Canllawiau

Carchar y Berwyn

Mae Berwyn yn garchar i ddynion yn Wrecsam, Gogledd Cymru.

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â Berwyn

Yn Berwyn, carcharorion sy’n gyfrifol am drefnu eu hymweliadau eu hunain. Fel arfer, rhaid trefnu’r rhain o leiaf 2 ddiwrnod ymlaen llaw.

Gall hyd at 3 oedolyn ac unrhyw nifer o blant ymweld ar y tro. Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn.

Cysylltwch â Berwyn os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys: * teithio i Berwyn * rhywle i aros dros nos * prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

Mae carcharorion yn gyfrifol am drefnu ymweliadau drwy unilink. Gallwch hefyd anfon e-bost at: corporateservicesberwyn@justice.gov.uk.

Amseroedd ymweld: * Dydd Llun: 8:45am i 9:45am, 10:30am i 11:30am, 2pm i 3pm a 3:45pm i 4:45pm * Dydd Mawrth: 8:45am i 9:45am, 10:30am i 11:30am a 2pm i 4pm * Dydd Mercher: 8:45am i 9:45am, 10:30am i 11:30am, 2pm i 3pm a 3:45pm i 4:45pm * Dydd Iau: 8:45am i 9:45am, 10:30am i 11:30am a 2pm i 4pm * Dydd Gwener: 8:45am i 10:45am * Dydd Sadwrn: 8:45am i 9:45am, 10:30am i 11:30am, 2pm i 3pm a 3:45pm i 4:45pm * Dydd Sul: 8:45am i 9:45am, 10:30am i 11:30am, 2pm i 3pm a 3:45pm i 4:45pm

Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol

Gellir trefnu ymweliadau cyfreithiol drwy ffonio 01978 523337 Amseroedd ymweld: * Dydd Mawrth i ddydd Gwener 9am i 12pm a 2pm - 5pm Rydym yn cynnig platfform fideo yn y cwmwl, cynadleddau dros y ffôn ac ymweliadau wyneb yn wyneb.

Cyrraedd Berwyn

Dod o hyd i Berwyn ar fap

Mae CEF Berwyn wedi’i leoli ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam a google maps yw’r ffordd hawsaf o ddod o hyd i’r carchar gan ddefnyddio’r cod post LL13 9AE. Nid Berwyn yw’r carchar hawsaf i gyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond mae dwy orsaf drenau (Wrecsam Cyffredinol a Wrecsam Canolog) ac mae’r ddwy orsaf tua 4 milltir i ffwrdd ac mae tacsis ar gael yn y gorsafoedd, neu gallwch archebu ymlaen llaw ar:

  • Apollo Taxis 01978 262 626
  • Wrexham Prestige Taxis 01978 357 777

Station Cars (y tu allan i orsaf reilffordd Wrecsam Cyffredinol) 01978 363661.

Gall ymwelwyr hefyd archebu tacsi o’r carchar ar gyfer eu taith yn ôl.

Mae nifer o fysiau lleol o ganol tref Wrecsam sy’n pasio’r carchar.

Mae llefydd parcio ar gael yn y carchar hefyd, gan gynnwys llefydd parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas.

Os oes gennych anabledd, mae parcio i bobl anabl o flaen y sefydliad, ac mae toiledau i bobl anabl ar gael yn y Ganolfan Ymwelwyr ac yn y Neuadd Ymweliadau. Mae’r Neuadd Ymweliadau ar y llawr uchaf, ond mae lifft ar gael i’r bobl hynny sy’n cael trafferth gyda grisiau.

Efallai y bydd angen chwilio cadeiriau olwyn, eu defnyddwyr, oedolion sy’n dod gyda nhw, a chŵn cymorth. Bydd staff sy’n cynnal y chwiliadau yn gwneud hynny’n sensitif. Rhaid i ymwelwyr sydd angen cymorth corfforol yn ystod eu hymweliad fod yng nghwmni oedolyn arall. Ni all staff y sefydliad gynnig cymorth personol.

Os ydych chi’n cael trafferth ymweld â’r sefydliad oherwydd anabledd, gallwch drafod hyn yn gyfrinachol gyda staff y Ganolfan Ymwelwyr ar 01978 523 000.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

  • defnyddiwch National Rail Enquiries
  • defnyddiwch Traveline ar gyfer amseroedd bysiau lleol

Mae llefydd parcio ar gael yn y carchar, gan gynnwys llefydd parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas.

Mynd i mewn i’r Berwyn

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o ddulliau adnabod derbyniol ar gyfer pob ymwelydd.

Bydd angen i bob ymwelydd gael chwiliad ‘patio i lawr’, gan gynnwys plant. Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd.

