Carchar Caerdydd
Carchar i ddynion yn unig yw Carchar Caerdydd ac mae wedi ei leoli yng nghanol Caerdydd, Cymru.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.
Bwcio a chynllunio eich ymweliad â charchar Caerdydd
I ymweld â rhywun yng Ngharchar Caerdydd, rhaid i chi:
- fod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
- bwcio eich ymweliad o leiaf 48 awr ymlaen llaw
- bod â’r dogfennau adnabod gofynnol gyda chi pan fyddwch yn ymweld
Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.
Mae cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall carcharor eu cael. Mae hyn yn amrywio yn dibynnu ar eu hamgylchiadau. Gallwch wirio hyn gyda Charchar Caerdydd.
Help gyda chost eich ymweliad
Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:
- teithio i Garchar Caerdydd
- rhywle i aros dros nos
- prydau bwyd
Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau
Gallwch archebu eich ymweliad ar-lein.
Mae’r llinell archebu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 3pm.
Llinell archebu: 0300 303 2301 a dewis yr opsiwn ymweliadau cymdeithasol.
Amseroedd ymweld:
- Dydd Llun, 2pm i 3:30pm
- Dydd Mawrth, 2pm i 3:30pm
- Dydd Mercher, 2pm i 3:30pm
- Dydd Iau, 2pm i 3:30pm
- Dydd Gwener, 2pm i 3:30pm
Amseroedd ymweliadau:
- Dydd Sadwrn, 9:30am i 11am a 2pm i 3:30pm
- Dydd Sul, 2pm i 3:30pm
Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol
Gallwch drefnu ymweliad cyfreithiol wyneb yn wyneb trwy anfon e-bost i HMPPSvisitbooking@justice.gov.uk neu dros y ffôn.
Llinell archebu: 0300 060 2301
Ymweliadau fideo
Gallwch drefnu ymweliad proffesiynol drwy gyswllt fideo trwy anfon e-bost i videolinkcardiff@justice.gov.uk.
Oriau ymweliadau cyfreithiol:
- Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 10am, 10:30 i 11:30am, 2pm i 3pm a 3:15pm i 4:15pm
Gall cyfreithwyr/timau cyfreithiol neu unrhyw ymwelwyr proffesiynol ddod â gwaith papur i mewn i’r carchar, bydd hyn yn destun gwiriadau diogelwch safonol. Rhaid i’r holl waith papur fynd yn ôl allan o’r carchar gyda’r ymwelydd. Dylai unrhyw waith papur cyfreithiol ar gyfer carcharor gael ei bostio i’r carchar ac ni ellir ei drosglwyddo i’r carcharor yn ystod yr ymweliad.
Cyrraedd Carchar Caerdydd
Dod o hyd i Garchar Caerdydd ar fap
Mae Carchar Caerdydd tua milltir o orsaf Caerdydd Canolog ac wrth ymyl gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd.
I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:
- defnyddiwch National Rail Enquiries
- defnyddiwch Traveline ar gyfer amseroedd bysiau lleol
Nid oes maes parcio i ymwelwyr ond mae maes parcio aml-lawr NCP gyferbyn â’r carchar. Mae’r ffordd y tu allan i’r carchar hefyd yn caniatáu i ddeiliaid Bathodyn Glas stopio am gyfnod byr.
Dod i mewn i Garchar Caerdydd
Rhaid i’r holl ymwelwyr sy’n 16 oed neu’n hŷn brofi eu hunaniaeth cyn dod i mewn i’r carchar. Darllenwch y rhestr o ffurfiau derbyniol o brawf adnabod (ID) pan fyddwch yn ymweld â charchar.
Rhaid i’r holl ymwelwyr, yn cynnwys plant, fod yn destun chwiliad corfforol, a fydd yn cael ei gefnogi gan ddatgelwr metel neu ffon llaw.
Bydd sganiwr pelydr-X yn cael ei ddefnyddio ar gyfer eitemau y mae unigolion yn eu cario.
Sylwch y gall gweithdrefnau diogelwch wrth ddod i mewn ac allan o’r adeilad achosi oedi.
Fe’ch cynghorir i gyrraedd y carchar 30 munud cyn amser cychwyn eich ymweliad.
Ar ddyddiau’r wythnos, dylai ymwelwyr adrodd i’r ganolfan ymwelwyr i deuluoedd i roi gwybod eu bod wedi cyrraedd ar gyfer eu hymweliad.
Gall gadael y carchar gymryd cryn dipyn o amser.
