Tâl Salwch Statudol (SSP): arweiniad i gyflogwyr
Hawl
Y gyfradd wythnosol ar gyfer Tâl Salwch Statudol (SSP) yw £123.25 neu 80% o’ch enillion wythnosol cyfartalog - pa un bynnag sydd isaf. Mae’n cael ei dalu am hyd at 28 wythnos.
Mae SSP yn cael ei dalu:
- ar gyfer y diwrnodau y mae cyflogai’n eu gweithio fel arfer – gelwir y rhain yn ‘ddiwrnodau cymhwysol’
- yn yr un ffordd â chyflog, er enghraifft, ar y diwrnod cyflog arferol, gan ddidynnu treth ac Yswiriant Gwladol
Defnyddiwch y gyfrifiannell SSP (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cyfrifo’r swm gwirioneddol, er enghraifft ar gyfer y gyfradd ddyddiol.
Mae rheolau gwahanol ar gyfer rhai mathau o gyflogaeth, fel gweithwyr asiantaeth, cyfarwyddwyr a gweithwyr addysgol.
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu SSP o hyd, hyd yn oed os ydych yn rhoi’r gorau i fasnachu.
Ni allwch orfodi’ch cyflogeion i gymryd gwyliau blynyddol pan fyddant yn gymwys i gael absenoldeb salwch.
Pryd i ddechrau talu SSP
Mae SSP yn cael ei dalu pan fod y cyflogai’n sâl am o leiaf un diwrnod gwaith llawn.
Ni allwch gyfrif diwrnod fel diwrnod o salwch os yw cyflogai wedi gweithio am funud neu fwy cyn iddo fynd adref yn sâl.
Os yw cyflogai’n gweithio sifft sy’n dod i ben y diwrnod ar ôl iddi ddechrau ac yn mynd yn sâl yn ystod y sifft neu ar ôl iddi ddod i ben, nid ydynt yn gymwys i gael SSP ar gyfer y sifft honno.
Pryd i roi’r gorau i dalu SSP
Mae SSP yn dod i ben pan fydd y cyflogai’n dod yn ôl i’r gwaith, neu pan na fydd yn gymwys ar ei gyfer mwyach.
Cadw cofnodion
Gallwch ddewis sut rydych yn cadw cofnodion o absenoldeb salwch eich cyflogeion. Mae’n bosibl y bydd angen i CThEF weld y cofnodion hyn os oes dadlau ynghylch talu SSP.