Dylai ymwelwyr wisgo’n briodol. Efallai na chewch fynediad os byddwch yn gwisgo eitemau megis gwisg allanol neu hwdis yn cynnwys cynheswr corff, siacedi denim, a siacedi lledr, rhaid i dopiau gael llewys (mae crysau-t a siwmperi yn dderbyniol), rhaid i drowsusau byr/seiclo, sgerti a ffrogiau gyrraedd y pen-glin neu’n hirach, yn cynnwys dynion, merched a phlant/glasoed, dim topiau crop na thopiau 3/4 hyd (rhaid i bob top orchuddio’r stumog a rhigol y bronnau), dim dillad tryloyw, dim sloganau sarhaus, patrymau na logos, dim jîns wedi’u rhwygo ar unrhyw ran o’r goes (mae rhai wedi’u treulio yn dderbyniol cyn belled na ellir rhoi bysedd drwy’r bylchau), ni ddylai ffrogiau/topiau fod yn ddi-gefn, rhaid gwisgo dillad isaf, dim hetiau, ac eithrio penwisgoedd crefyddol, dim sbectolau haul, dim blancedi plant, teganau, seddi car, pramiau, clytiau na weips (darperir clytiau a weips).

Rhaid i fformiwla babanod fod ar ffurf powdr neu mewn potel wedi’i gwneud mewn ffatri wedi’i selio (darperir dŵr berw). Holwch yn y ganolfan ymwelwyr os oes gennych chi gwestiynau am wisg briodol.

Rhaid i ymwelwyr gadw at god gwisg y carchar sy’n berthnasol, a gellir gofyn am ragor o fanylion cyn eich ymweliad cyntaf.

Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Berwyn. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych gyda chi mewn locer neu gyda swyddogion diogelwch. Mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi ceir.

Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Cyfleusterau ymweld

Mae canolfan ymwelwyr sy’n cael ei rhedeg gan y gwasanaethau Teulu yn Berwyn sy’n cael ei darparu gan elusen Barnardos.

Bydd lluniaeth ar gael yn ystod eich ymweliad, gan gynnwys Costa Coffee.

Mae ardaloedd chwarae i blant yn agored.

E-bost: berwyn@prisonadvice.org.uk Ffôn: 01978 523004 Gwybodaeth am gost galwadau

Diwrnodau teulu

Mae CEF Berwyn ochr yn ochr â Barnardo’s yn cynnal nifer o ymweliadau teuluoedd bob blwyddyn. Mae gennym 9 ymweliad thematig i’w cynnal drwy gydol y flwyddyn, gyda 3 ymweliad yn ystod yr haf gyda thema chwaraeon, yn ogystal â’r ymweliadau Nadolig arferol.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn Berwyn

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yn Berwyn.

Galwadau ffôn

Mae gan garcharorion ffonau yn eu celloedd ac maent yn gallu gwneud galwadau ar unrhyw adeg.

Nid yw ffonau’n derbyn galwadau sy’n dod i mewn, felly bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yn Berwyn drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Gallwch atodi lluniau am dâl ychwanegol a derbyn atebion.

Mae negeseuon e-bost yn cael eu monitro.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Prison Video
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Dim ond carcharorion all wneud cais am alwadau fideo diogel yn y carchar hwn.

Byddwch yn cael hysbysiad os bydd carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.

Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Berwyn.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’u gwirio gan swyddogion.

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Rhoddion a pharseli

Mae pobl yn Berwyn yn cael rhestr o eitemau y gallan nhw eu prynu gan gyflenwyr cymeradwy drwy system gatalog.

Gallant hefyd wneud cais i gael parsel dillad unwaith neu ddwywaith y flwyddyn yn dibynnu ar hyd eu cyfnod yn y carchar a lefel eu hymddygiad. Ni ellir postio’r parseli hyn i mewn a rhaid eu rhoi i’r staff yn ystod ymweliad. Bydd pob eitem yn cael ei hagor a’i gwirio gan swyddogion.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.

I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Polisi Cymhellion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Atodiad F.

Bywyd yn Berwyn

Mae Berwyn wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall dynion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob person yn Berwyn hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Berwyn am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.

Rhoddir mwy o sylw wrth gyrraedd i wneud y carcharor mor gyfforddus â phosibl. Mae nifer o archwiliadau’n cael eu gwneud ar y carcharor drwy’r nos.

Cynefino

Bydd pawb sy’n cyrraedd Berwyn yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae dros 2,000 o garcharorion yn Berwyn mewn cymysgedd o gelloedd unigol a rhai a rennir. Mae gan bob cell gawod, toiled, basn ymolchi a ffôn ar gyfer galwadau allan.

Mae pob carcharor yn cael gliniadur Unilink ar gyfer gwneud ceisiadau, archebu eitemau ffreutur ac archebu ymweliadau. Gallant hefyd ei ddefnyddio i gael mynediad at yr Hyb Cynnwys, ffynhonnell gyfoethog o ddeunyddiau addysgol, gwybodaeth, newyddion ac adloniant.

Mae gan garcharorion fynediad at neuadd chwaraeon maint llawn, ystafell pwysau a ffitrwydd a chaeau awyr agored. Mae’r rhaglen ffitrwydd yn cynnwys amrywiaeth o chwaraeon tîm a dosbarthiadau sy’n arwain at gymwysterau achrededig.

