Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2025
Cyhoeddwyd 16 Gorffennaf 2025
1. Prif ystadegau ar gyfer Mai 2025
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £269,000
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 3.9%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.1%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 103
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mehefin 2025 am 9.30am ddydd Mercher 20 Awst 2025. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
Yn natganiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i’r cyfnod adolygu arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer, a dylent nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.
Cyn hyn, roedd gan Fynegai Prisiau Tai y DU gyfnod cyfeirio o Ionawr 2015. Yn natganiad Chwefror 2025, diweddarwyd cyfnod cyfeirio Mynegai Prisiau Tai y DU i Ionawr 2023, felly erbyn hyn mae mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd bod Ionawr 2023 yn hafal i 100. Mae ailgyfeirio yn sicrhau bod Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu pris eiddo “cyfartalog” sy’n cael ei werthu ar hyn o bryd ac yn symud y gyfres lefel prisiau gyfan ar gyfer pob daearyddiaeth a dadansoddiad gan ganran gyson heb effeithio ar gyfraddau chwyddiant. Darllenwch ragor ar flog y Swyddfa Ystadegau Gwladol Cadw prisiau tai cyfartalog yn gyfoes a datganiad Mynegai Prisiau Tai y DU 19 Chwefror 2025.
2. Datganiad economaidd
3.9% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fai 2025, i fyny o’r amcangyfrif diwygiedig o 3.6% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025.
£269,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU ym Mai 2025 (amcangyfrif dros dro), sy’n £10,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fai 2025 yn Lloegr i £290,000 (3.4%), cynyddodd yng Nghymru i £210,000 (5.1%) a chynyddodd yn yr Alban i £192,000 (6.4%). Cynyddodd pris tŷ cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2025 i £185,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.5%).
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 1.1% rhwng Ebrill 2025 a Mai 2025, o’i gymharu â chynnydd o 0.8% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.7% rhwng Ebrill 2025 a Mai 2025.
O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 6.3% yn y 12 mis hyd at Fai 2025. De Orllewin Lloegr oedd y rhanbarth gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 1.9% yn y 12 mis hyd at Fai 2025.
Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Mai 2025 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod momentwm yn y farchnad werthiannau yn parhau’n weddol dawel a bod prisiau tai yn parhau’n wastad i raddau helaeth ar y lefel bennawd.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU Cyllid a Thollau EF ar gyfer Mai 2025, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 81,000. Mae hyn 11.8% yn is na 12 mis yn ôl (Mai 2024). Rhwng Ebrill 2025 a Mai 2025, cynyddodd trafodion y DU gan 25.1% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol rhwng Ebrill 2025 a Mai 2025, adroddodd Cyllid a Thollau EF fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 52.0% yn Lloegr, wedi cynyddu gan 2.4% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 8.0% yng Nghymru ac wedi cynyddu gan 51.2% yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r cynnydd sydyn yn nifer y trafodion y DU ym Mai 2025 (yn enwedig yn Lloegr a Gogledd Iwerddon) yn adlewyrchu’r ffaith bod nifer y trafodion yn codi tuag at lefelau mwy nodweddiadol yn dilyn nifer y trafodion isel yn Ebrill 2025 a oedd yn cyd-ddigwydd â newidiadau i Dreth Dir y Dreth Stamp ar 1 Ebrill 2025.
Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Mai 2025 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu gan 2,400 i 63,000 ym Mai. Dyma’r cynnydd cyntaf ers Rhagfyr 2024.
Adroddodd crynodeb o amodau busnes – 2025 Chwarter 1 Asiantau Banc Lloegr farchnad werthiannau dawel lle mae darpar brynwyr yn ansicr ynghylch yr amgylchedd economaidd a bod y cynnydd yn Nhreth Dir y Dreth Stamp o Ebrill heb gael unrhyw effaith sylweddol ar amseriad trafodion yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
3.9% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fai 2025, i fyny o’r amcangyfrif diwygiedig o 3.6% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2025.
£269,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU ym Mai 2025 (amcangyfrif dros dro), sy’n £10,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fai 2025 yn Lloegr i £290,000 (3.4%), cynyddodd yng Nghymru i £210,000 (5.1%) a chynyddodd yn yr Alban i £192,000 (6.4%). Cynyddodd pris tŷ cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2025 i £185,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.5%).
