Canllawiau

Gwirio a allwch hawlio’n ôl y Tâl Salwch Statudol a delir i gyflogeion o ganlyniad i goronafeirws (COVID-19)

Os ydych yn gyflogwr, gallwch gael gwybod yma a oes modd i chi ddefnyddio’r Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol Coronafeirws er mwyn hawlio’n ôl Tâl Salwch Statudol (SSP) cyflogeion sy’n gysylltiedig â COVID-19.

This guidance was withdrawn on

The Coronavirus Statutory Sick Pay Rebate Scheme has now closed. The last date for submitting or amending a claim was 24 March 2022.

You can:

Bydd y Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol Coronafeirws yn ad-dalu i gyflogwyr y Tâl Salwch Statudol a dalwyd i gyflogeion presennol neu gyn-gyflogeion.

Dim ond ar gyfer cyflogeion a oedd i ffwrdd o’r gwaith ar neu ar ôl 21 Rhagfyr 2021 y gallwch hawlio.

Mae’r Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol yn dod i ben ar gyfer absenoldebau sy’n gysylltiedig â choronafeirws ar ôl 17 Mawrth 2022.

Mae gan gyflogwyr hyd at a chan gynnwys 24 Mawrth 2022 i wneud y canlynol:

  • cyflwyno unrhyw hawliadau terfynol
  • diwygio hawliadau y maent eisoes wedi’u cyflwyno

Pwy all ddefnyddio’r cynllun

Mae’r cynllun hwn ar gyfer cyflogwyr. Gallwch hawlio’n ôl hyd at bythefnos o Tâl Salwch Statudol os:

Uchafswm nifer y cyflogeion y gallwch hawlio ar eu cyfer yw’r nifer a oedd gennych ar draws eich cynlluniau TWE ar 30 Tachwedd 2021.

Os yw’ch cyflogai’n hunanynysu ac na all weithio oherwydd COVID-19, gallwch ofyn iddo roi nodyn hunanynysu oddi wrth GIG 111 i chi.

Mae’r cynllun yn cwmpasu pob math o gontractau cyflogaeth, gan gynnwys:

  • cyflogeion amser llawn
  • cyflogeion rhan-amser
  • cyflogeion ar gontractau asiantaeth
  • cyflogeion ar gontractau hyblyg neu gontractau dim oriau
  • cyflogeion ar gontractau tymor penodol (hyd at y dyddiad y daw eu contract i ben)

Cyflogeion sydd wedi’u trosglwyddo o dan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (TUPE)

Gallwch hawlio Tâl Salwch Statudol a dalwyd oherwydd coronafeirws i gyflogeion sydd wedi’u trosglwyddo i chi o dan TUPE os oedd gennych y canlynol:

  • cynllun TWE a gafodd ei greu a’i ddechrau ar neu cyn 30 Tachwedd 2021
  • llai na 250 o gyflogeion (gan gynnwys cyflogeion sydd wedi’u trosglwyddo o dan TUPE) ar draws yr holl gynlluniau cyflogres TWE ar 30 Tachwedd 2021

Os nad oedd gennych gynllun TWE a grëwyd ar neu cyn 30 Tachwedd 2021, ond bod gan y cyflogwr blaenorol un, gallwch hawlio os oedd ganddo lai na 250 o gyflogeion ar draws ei holl gynlluniau TWE ar y dyddiad hwnnw.

Fel y cyflogwr newydd, gallwch ond gwneud hawliadau am Tâl Salwch Statudol rydych chi wedi’i dalu. Ni all hawliad gynnwys Tâl Salwch Statudol a dalwyd gan y cyflogwr blaenorol.

Os ydych yn hawlio am gostau cyflogau drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws

Gallwch hawlio ar gyfer yr un cyflogai drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a’r Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol fel ei gilydd, ond ddim ar gyfer yr un cyfnod ar gyfer y cyflogai hwnnw.

Terfynau Cymorth Gwladwriaethol

Ers 1 Ionawr 2021 nid yw rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE yn berthnasol yn y DU mwyach, ac eithrio:

  • cymorth sy’n dod o dan gwmpas Protocol Gogledd Iwerddon
  • Cronfeydd Strwythurol

Mae’r DU bellach wedi’i rhwymo gan rwymedigaethau rhyngwladol eraill ar reolaeth cymorthdaliadau. Mae hyn yn cynnwys y Cytundeb Masnachu a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE.

Mae rhai cymorthdaliadau y tu allan i gwmpas y Cytundeb Masnachu a Chydweithredu. Mae hyn yn cynnwys cymorthdaliadau sy’n dod o unrhyw awdurdod cyhoeddus:

  • sydd o dan 325,000 o ran Hawliau Arbennig Tynnu Arian - uned arian cyfred y Gronfa Arian Ryngwladol

  • sy’n cael eu gwneud i un busnes dros gyfnod o dair blynedd

Mae cymorthdaliadau sy’n is na’r terfyn hwn yn cael eu trin fel taliadau sy’n rhy fach i gael eu cwmpasu gan reoliadau. Gelwir y rhain yn daliadau ‘de minimis’.

I gyfrifo gwerth y cymhorthdal, mae’n rhaid i chi gyfuno:

  • cymorthdaliadau a gafwyd drwy’r cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol
  • unrhyw gymorth gwladwriaethol de minimis a gafwyd gan unrhyw awdurdod cyhoeddus yn ystod y 3 blynedd blaenorol

Yna, bydd hyn yn cyfrif tuag at drothwy’r cymhorthdal o ran Hawliau Arbennig Tynnu Arian, sef 325,000.

I wirio bod yr ad-daliad o dan y trothwy, defnyddiwch y gyfrifiannell Hawliau Arbennig Tynnu Arian.

Cwmnïau ac elusennau cysylltiedig

Gall cwmnïau ac elusennau cysylltiedig hefyd ddefnyddio’r cynllun os oedd cyfanswm nifer eu cyflogeion TWE at ei gilydd yn llai na 250 ar 30 Tachwedd 2021.

Defnyddio asiant i weithredu TWE ar-lein

Os ydych yn defnyddio asiant sydd wedi’i awdurdodi i weithredu TWE Ar-lein i chi, bydd yn gallu hawlio ar eich rhan. Dylech siarad â’ch asiant ynghylch p’un a yw’n darparu’r gwasanaeth hwn.

Os hoffech ddefnyddio asiant, ond os nad ydych wedi awdurdodi un i weithredu TWE ar-lein ar eich rhan, gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio’ch gwasanaethau ar-lein CThEM a dewis ‘Rheoli’r Cyfrif’.

Mae’n rhaid i chi fod wedi ymrestru ar gyfer TWE ar-lein i gyflogwyr er mwyn gwneud hynny. Hefyd, bydd angen i chi ofyn i’ch asiant am ei Ddynodydd Defnyddiwr (ID) asiant. Gall eich asiant gael hwn o’i wasanaeth ar-lein CThEM ar gyfer asiantau drwy ddewis ‘awdurdodi cleient.’

Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i dynnu awdurdodiad oddi ar eich asiant os nad ydych eisiau i’r awdurdodiad barhau ar ôl iddo gyflwyno’ch hawliadau.

Os yw asiant yn hawlio ar eich rhan, bydd angen i chi roi gwybod i’r asiant i ba gyfrif banc yr hoffech i’r grant gael ei dalu. Dylid dim ond rhoi manylion banc pan fo modd derbyn taliad BACS.

Yr hyn y gallwch ei hawlio

Bydd yr ad-daliad yn cwmpasu hyd at bythefnos o Dâl Salwch Statudol, gan ddechrau ar ddiwrnod cymwy cyntaf y salwch, os nad yw cyflogai yn gallu gweithio oherwydd y canlynol:

  • mae ganddo symptomau COVID-19
  • mae’n hunanynysu oherwydd bod gan rywun sy’n byw gydag ef symptomau
  • mae’n hunanynysu oherwydd bod y GIG neu gyrff iechyd cyhoeddus wedi rhoi gwybod iddo ei fod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd â COVID-19
  • mae wedi cael gwybod gan y GIG y dylai hunanynysu am hyd at 14 diwrnod cyn cael llawdriniaeth

Gallwch wneud mwy nag un hawliad ar gyfer pob cyflogai, ond ni allwch hawlio am fwy na phythefnos at ei gilydd.

Gallwch hawlio o’r diwrnod cymwys cyntaf y mae’ch cyflogai i ffwrdd o’r gwaith os dechreuodd y cyfnod o salwch ar neu ar ôl 21 Rhagfyr 2021 os yw’r canlynol yn wir am eich cyflogai:

  • mae ganddo COVID-19
  • mae ganddo symptomau COVID-19
  • roedd yn hunanynysu oherwydd bod gan rywun sy’n byw gydag ef symptomau

Os dechreuodd absenoldeb eich cyflogai cyn 21 Rhagfyr 2021, dim ond o 21 Rhagfyr 2021 ymlaen y gallwch hawlio.

Gofynnir i’r rhan fwyaf o bobl hunanynysu am 3 diwrnod cyn cael llawdriniaeth. Yn yr achos hwn, diwrnod y llawdriniaeth fydd y 4ydd diwrnod pan na all weithio. Ni allwch hawlio ad-daliad o Tâl Salwch Statudol ar gyfer diwrnod y llawdriniaeth nac unrhyw ddiwrnodau eraill pan nad yw’r absenoldeb o ganlyniad i COVID-19.

Mae ‘diwrnod cymwys’ yn ddiwrnod y mae cyflogai fel arfer yn ei weithio. Y gyfradd wythnosol yw £96.35. Os ydych yn gyflogwr sy’n talu mwy na chyfradd wythnosol yr Tâl Salwch Statudol, gallwch ond hawlio hyd at y gyfradd wythnosol a dalwyd.

Os yw cyflogai wedi dychwelyd i’r DU

O 8 Mehefin 2020 ymlaen, bydd gofyn i rai pobl sy’n cyrraedd neu sy’n dychwelyd i’r DU osod eu hunain dan gwarantîn am 14 diwrnod. Os na all cyflogai weithio yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol oni bai ei fod hefyd yn bodloni un o’r meini prawf uchod.

Cofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o Tâl Salwch Statudol yr ydych wedi’i dalu ac yn dymuno’i hawlio’n ôl gan CThEM.

Mae’n rhaid i chi gadw’r cofnodion canlynol am 3 blynedd ar ôl y dyddiad y cewch y taliad ar gyfer eich hawliad:

  • y dyddiadau yr oedd y cyflogai ar absenoldeb salwch
  • pa rai o’r dyddiadau hynny oedd yn ddyddiau cymwys
  • y rheswm a roddodd dros fod i ffwrdd o’r gwaith – a oedd ganddo symptomau, a oedd gan rywun a oedd yn byw gydag ef symptomau neu a oedd yn dilyn mesurau gwarchod
  • rhif Yswiriant Gwladol y cyflogai

Gallwch ddewis sut rydych yn cadw cofnodion o absenoldeb salwch eich cyflogeion. Mae’n bosibl y bydd angen i CThEM weld y cofnodion hyn os oes dadlau ynghylch talu’r Tâl Salwch Statudol.

Bydd angen i chi argraffu neu gadw’ch datganiad Cymorth Gwladwriaethol (o’r crynodeb o’ch hawliad) a’i gadw tan 31 Rhagfyr 2024.

Sut i hawlio

Mae’n rhaid eich bod wedi talu tâl salwch eich cyflogeion cyn y gallwch ei hawlio’n ôl.

Mae’r Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol Coronafeirws wedi dod i ben erbyn hyn. Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno neu ddiwygio hawliad oedd 24 Mawrth 2022.

Os ydych yn defnyddio asiant sydd wedi’i awdurdodi i weithredu TWE Ar-lein i chi, bydd yn gallu hawlio ar eich rhan.

Dylai cyflogwyr nad ydynt yn gallu hawlio ar-lein fod wedi cael llythyr yn nodi ffordd arall o wneud hawliad. Cysylltwch â CThEM os nad ydych wedi cael llythyr ac ni allwch wneud unrhyw hawliadau cymwys ar-lein.

Help arall y gallwch ei gael

Cael help ar-lein

Defnyddiwch gynorthwyydd digidol CThEM i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynlluniau cymorth COVID-19.

Cysylltu â CThEM

Rydym yn derbyn nifer fawr iawn o alwadau ar hyn o bryd. Mae cysylltu â CThEM yn ddiangen yn peryglu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Gallwch gysylltu â CThEM ynghylch y Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol Coronafeirws, os nad oes modd i chi gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein.

Cyhoeddwyd ar 3 April 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 April 2022 + show all updates
  1. The Coronavirus Statutory Sick Pay Rebate Scheme has now closed. The last date for submitting or amending a claim was 24 March 2022.

  2. Added translation

  3. Added information on the Statutory Sick Pay Rebate Scheme for coronavirus related absences because the scheme closes after 17 March 2022.

  4. Out of date information about shielding has been removed.

  5. The scheme has been reintroduced. You can only claim for employees who were off work on or after 21 December 2021. The new date for PAYE scheme eligibility is 30 November 2021. The maximum number of employees you can claim for is the number you had across your PAYE schemes on 30 November 2021.

  6. This scheme will be reintroduced from mid-January 2022. Further guidance will be available as soon as possible.

  7. Added translation

  8. The state aid limits section has been updated since 1 January 2021 EU state aid rules no longer apply in the UK, except for aid in-scope of the Northern Ireland Protocol and Structural Funds.

  9. Added translation

  10. We have updated the guidance to confirm that employers can only claim for employees who were off work on or before 30 September 2021.

  11. The weekly rate in the 'What you can claim' section has been updated.

  12. What you can claim has been updated for employees who have been advised by letter to shield because they're clinically extremely vulnerable.

  13. Who can use the scheme has been updated so employers can ask for a ‘shielding note’ or a letter from their doctor or health authority advising them to shield because they’re at high risk of severe illness from coronavirus.

  14. From 26 August 2020 you can claim for employees who have been notified by the NHS to self-isolate before surgery.

  15. Information about employees who have transferred under the TUPE regulations has been added.

  16. You can now claim for employees who are self-isolating because they’ve been notified by the NHS or public health bodies that they’ve come into contact with someone with coronavirus.

  17. The online service you’ll use to claim back Statutory Sick Pay (SSP) is now available.

  18. The online service you’ll use to reclaim Statutory Sick Pay (SSP) will be available from 26 May 2020.

  19. Added guidance on getting ready to claim and what you'll need to make a claim.

  20. We have added a Welsh translation.

  21. We have added information relating to the EU Commission temporary framework. Claim amounts should not be above the maximum €800,000 of state aid under this framework.

  22. We have added a Welsh translation.

  23. Updated with information about using the Coronavirus Statutory Sick Pay Rebate Scheme to reclaim employees' Statutory Sick Pay if they are shielding and protecting people who are clinically extremely vulnerable to coronavirus (COVID-19).

  24. First published.