

Rhowch groeso cynnes

Mae pobl sy’n chwilio am waith yn fwy gwybodus nag erioed am ddarpar gyflogwyr. Os ydym am ddenu a chadw’r bobl orau, mae cyfathrebu cadarnhaol rheolaidd yn allweddol.

Mynediad i gronfa dalent eang

Yn olaf, er mwyn cyrraedd y gronfa ehangaf bosibl o bobl, llwythwch eich swyddi gwag i Wasanaeth Paru’r Llywodraeth, Dod o hyd i swydd.

Os yw Covid-19 wedi dysgu unrhyw beth i mi a fy nhîm, hynny yw bod y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn sylfaenol i’n cymdeithas a’n heconomi, ac ni fydd byth prinder galw. Mae’r cyfrifoldeb arnom ni nawr, fel cyflogwyr, i fod mor gynhwysol a chroesawgar ag y gallwn.

Recriwtio Rhithiwr

Rebecca Fielding yw Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Gradconsult, ac yma mae’n darparu ei chynghorion gorau ar gyfer Recriwtio a Chynnwys Rhithiwr.

awgrymiadau ar gyfer recriwtio rhithiwr

Cefnogi iechyd a lles

Nawr yn fwy nag erioed, mae’n bwysig rhoi sylw manwl i iechyd a lles eich gweithwyr. P’un a yw’ch gweithwyr wedi cael eu hunain allan o waith neu’n gweithio gartref am y tro cyntaf, gall fod yn heriol ar hyn o bryd, am nifer o resymau.

Iechyd a lles

Yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd, peidiwch ag anghofio cael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd a diogelwch a chyngor COVID-19 cyffredinol i gyflogwyr a gweithwyr.

Gwasanaeth Cefnogol Iechyd Meddwl Mynediad at Waith

Mae’r gwasanaeth cyfrinachol hwn a gyflenwir gan Remploy yn cael ei ariannu gan DWP ac mae ar gael am ddim i unrhyw weithwyr sy’n dioddef o iselder, gorbryder, pryder neu faterion iechyd meddwl eraill sy’n effeithio eu gwaith.

Dolenni ac adnoddau defnyddiol eraill

Anableddau a chyflyrau iechyd

Efallai bod gan rai o’ch staff anableddau neu gyflyrau iechyd a allai gael eu heffeithio gan weithio mewn gwahanol ffyrdd - mae’n bwysig cadw mewn cysylltiad.

Efallai bydd Mynediad at Waith yn gallu helpu gyda chymorth ymarferol ac ariannol i weithwyr sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol wrth helpu rhywun sydd bellach angen gweithio gartref.

Mae’r canllaw Hyderus ar ran Anabledd a CIPD yn cynnig cyngor ehangach ar gyflogi pobl sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd.

Salwch ac absenoldebau

Mae yna amrywiaeth o gyngor ar gael am adennill Tâl Salwch Statudol gweithiwr oherwydd COVID-19.

Gallwch hefyd gyfeirio gweithwyr i arweiniad i’r rhai na allant weithio. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gymorth ariannol sydd ar gael yn ogystal â sut i reoli hunanynysu a Thâl Salwch Statudol.

Cyhoeddwyd ar 14 August 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 November 2020 + show all updates
  1. Added Access to Work information under Disability Confident.

  2. Added 'Access to Work Mental Health Support Service' and 'Other helpful links and resources' information to the 'Supporting health and wellbeing' section of the guidance.

  3. First published.