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
| Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Cymru | £209,580 | 0.5% | 5.1% |
| Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2025) | £185,037 | 1.0% | 9.5% |
| Lloegr | £290,395 | 1.3% | 3.4% |
| Yr Alban | £191,927 | 0.0% | 6.4% |
| De Ddwyrain Lloegr | £380,650 | 0.4% | 2.1% |
| De Orllewin Lloegr | £304,237 | 1.5% | 1.9% |
| Dwyrain Canolbarth Lloegr | £242,052 | 1.9% | 5.0% |
| Dwyrain Lloegr | £339,747 | 2.0% | 4.2% |
| Gorllewin Canolbarth Lloegr | £244,262 | 2.2% | 3.5% |
| Gogledd Ddwyrain Lloegr | £159,142 | 2.2% | 6.3% |
| Gogledd Orllewin Lloegr | £209,498 | 2.0% | 3.3% |
| Llundain | £565,637 | -1.4% | 2.2% |
| Swydd Gaerefrog a’r Humber | £203,836 | 2.4% | 5.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 1.1% rhwng Ebrill 2025 a Mai 2025, o’i gymharu â chynnydd o 0.8% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.7% rhwng Ebrill 2025 a Mai 2025.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
| Math o eiddo | Mai 2025 | Mai 2024 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £441,439 | £419,008 | 5.4% |
| Tŷ pâr | £270,550 | £258,606 | 4.6% |
| Tŷ teras | £223,539 | £215,670 | 3.6% |
| Fflat neu fflat deulawr | £198,262 | £195,274 | 1.5% |
| Holl | £268,652 | £258,565 | 3.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Yn 2024, roedd Cofrestrfa Tir EF wedi dychwelyd yn llwyddiannus i brosesu dros 40% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU (y targed a bennwyd yn y cyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU). Mae amcangyfrifon nifer y gwerthiannau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer cyfnodau cynharach ac eiddo a adeiledir o’r newydd yn parhau’n is na’r cyfartaleddau hanesyddol, ond yn gwella o hyd. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag yn hanesyddol a dylent nodi’r ansicrwydd uwch ynghylch prisiau eiddo a adeiledir o’r newydd.
Ar ôl adolygu methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn disgwyl gwneud gwelliant i ddulliau cyfrifo’r Mynegai Prisiau Tai o Awst 2025, sy’n debygol o leihau diwygiadau i amcangyfrifon cynnar Mynegai Prisiau Tai y DU. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i fonitro diwygiadau a nodi gwelliannau pellach posibl i ddulliau yn y dyfodol. Gweler papur dulliau cyfrifo misol Mynegai Tai y DU (PDF, 445KB) y Swyddfa Ystadegau Gwladol am fanylion technegol ynghylch gwelliant arfaethedig y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mai 2025 yn seiliedig ar oddeutu 28,900 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 5,700 ar gyfer yr Alban, a 1,800 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 46% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Mai 2025, fel y manylir yn ei gyhoeddiad Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth £40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol â’r polisi diwygiadau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.
Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod diwygio a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad ansawdd Cyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihau’r gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforedig, yn gwmni neu’n fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond yn cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.
Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygiadau, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghyfarwyddyd Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
| Gwlad | Mawrth 2025 | Mawrth 2024 |
|---|---|---|
| Lloegr | 72,105 | 54,167 |
| Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2025) | 1,822 | 1,616 |
| Yr Alban | 7,495 | 7,797 |
| Cymru | 2,231 | 2,867 |
Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2024 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 81.4% yn Lloegr, lleihaodd gan 20.4% yn yr Alban, a chynyddodd gan 54.1% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 20.6% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2025.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 104.2% yn Lloegr, wedi lleihau gan 1.0% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 22.6% yng Nghymru, ac wedi cynyddu gan 53.4% yng Ngogledd Iwerddon.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2021 i 2025 yn ôl gwlad: Mawrth
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mawrth 2024 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mawrth 2025, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 53.8%.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF ar gyfer y DU wedi cynyddu gan 89.9% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Mawrth 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £419,862 | 2.7% | 29.9% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £265,336 | 1.3% | 5.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Mai 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £226,673 | 1.3% | 3.6% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £331,397 | 0.9% | 4.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
6. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
| Statws ariannu | Pris cyfartalog Mai 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £255,125 | 1.2% | 3.0% |
| Morgais | £278,384 | 1.1% | 4.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
8. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.
Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.
9. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288
Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost aimee.north@ons
Ffôn 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ffôn 028 90 336035
Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk
Ffôn 0131 378 4991