Canllawiau

Gwneud cais am Lwfans Priodasol drwy’r post

Defnyddiwch ffurflen MATCF i wneud cais am Lwfans Priodasol i drosglwyddo 10% o’ch Lwfans Personol i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil.

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio ffurflen MATCF i wneud cais am Lwfans Priodasol drwy’r post. Ni fydd unrhyw hawliadau eraill drwy’r post yn cael eu derbyn.

Gallwch chi a’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil ddefnyddio’r ffurflen hon i wneud cais am Lwfans Priodasol. Mae hyn caniatáu i un ohonoch drosglwyddo 10% o’ch Lwfans Personol i’r llall, a fydd wedyn yn gallu hawlio gwerth y lwfans hwnnw.

Gallwch ôl-ddyddio’ch hawliad i 6 Ebrill 2021 (y flwyddyn dreth 2021 i 2022) ar gyfer unrhyw flynyddoedd yr oeddech yn gymwys ar gyfer Lwfans Priodasol gan ddefnyddio ffurflen MATCF.

Os yw’ch partner wedi marw ers hynny, gallwch ôl-ddyddio’ch hawliad drwy ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Os nad ydych chi’n ôl-ddyddio’ch hawliad, y ffordd gyflymaf i wneud cais am Lwfans Priodasol yw ar-lein.

Os ydych yn gwneud cais ar ran rhywun arall

Os ydych yn hawlio ar ran rhywun arall, gan godi tâl am wneud hynny ac eisiau i’r ad-daliad gael ei dalu i chi, dysgwch beth fydd angen i chi ei wneud er mwyn cael ad-daliadau Treth Incwm neu TWE (Talu Wrth Ennill) ar ran eraill (yn agor tudalen Saesneg).

Sut i gwblhau’r ffurflen

Mae angen i chi wneud y canlynol:

  1. Lawrlwytho’r ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.

  2. Agorwch hi gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader (yn agor tudalen Saesneg) sy’n rhad ac am ddim.

  3. Llenwch y ffurflen ar y sgrin, neu argraffwch hi.

  4. Anfonwch y ffurflen drwy’r post i’r cyfeiriad a ddangosir ar dudalen 3 o’r ffurflen.

Mae’n debyg y byddwn yn delio â’ch cais yn gyflymach os byddwch yn llenwi’r ffurflen ar y sgrin.

Gwneud cais am Lwfans Priodasol drwy’r post (MATCF)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio os byddwch yn ceisio’i hagor yn eich porwr rhyngrwyd. Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

Ar ôl i chi wneud cais

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi i adael i chi wybod os y cytunwyd arno. Gallwch wirio pryd i ddisgwyl ateb.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Gorffennaf 2025 show all updates
  1. Information about how to backdate a claim for Marriage Allowance has been added.

  2. A new version of form MATCF 'Apply for Marriage Allowance by post' has been added.

  3. We have made it clear that you must use form MATCF when claiming Marriage Allowance by post.

  4. Information has been added on what will happen after you apply.

  5. The form to apply by post for Marriage Allowance has been updated to include a new version to use after 26 February 2024.

  6. First published.

Argraffu'r dudalen hon