Cymorth i ddefnyddwyr
Gwybodaeth am eich hawliau, beth i'w wneud os aiff pethau o chwith, a sut i ddweud wrth yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) am broblemau defnyddwyr.
Mae yna lawer o ffyrdd i gael help os oes gennych broblem gyda rhywbeth rydych wedi’i brynu.
Sefydliadau a all eich helpu
I gael help gyda’ch problem, cysylltwch â’r sefydliad perthnasol cyngor i ddefnyddwyr yn eich ardal.
Rhowch wybod am broblem i ni
Gallwch roi gwybod am broblem defnyddiwr i’r CMA, os ydych chi’n credu ei bod yn effeithio ar fwy nag un unigolyn yn unig: Dywedwch wrth y CMA am broblem.
Ar ôl i chi gyflwyno eich cwyn i ni, byddwch yn cael ymateb awtomataidd drwy e-bost. Byddwn yn adolygu’r wybodaeth rydych wedi’i darparu.
Fodd bynnag, ni allwn ymyrryd na chynghori ar gwynion unigol.
Gwybod eich hawliau
Gallwch wirio ein canllawiau ar eich hawliau fel defnyddiwr.
Canslo nwyddau neu wasanaethau
Beth allwch chi ei wneud a phwy i gysylltu ag ef i gael gwybodaeth neu gyngor os oes angen i chi ganslo nwyddau neu wasanaethau,
Dychweliadau ac ad-daliadau
Ewch i Gyngor ar Bopeth am wybodaeth am ddychweliadau ac ad-daliadau.