Gwneud cais am Lwfans Priodasol ar-lein

Mae’r Lwfans Priodasol yn caniatáu i chi drosglwyddo £1,260 o’ch Lwfans Personol i’ch gŵr, eich gwraig neu’ch partner sifil. Mae’n rhad ac am ddim i wneud cais am Lwfans Priodasol.

Gall hyn ostwng treth eich priod neu bartner sifil hyd at £252 bob blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn nesaf).

Er mwyn elwa fel cwpl, mae angen i chi ennill llai na’ch partner a chael incwm o £12,570 neu lai. Er mwyn i chi fod yn gymwys, mae’n rhaid i incwm eich partner fod rhwng £12,571 a £50,270 (£43,662 yn yr Alban).

Gallwch ôl-ddyddio’ch hawliad i gynnwys unrhyw flwyddyn dreth ers 5 Ebrill 2020 pan oeddech yn gymwys i gael y Lwfans Priodasol. Os bu farw eich partner ers hynny, gallwch hawlio o hyd – ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Os cawsoch chi neu’ch partner eich geni cyn 6 Ebrill 1935, efallai y byddwch yn elwa mwy fel cwpl drwy wneud cais am y Lwfans Pâr Priod (yn agor tudalen Saesneg yn lle hynny.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cyn i chi wneud cais

Bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol a rhif Yswiriant Gwladol eich partner arnoch er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Os ydych wedi dod i’r DU, ac nad ydych yn bwriadu gweithio nac astudio, ni allwch gael rhif Yswiriant Gwladol. I wneud cais am Lwfans Priodasol, ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Bydd yn rhaid i chi brofi pwy ydych er mwyn gallu cofrestru ar gyfer Porth y Llywodraeth os nad ydych wedi ei ddefnyddio o’r blaen.

Gallwch ddefnyddio’ch rhif Yswiriant Gwladol, neu’ch cod post, a 2 opsiwn arall o’r canlynol:

  • pasbort dilys y DU

  • trwydded yrru cerdyn-llun y DU a gyhoeddwyd gan y DVLA (neu’r DVA yng Ngogledd Iwerddon)

  • slip cyflog o’r tri mis diwethaf, neu ffurflen P60 gan eich cyflogwr ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf

  • manylion hawliad am gredyd treth, os gwnaethoch un

  • manylion Ffurflen Dreth Hunanasesiad, os gwnaethoch gyflwyno un

  • gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar eich cofnod credyd, os oes gennych un (megis benthyciadau, cardiau credyd neu forgeisi)

Gwneud cais ar-lein

Y ffordd gyflymaf o wneud cais am Lwfans Priodasol yw ar-lein. Cewch e-bost yn cadarnhau’ch cais cyn pen 24 awr.

Dechrau nawr

Ffyrdd eraill o wneud cais

Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch wneud cais am Lwfans Priodasol: