Canllawiau

Gwneud cais gwrthrych am wybodaeth i CThEM

Dysgwch sut i wneud cais i gael mynediad at ddata personol sydd gan CThEM amdanoch chi, neu am rywun sydd wedi marw.

Trosolwg

Mae gennych yr hawl i ofyn am gael mynediad at eich data personol; gelwir hyn yn gais gwrthrych am wybodaeth (SAR).

Mae hyn yn eich galluogi i gael copi o’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch a gwirio ein bod yn ei phrosesu’n gyfreithlon.

Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, mae gennym hawl gyfreithiol i godi ffi resymol arnoch os yw’ch cais am fynediad yn ddi-sail neu’n ormodol. Gallwn hefyd wrthod bodloni’ch cais yn yr amgylchiadau hyn.

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau tuag at ddiogelu data o ddifrif. Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn esbonio sut yr ydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch chi yn unol â chyfraith diogelu data.

Byddwn yn gweithredu’r cais yn ddi-oed, cyn pen mis i’w gael. Gallwn ymestyn yr amser i ymateb o ddeufis arall os yw’r cais yn gymhleth neu os ydym wedi cael llawer o geisiadau gan yr un person.

Gallwch ofyn am unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch, megis:

  • hanes cyflogaeth
  • cofnod enillion
  • treth a dalwyd
  • cyfraniadau Yswiriant Gwladol a dalwyd
  • budd-daliadau a gafwyd
  • cofnod o ohebiaeth ysgrifenedig neu alwadau ffôn

Gallwch ofyn i’ch cyfreithiwr, eich asiant treth neu aelod o’ch teulu ofyn am wybodaeth bersonol ar eich rhan. Bydd angen i chi lenwi ac argraffu ffurflen ganiatâd CThEM neu ysgrifennu llythyr sy’n cadarnhau’r union wybodaeth y gallwn ei hanfon atynt. Bydd angen iddynt gynnwys y caniatâd hwn gyda’u cais a’i anfon drwy’r post.

Dysgwch fwy am beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn gwneud cais gwrthrych am wybodaeth ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Gwneud SAR i CThEM

Os ydych eisoes yn delio ag un o’n hymgynghorwyr achos, gallwch gysylltu â nhw er mwyn gofyn am eich gwybodaeth.

Cyfrif Treth Personol

Gallwch fewngofnodi i’ch Cyfrif Treth Personol neu greu un er mwyn cael mynediad at eich data personol ar gyfer y 5 mlynedd diwethaf.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch na’r hyn a ddangosir bydd angen i chi gysylltu â ni.

Gwneud cais ar-lein

Gallwch lenwi’r ffurflen a’i hanfon ar-lein neu ei hargraffu a’i hanfon i’r cyfeiriad post.

Gofynnwch am wybodaeth am:

Gwneud cais dros y ffôn neu drwy sgwrs dros y we

Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM er mwyn gofyn am wybodaeth.

Gwneud cais ysgrifenedig

Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch am y canlynol:

  • yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch
  • y blynyddoedd perthnasol y mae angen yr wybodaeth arnoch ar eu cyfer
  • y rheswm dros y cais

Bydd angen i chi hefyd gadarnhau pwy ydych drwy anfon y manylion canlynol at CThEM:

  • eich enw llawn
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich dyddiad geni
  • hanes eich cyfeiriad dros y 5 mlynedd diwethaf
  • eich llofnod gwreiddiol (nid oes angen hwn ar gyfer ceisiadau ar-lein)

Dylai SARs sy’n ymwneud â Threth Incwm neu Yswiriant Gwladol gael eu hanfon i:

SARS/DPU
Cyllid a Thollau EM
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM
HMRC
BX9 1ST

Anfonwch SARs sy’n ymwneud â chredydau treth, Budd-dal Plant, TAW, tollau a chofnodion eraill at y Swyddog Diogelu Data yn y swyddfa CThEM rydych wedi bod yn delio â hi.

Gofyn am eich hanes cyflogaeth er mwyn hawlio iawndal

Gallwch wneud cais i gael gwybodaeth am eich hanes cyflogaeth er mwyn ategu hawliad am iawndal neu gymorth.

Gofyn am wybodaeth am rywun sydd wedi marw

Gallwch wneud cais i gael gwybodaeth rhywun sydd wedi marw er mwyn setlo Yswiriant Gwladol neu Dreth Incwm os oes gennych ganiatâd cyfreithiol i wneud hynny ar ran ei ystâd.

Gofyn am wybodaeth gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Dilynwch yr arweiniad ar gyfer Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Cyhoeddwyd ar 14 January 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 June 2021 + show all updates
  1. Overview and Make a SAR to HMRC sections have been updated.

  2. Information about where to send a SAR for Income Tax has been updated.

  3. The 'Make a SAR to HMRC' apply online section has been updated.

  4. Information about your rights to request personal information, any fees you may have to pay, and how long this may take has been added to the guidance.

  5. Address to send Subject Access Requests has been updated.

  6. Information about making a subject access request for tax credits, Income Tax, Child Benefit, VAT, customs and other records has been added.

  7. The address to send the subject access request has been updated.

  8. First published.