Mae gan Garchar Berwyn dîm caplaniaeth aml-ffydd amrywiol sy’n darparu cymorth i garcharorion. Darperir ar gyfer pob gŵyl grefyddol.

Addysg a gwaith

Mae gan garcharorion fynediad at raglen eang o gyfleoedd dysgu a ddarperir gan Novus Cambria. Mae’r rhain yn amrywio o sgiliau sylfaenol, megis llythrennedd, Cymraeg a rhifedd, i gymwysterau galwedigaethol a dysgu uwch.

Mae cymwysterau galwedigaethol yn cynnwys cyfryngau digidol, menter busnes, celf, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) a’r celfyddydau perfformio.

Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys hyfforddiant mewn amrywiaeth o grefftau a phroffesiynau, fel:

  • gosod brics
  • gwaith coed
  • garddwriaeth
  • plastro
  • glanhau diwydiannol

Mae gwaith ar gael ledled y carchar mewn meysydd fel golchi dillad, rheoli gwastraff a glanhau diwydiannol. Gall carcharorion hefyd weithio mewn un o weithdai diwydiannol Berwyn, sy’n cynnwys canolfan alwadau a chanolfan ddosbarthu DHL. Gall carcharorion ennill cymwysterau wrth weithio, er enghraifft wrth gyflawni gweithrediadau gweithgynhyrchu a gwasanaeth i gwsmeriaid.

Mae Berwyn hefyd yn rhedeg nifer o gyrsiau raglenni ymddygiad troseddol achrededig. Mae’r coleg hefyd yn darparu cyrsiau personol a chymdeithasol mewn meddwl yn gadarnhaol a dysgu fel teulu.

Mae gweithwyr cyfarwyddyd yn rhoi gwybodaeth a chyngor i garcharorion drwy gydol eu hastudiaethau ac mae hyfforddwyr gwaith yn darparu cymorth unigol i garcharorion wrth iddynt ddod o hyd i waith ar ôl cael eu rhyddhau.

Rhyddhau dros dro

Efallai y bydd rhai carcharorion yn gymwys i gael eu rhyddhau ar drwydded dros dro. Gellir defnyddio hyn i gael profiad gwaith yn y gymuned leol a pharatoi ar gyfer rhyddhau. Gall carcharorion wneud cais am hyn yn y carchar.

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Gwybodaeth am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.

Cefnogaeth yn Berwyn

Darperir gwasanaethau teulu yn Berwyn gan Barnardos.

Gallwch ofyn am ragor o wybodaeth yn y ganolfan ymwelwyr neu gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost neu dros y ffôn.

I gysylltu â’n pennaeth darpariaeth i deuluoedd yn Berwyn, anfonwch e-bost at: OfficialCorrespondence.Berwyn@justice.gov.uk.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem, cysylltwch â Berwyn. Os na allwch ddatrys y broblem yn uniongyrchol, gallwch wneud cwyn i Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF.

Cysylltu â Berwyn

Llywodraethwr: Nick Leader

Ffôn (24 awr): 01978 523 000 Gwybodaeth am gost galwadau Dilyn Berwyn ar Twitter

Cyfeiriad

CEF Berwyn Ffordd y Bont Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam Wrecsam Gogledd Cymru LL13 9QE

Gweler y map

Mewn argyfwng

Os oes gennych bryder bod risg uniongyrchol o berygl i rywun yn ein gofal a’ch bod yn dymuno siarad ag aelod o staff i fynegi’r pryder hwn, yna gallwch ffonio’r switsfwrdd: 01978 523 000.

Ni fydd yr aelod o staff sy’n ateb y ffôn yn gallu trafod y person sydd yn ein gofal gyda chi, ond bydd yn trosglwyddo eich pryder ar unwaith i uwch aelod o staff i weithredu ar hynny. Ein nod yw mynd i’r afael ag unrhyw faterion a godir yn yr alwad ar unwaith a byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw’r canlyniad.

Llinell gymorth dalfa mwy diogel

Os ydych chi’n poeni am ddiogelwch neu les unrhyw un yn ein gofal yn Berwyn ond nad oes bygythiad na pherygl ar hyn o bryd, gallwch adael neges peiriant ateb ar gyfer y Tîm Dalfa Mwy Diogel ar 01978 523 772.

Mae’r gwasanaeth neges llais hwn yn cael ei wirio sawl gwaith y dydd.

Gallwch hefyd ddarllen mwy o wybodaeth am bryderon am garcharu mwy diogel ar wefan Teuluoedd Carcharorion.

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Cyhoeddwyd ar 16 June 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 August 2022 + show all updates
  1. Secure video calls update.

  2. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  3. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  4. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  5. Updated number for PACT family services

  6. Added link to information about testing for physical contact at visits.

  7. New visiting times and booking information added.

  8. Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  9. Covid update

  10. Updated visiting information.

  11. Updated visiting information in line with new coronavirus rules in Wales.

  12. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions. 

  13. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  14. updated visiting facilities contact email address

  15. First published.