Tâl Salwch Statudol (SSP): arweiniad i gyflogwyr
Rhoi rhybudd a nodynnau ffitrwydd
Dylai’r cyflogai roi gwybod i chi ei fod yn sâl cyn y terfyn amser a bennwyd gennych, neu 7 diwrnod os nad oes gennych un. Ni allwch fynnu ei fod yn rhoi gwybod i chi yn bersonol neu ar ffurflen arbennig.
Does dim rhaid i chi dalu Tâl Salwch Statudol (SSP) ar gyfer unrhyw ddiwrnod yr oedd y cyflogai’n hwyr yn rhoi gwybod i chi (oni bai bod rheswm da dros yr oedi).
Enghraifft
Mae cyflogai’n sâl o ddydd Llun, 2 Mehefin. Fel arfer, mae’n gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Rydych wedi gosod eich terfyn amser i fod yn 5 diwrnod o rybudd, ond dim ond ar ôl 7 diwrnod y mae’n rhoi gwybod i chi ei fod yn sâl (ar ddydd Llun, 9 Mehefin).
Does dim rhaid i chi dalu SSP iddo ar gyfer y 2 ddiwrnod yr oedd yn hwyr yn rhoi gwybod i chi.
Rydych yn dechrau talu SSP ar ddydd Llun, 9 Mehefin – y ‘diwrnod cymhwysol’ cyntaf (diwrnodau y mae cyflogai fel arfer yn eu gweithio) ar ôl iddo roi gwybod i chi ei fod yn sâl.
Nodynnau ffitrwydd a gofyn am dystiolaeth
Gallwch ond gofyn am nodyn ffitrwydd os yw’ch cyflogai i ffwrdd o’r gwaith am fwy na 7 diwrnod yn olynol (gan gynnwys diwrnodau nad yw’n gweithio).
Ni allwch atal talu SSP os yw’r cyflogai’n hwyr yn anfon nodyn ffitrwydd atoch.
Os yw’ch cyflogai i ffwrdd o’r gwaith yn sâl yn aml, neu am amser hir, mae gan CThEF wybodaeth am gael cyngor meddygol (yn agor tudalen Saesneg).
Nodynnau ffitrwydd
Mae’n rhaid i nodyn ffitrwydd (a elwir weithiau’n nodyn salwch) gael ei gyhoeddi gan un o’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol canlynol:
- Meddyg Teulu neu ddoctor yn yr ysbyty
- nyrs gofrestredig
- therapydd galwedigaethol
- fferyllydd
- ffisiotherapydd
Gall y nodyn fod yn gopi wedi’i argraffu neu’n gopi digidol.
Tystiolaeth arall o salwch
Os ydych yn cytuno, gall y cyflogai roi math priodol arall o dystiolaeth i chi yn lle nodyn ffitrwydd, fel:
- Adroddiad Iechyd a Gwaith Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i iechyd (AHP) gan ffisiotherapydd neu therapydd galwedigaethol, er enghraifft
- cynllun i gefnogi dychwelyd i’r gwaith