Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Tachwedd 2024
Published 15 January 2025
1. Prif ystadegau ar gyfer Tachwedd 2024
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £219,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 3.0%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.7%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 161.2
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Tachwedd 2024 am 9.30am ddydd Mercher 15 Chwefror 2024. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 3.0% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024, i £219,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i lawr o 3.3% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Hydref 2024 ac yn is na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 3.3% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.7% rhwng Hydref 2024 a Thachwedd 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 0.3% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.1% rhwng Hydref 2024 a Thachwedd 2024.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Medi 2023 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Medi 2024, lleihaodd nifer y trafodion gan 10.2% yng Nghymru a lleihaodd gan 4.5% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 15 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024. Blaenau Gwent welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 8.9% i £141,000 yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024. Mewn cyferbyniad, Gwynedd welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 7.1% i £200,000 yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024.
Yng Nghymru, tai teras oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 4.1% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024, i’r pris cyfartalog o £175,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn tai sengl, gan gynyddu 0.4% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024, i’r pris cyfartalog o £322,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 3.0% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2024 (amcangyfrif dros dro), i lawr o 3.3% yn y 12 mis hyd at Hydref 2024 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Tachwedd 2024 | Tachwedd 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £206,767 | £198,612 | 4.1% |
Blaenau Gwent | £140,633 | £129,195 | 8.9% |
Bro Morgannwg | £292,490 | £281,879 | 3.8% |
Caerdydd | £272,692 | £262,246 | 4% |
Caerffili | £198,789 | £188,560 | 5.4% |
Casnewydd | £236,474 | £231,813 | 2% |
Castell-nedd Port Talbot | £169,686 | £170,292 | -0.4% |
Ceredigion | £252,025 | £254,428 | -0.9% |
Conwy | £222,120 | £219,708 | 1.1% |
Gwynedd | £199,747 | £215,005 | -7.1% |
Merthyr Tudful | £142,333 | £145,962 | -2.5% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £222,511 | £208,113 | 6.9% |
Powys | £241,821 | £242,585 | -0.3% |
Rhondda Cynon Taf | £162,865 | £155,821 | 4.5% |
Sir Benfro | £233,864 | £239,022 | -2.2% |
Sir Ddinbych | £202,080 | £197,933 | 2.1% |
Sir Fynwy | £346,479 | £340,938 | 1.6% |
Sir y Fflint | £218,075 | £218,016 | 0% |
Sir Gaerfyrddin | £211,722 | £199,389 | 6.2% |
Torfaen | £192,398 | £184,922 | 4% |
Wrecsam | £210,593 | £204,245 | 3.1% |
Ynys Môn | £240,082 | £245,440 | -2.2% |
Cymru | £219,446 | £213,104 | 3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Nhachwedd 2024, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £346,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £141,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Tachwedd 2024 | Tachwedd 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £322,303 | £320,942 | 0.4% |
Tŷ pâr | £215,250 | £207,029 | 4.0% |
Tŷ teras | £174,623 | £167,726 | 4.1% |
Fflat neu fflat deulawr | £142,261 | £138,468 | 2.7% |
Holl | £219,446 | £213,104 | 3.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Awdurdodau lleol | Medi 2024 | Medi 2023 |
---|---|---|
Abertawe | 167 | 240 |
Blaenau Gwent | 28 | 70 |
Bro Morgannwg | 94 | 139 |
Caerdydd | 245 | 367 |
Caerffili | 111 | 158 |
Casnewydd | 118 | 207 |
Castell-nedd Port Talbot | 80 | 144 |
Ceredigion | 58 | 63 |
Conwy | 130 | 144 |
Gwynedd | 94 | 130 |
Merthyr Tudful | 27 | 54 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 102 | 157 |
Powys | 97 | 110 |
Rhondda Cynon Taf | 164 | 293 |
Sir Benfro | 84 | 135 |
Sir Ddinbych | 59 | 120 |
Sir Gaerfyrddin | 127 | 173 |
Sir Fynwy | 60 | 87 |
Sir y Fflint | 87 | 158 |
Torfaen | 50 | 74 |
Wrecsam | 72 | 122 |
Ynys Môn | 50 | 56 |
Cymru | 2,104 | 3,201 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Tachwedd 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Medi 2024, lleihaodd nifer y trafodion gan 10.2% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Fedi 2024, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi lleihau gan 3.6% yng Nghymru.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Medi 2020 | 2,859 |
Medi 2021 | 4,773 |
Medi 2022 | 4,153 |
Medi 2023 | 3,201 |
Medi 2024 | 2,104 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Medi 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £344,951 | -0.1% | 26.8% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £213,403 | -1.8% | 0.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Tachwedd 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £191,737 | -0.4% | 4.1% |
Cyn berchen-feddiannydd | £250,913 | -1.0% | 1.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Tachwedd 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £211,881 | -1.0% | 2.2% |
Morgais | £223,894 | -0.5% | 3.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Awst 2024 |
---|---|
Cymru | 2 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288