Tâl Salwch Statudol (SSP): arweiniad i gyflogwyr
Cymhwystra a ffurflen SSP1
Er mwyn bod yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol (SSP) mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir am eich cyflogai:
- mae ganddo gontract cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg)
- mae wedi gwneud rhywfaint o waith o dan ei gontract
- mae wedi bod yn sâl am o leiaf un diwrnod gwaith llawn - a elwir yn ‘gyfnod o analluogrwydd i weithio’
- mae’n rhoi rhybudd a thystiolaeth o salwch pan fo angen
Nid yw cymryd gwyliau blynyddol (yn agor tudalen Saesneg) yn ystod yr amser hwnnw’n amharu ar gyfnod o analluogrwydd y cyflogai i weithio.
Gall cyflogeion fod yn gymwys i gael tâl salwch yn sgil mwy nag un swydd.
Gallai hefyd fod yn gymwys yn sgil un swydd ond bod yn iach i weithio mewn swydd arall, er enghraifft os yw un swydd yn waith corfforol na all ei wneud tra ei fod yn sâl ond bod y llall mewn swyddfa.
Eithriadau
Nid yw cyflogeion yn gymwys ar gyfer SSP os yw’r canlynol yn wir:
- mae wedi cael uchafswm yr SSP (28 wythnos)
- mae’n cael Tâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth – mae rheolau arbennig (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer menywod beichiog a mamau newydd nad ydynt yn cael y taliadau hyn
- mae i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd yn ystod y 4 wythnos cyn yr wythnos (o ddydd Sul i ddydd Sadwrn) y mae disgwyl iddi gael ei babi
- roedd yn y ddalfa neu ar streic (yn agor tudalen Saesneg) ar ddiwrnod cyntaf y salwch (gan gynnwys unrhyw gyfnodau cysylltiedig)
- mae’n gweithio y tu allan i’r UE, ac nid chi sy’n gyfrifol am dalu ei gyfraniadau Yswiriant Gwladol
- cafodd Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyn pen 12 wythnos ar ôl dechrau neu ddychwelyd i’r gwaith
Defnyddiwch y gyfrifiannell SSP (yn agor tudalen Saesneg) i wirio cymhwystra.
Cyfnodau cysylltiedig o salwch
Os yw’ch cyflogai i ffwrdd o’r gwaith yn rheolaidd oherwydd cyfnodau o salwch, gallai’r cyfnodau gael eu hystyried i fod ‘yn gysylltiedig’. I fod yn gysylltiedig, mae’n rhaid i’r cyfnodau:
- para am o leiaf un diwrnod gwaith llawn
- fod 8 wythnos neu lai oddi wrth ei gilydd
Nid yw’ch cyflogai’n gymwys mwyach i gael SSP os oes ganddo gyfres barhaus o gyfnodau cysylltiedig sy’n para mwy na 3 blynedd.
Os nad yw cyflogai’n gymwys neu os yw ei SSP yn dod i ben
Efallai y gall cyflogeion wneud cais am Gredyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA). Mae’n defnyddio ffurflen SSP1 i ategu’r cais.
Os yw SSP eich cyflogai’n dod i ben, mae’n rhaid i chi anfon ffurflen SSP1 ato, naill ai:
- cyn pen 7 diwrnod i’r dyddiad y daw ei SSP i ben, os yw’n dod i ben yn annisgwyl tra ei fod yn sâl
- ar neu cyn dechrau’r 23ain wythnos, os disgwylir y bydd ei SSP yn dod i ben cyn i’w salwch ddod i ben
Os nad yw’ch cyflogai’n gymwys i gael SSP, mae’n rhaid i chi anfon ffurflen SSP1 ato cyn pen 7 diwrnod i’r diwrnod cyntaf iddo fynd yn sâl.
Os yw’ch cyflogai o’r farn bod hyn yn annheg, gall apelio i CThEF – mae’r ffurflen yn nodi sut i wneud hynny.
Salwch hirdymor
Gallwch lenwi ffurflen SSP1 cyn diwedd yr SSP os ydych yn gwybod y bydd cyflogai i ffwrdd o’r gwaith yn sâl am fwy na 28 wythnos. Mae hyn yn golygu y gall wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyn i’w SSP ddod i ben.