Cofiwch ystyried y ffactorau hyn pan fyddwch yn gwneud cynlluniau/trefniadau teithio. Mae gweithdrefnau dod i mewn ac allan yn hanfodol ar gyfer diogelu’r cyhoedd a chynnal amgylchedd diogel yng Ngharchar EF Caerdydd.
Mae gan Garchar EF Caerdydd bolisi cod gwisg ystyriol o deuluoedd sy’n golygu y dylai ymwelwyr wisgo’n briodol. Gallech gael eich troi i ffwrdd os byddwch yn gwisgo eitemau fel:
- dillad sy’n dangos llawer o’r corff neu ddillad gyda sloganau sarhaus
- hetiau, sgarffiau, neu orchuddion pen nad ydynt yn cael eu gwisgo am resymau crefyddol
- sbectol haul
- festiau ‘muscle’, rhan uwch y corff yn noeth, neu topiau sydd wedi’u rhwygo
- sloganau sarhaus neu sloganau pêl-droed ar ddillad
- byclau mawr ar feltiau
- watsys clyfar neu declyn tracio ffitrwydd
- dillad sydd wedi rhwygo, gan gynnwys jîns wedi rhwygo
- esgidiau/bŵts gyda chapiau dur neu esgidiau/ bŵts beic modur
- topiau sydd heb gefn neu sy’n dangos llawer o’r corff, neu topiau tryloyw, dim topiau gyda strapiau sbageti
- siorts sy’n fyrrach na chanol y clun. Dim sgertiau mini neu sgertiau / ffrogiau byr iawn, ond bai eu bod yn cael eu gwisgo gyda ‘leggings’
- bagiau yn cynnwys bagiau llaw - rhowch rhain mewn locer cyn eich ymweliad
Nid yw’r rhestr hon yn rhestr gyflawn. Holwch yn y ganolfan ymwelwyr os oes gennych gwestiynau am y gwisg priodol.
Bydd lluniaeth ar gael yn ystod eich ymweliad.
Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn gyda chi i Garchar Caerdydd. Bydd rhaid i chi adael y mwyafrif o’r pethau sydd gennych mewn locer neu gyda’r staff diogelwch.
Mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi car, y gellir eu storio yn y fynedfa. Mae gan Garchar Caerdydd bramiau y gellir eu benthyg wrth ymweld.
Bydd swyddog yn esbonio’r rheolau i chi ar gychwyn eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, yna gall eich ymweliad gael ei ganslo a gallwch gael eich gwahardd rhag ymweld eto.
Gallwch wynebu cosb ariannol penagored a dedfryd o garchar os ydych yn ceisio dod ag eitemau gwaharddedig i mewn i’r carchar.
Canolfan ymwelwyr i deuluoedd
Mae gan CEF Caerdydd ganolfan ymwelwyr i deuluoedd sy’n cael ei goruchwylio gan staff o Invisible Walls Family Services.
Gallwch ddod o hyd iddi y tu allan i’r carchar, yr adeilad cyntaf ar y dde wrth i chi gerdded i mewn.
Mae’r ganolfan ymwelwyr ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, 1pm tan 4:15pm.
Ar ddyddiau’r wythnos, dylai ymwelwyr adrodd i’r ganolfan ymwelwyr i deuluoedd i roi gwybod eu bod wedi cyrraedd ar gyfer eu hymweliad.
(Ar ddydd Sadwrn a dydd Sul bydd ymwelwyr ond angen rhoi gwybod wrth brif giât y carchar eu bod wedi cyrraedd ar gyfer eu hymweliad).
Byddwch yn derbyn cerdyn arwyddo i mewn i fynd gyda’ch ID i’r prif garchar, unwaith y cewch eich tywys yno gan staff.
Mae yna loceri am ddim ar gael i gadw unrhyw eitemau gwerthfawr.
Mae’n rhaid i chi gadw eich ID gyda chi i gwblhau’r llofnodi i mewn wrth y giât ffrynt, ble bydd yna’n cael ei gadw dan glo. Gallwch ei gasglu ar ddiwedd yr ymweliad.
Mae Invisible Walls yn darparu gwasanaethau i deuluoedd yng Ngharchar EF Caerdydd. Darperir cyngor a chefnogaeth gan y staff.
Diwrnodau teulu
Mae CEF Caerdydd yn cynnal 10 ymweliad teuluol bob blwyddyn, ynghyd â 10 sesiwn grŵp babanod. Mae ymyriadau teulu ychwanegol yn cael eu cwblhau pan fo angen.
Cadw mewn cysylltiad â rhywun yng Ngharchar Caerdydd
Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yng Ngharchar Caerdydd.
Galwadau fideo diogel
Bydd angen i chi lawrlwytho a gosod yr ap am ddim Prison Video o Apple App Store neu Google Play Store (neu siopau apiau cyfatebol y tu allan i’r DU) ar eich ffôn neu ddyfais tabled ac yna creu cyfrif. Dim ond pobl 18 oed neu hŷn sy’n gallu cofrestru ar gyfer cyfrif gyda Prison Video.
Bydd angen i chi roi eich enw, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni, a llwytho lluniau o’ch dogfennau adnabod a’ch wyneb. Bydd angen i chi hefyd ychwanegu manylion unrhyw bobl eraill sy’n dymuno cymryd rhan yn y galwadau fideo gyda chi, fel plant, a llwytho llun clir o wyneb pob cyfranogwr.
Bydd angen i chi lwytho dogfennau adnabod ar gyfer pobl dros 18 oed yn unig, oni bai fod y carchar yn gofyn yn benodol am unrhyw beth arall.
Mae canllaw i ddefnyddwyr a gwybodaeth arall ar gael yn www.prisonersfamilies.org/prison-video.
Amseroedd galwadau fideo diogel:
- Dydd Mawrth i ddydd Gwener: 9am i 9:30am, 9:50am i 10:20am, 10:40am i 11:10am, 11:30am i canol dydd
Sut i drefnu galwad fideo ddiogel
Gallwch ofyn am alwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn drwy ap Prison Video.
Byddwch yn cael hysbysiad pan fydd eich cais wedi cael ei dderbyn.
Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio
Galwadau ffôn
Nid oes gan garcharorion ffonau yn eu celloedd, felly bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn.
Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.
Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.
Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.
E-bost
Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yng Ngharchar Caerdydd drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion, yn dibynnu ar y rheolau yng Ngharchar Caerdydd.
Llythyrau
Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.
Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.
Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Charchar Caerdydd.
Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’u gwirio gan swyddogion.
Radio Cenedlaethol y Carchardai - Sioe i Deulu a Ffrindiau Ddewis y Caneuon
Mae Radio Cenedlaethol y Carchardai yn darlledu i holl gelloedd y carchardai ledled Cymru a Lloegr, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gall teulu a ffrindiau gadw mewn cysylltiad gyda’u hanwyliaid yn y carchardai trwy anfon ceisiadau am ganeuon, negeseuon ysgrifenedig neu recordiadau llais. Yna bydd y rhain yn cael eu darllen allan ar y radio neu’n cael eu chwarae yn ystod y sioe wythnosol.
Gallwch anfon neges atom, a gwrando ar y sioe yn nationalprisonradio.com
Anfon arian a rhoddion
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.
Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:
- os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
- os nad oes gennych chi gerdyn debyd
Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.
Rhoddion a pharseli
Gall ffrindiau a theulu gyflwyno’r eitemau canlynol cyn ymweliad ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul:
- dillad llys (crysau, trowsusau, esgidiau, teis a siacedi)
- dillad isaf a hyd at 5 pâr o sanau
- sbectol ddarllen neu lensys cyffwrdd
Mae carcharorion sydd ag ymddygiad ‘uwch’ neu sydd ar remand hefyd yn cael un top ac un pâr o drowsus. Mae rhai cyfyngiadau, gan gynnwys dim hwdis, top du neu wyn, sipiau na chrysau pêl-droed, neu ddelweddau amhriodol neu logos sy’n ymwneud â chyffuriau.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn labelu’r eitemau gydag enw a rhif y carcharor.
Bydd pob eitem yn cael ei hagor a’i gwirio gan swyddogion.
Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.
I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy ewch i: Learning and skills and library services for adult prisons in Wales: PSI 2/2015 – annex E.
Cysylltwch â Charchar Caerdydd i gael rhagor o wybodaeth am roddion a pharseli.
Bywyd yng Ngharchar Caerdydd
Mae Carchar Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.
Diogelwch a diogelu
Mae gan bob carcharor yng Ngharchar Caerdydd hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.
I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Dyrennir gweithiwr allweddol i bob carcharor i’w cefnogi yn ystod eu cyfnod yn y carchar. Mae gwasanaeth gofal iechyd 24 awr ar gael hefyd.
