Cymorth i recriwtwyr gan y Ganolfan Byd Gwaith

Neidio i gynnwys y canllaw

Treialon gwaith

Mae treial gwaith yn gyfnod byr mewn gwaith y gallwch ei gynnig i geisiwr gwaith ar fudd-daliadau. Mae’n ffordd i’r ddau ohonoch weld a yw’r swydd yn ffit dda.

Mae’n digwydd ar ôl i chi eu cyfweld am rôl benodol. Os nad ydynt yn addas ar ei gyfer, nid oes angen i chi ei gynnig iddynt.

Mae ceiswyr gwaith yn gwirfoddoli ar gyfer treial gwaith. Mae nhw’n dal i gael eu budd-daliadau tra mae nhw arno ac nid ydynt yn cael cyflog.

Cymhwysedd

Mae’n rhaid i’r treial gwaith:

  • dim ond cael ei ddefnyddio fel ffordd i chi a’r darpar weithiwr benderfynu a ydyn nhw’n iawn ar gyfer y rôl
  • bod am swydd lle mai’r ceisiwr gwaith yw’r unig berson rydych yn ystyried ei gyflogi
  • bod am swydd sydd o leiaf 16 awr yr wythnos am o leiaf 13 wythnos

Mae angen i chi gytuno ar hyd y treial gwaith gyda’r ceisiwr gwaith cyn iddo ddechrau. Mae’n rhaid iddo:

  • gorffen pan fyddwch yn siŵr a yw’r ceisiwr gwaith yn addas ar gyfer y rôl
  • yn para dim mwy na 5 diwrnod os yw’r swydd am lai na 6 mis
  • yn para dim mwy na 30 diwrnod (ac oddeutu 5 diwrnod fel arfer) ar gyfer swyddi sy’n para 6 mis neu fwy

Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn gwirio bod y gweithiwr wedi gwirfoddoli ar gyfer y treial a’i fod yn cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd.

Sut i gynnal treial gwaith

Mae angen i chi gytuno ar dreial gwaith gyda’r Ganolfan Byd Gwaith cyn i chi ei gynnig i geisiwr gwaith.

Cysylltwch â’r Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr am fwy o wybodaeth.