Cyrraedd a’r noson gyntaf
Pan fydd rhywun yn cyrraedd Carchar Caerdydd am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.
Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny. Byddant yn cael cynnig y cyfle i gael cawod, pryd poeth a diod cyn cael eu symud i’r ganolfan noson gyntaf.
Cynefino
Bydd pob carcharor sy’n cyrraedd Carchar Caerdydd yn cael sesiwn gynefino. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:
- iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
- unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
- datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
- gofynion crefyddol
- mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd
Ceir cyflwyniad cynefino hefyd sy’n ymdrin â rheolau’r carchar, diogelwch tân, ymddygiad a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau’n gweithio.
Llety
Mae tua 800 o garcharorion yng Ngharchar Caerdydd. Mae 6 uned gyda chymysgedd o gelloedd sengl a rhai a rennir. Mae pob uned yn cynnwys cawodydd a ffonau.
Mae campfa ar gael sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau i garcharorion o bob gallu corfforol. Mae ganddynt hefyd fynediad at gyfleusterau llyfrgell.
Mae yna dîm caplaniaeth aml-ffydd amrywiol sy’n darparu cymorth i garcharorion.
Addysg a gwaith
Nod Carchar Caerdydd yw darparu gweithgarwch pwrpasol i bob carcharor a darparu rhaglen addysg a gwaith amser llawn.
Mae gan garcharorion fynediad at raglen eang o gyfleoedd dysgu, yn amrywio o sgiliau sylfaenol, fel Cymraeg, Saesneg a mathemateg, i ddysgu a chymwysterau uwch.
Drwy weithdai diwydiant, gall carcharorion ddysgu sgiliau barista, cynhyrchu a gweithgynhyrchu, glanhau diwydiannol, gwaith stryd a rheilffyrdd a mwy.
Mae gwaith ar gael drwy’r carchar, gan gynnwys glanhau’r adain, peintio’r adain a dyletswyddau’r gegin.
Mae Carchar Caerdydd hefyd yn rhedeg nifer o raglenni ymddygiad troseddol achrededig.
Cefnogaeth i deulu a ffrindiau
Gwybodaeth am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.
Cefnogaeth yng Ngharchar Caerdydd
Mae tîm G4S yn darparu amrywiaeth o wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau carcharorion. Gallwch ffonio neu ofyn yn y ganolfan ymwelwyr i gael siarad â rhywun.
Ffôn: 02920 923 389
Gwybodaeth am gost galwadau
Pryderon, problemau a chwynion
Mewn argyfwng
Ffoniwch 02920 923 100 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.
| Categori cyswllt | Rhif ffôn | Gwybodaeth ychwanegol |
|---|---|---|
| Dim brys | 02920 923 341 | Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion. |
| Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff | 0800 917 6877 (peiriant ateb 24 awr) |
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. |
| Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion | 0808 808 2003 | Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol. |
| Cyswllt Digroeso gan Garcharor | 0300 060 6699 | Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor. Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn. |
Problemau a chwynion
Os oes gennych chi broblem, cysylltwch â Carchar Caerdydd.
Cysylltu â Charchar Caerdydd
Llywodraethwr (dros dro): Andrew Phillips
Ffôn (24 awr): 029 2092 3100
Ffacs: 029 2092 3318
Gwybodaeth am gost galwadau
Cyfeiriad
Carchar Ei Fawrhydi Caerdydd
Heol Knox
Caerdydd
CF24 0UG
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.
Updates to this page
-
Updated booking information for official video and official face to face visits.
-
Legal visits booking line number updated.
-
Family visitors centre information updated - from 1 July 2025, visitors should book in at the visitors centre on weekdays.
-
Social visits times updated.
-
Prison governor updated to Andrew Phillips.
-
Entering Cardiff Prison section updated.
-
Added link to the National Prison Radio (NPR) request show for family and friends, under the 'Keep in touch with someone' section
-
Added translation
-
Updated legal/professional visit booking information.
-
Updated family and friends visits booking line opening times to, Monday to Friday, 10am to 3pm.
-
Opening hours updated for visits booking telephone line.
-
Added translation
-
Update to secure video calls.
-
Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes
-
Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.
-
Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.
-
Updated physical contact guidance
-
New visiting times and booking information.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions
-
Updated visiting information.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Added confirmation of secure video calls made available at Cardiff prison.
-
Updated legal visit section
-
Updated: visiting times and visiting procedure changes during coronavirus.
-
added survey link
-
Added welsh translation
-
Visit information update
-
First published.