Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ionawr 2023

Cyhoeddwyd 22 March 2023

1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2023

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £289,819

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 6.3%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -1.1%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 152.0

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Chwefror 2023 am 9.30am ddydd Mercher 19 Ebrill 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Y newid canrannol blynyddol ar gyfer prisiau tai cyfartalog yn y DU oedd 6.3% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023, o’i gymharu â 9.3% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2022 a 10.2% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2022.

£290,000 oedd pris tŷ cyfartalog yn y DU yn Ionawr 2023, sy’n £17,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog dros y 12 mis i £310,000 (6.9%) yn Lloegr, i £217,000 yng Nghymru (5.8%), i £185,000 yn yr Alban (1.0%) ac i £175,000 yng Ngogledd Iwerddon (10.2%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, lleihaodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.1% rhwng Rhagfyr 2022 ac Ionawr 2023, ond cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.7% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Roedd hyn wedi achosi i gyfradd chwyddiant flynyddol y DU arafu y mis hwn.

Roedd chwyddiant prisiau tai blynyddol yr uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr lle cynyddodd prisiau gan 10.0% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023. Roedd y chwyddiant blynyddol isaf yn yr Alban, lle cynyddodd prisiau gan 1.0% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023. Llundain oedd yr ardal gyda’r twf blynyddol lleiaf yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 3.2% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023.

Fodd bynnag, gwelwyd chwyddiant blynyddol is yn yr Alban nag yn Llundain, gyda phrisiau’n cynyddu 1.0% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023. Arafodd chwyddiant prisiau tai blynyddol yn yr Alban y mis hwn oherwydd lleihaodd prisiau tai cyfartalog gan 0.5% rhwng Rhagfyr 2022 ac Ionawr 2023, ond cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn yr Alban gan 3.4% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Ionawr 2023 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) gefndir marchnad tawel ar hyn o bryd, gyda galw gan brynwyr newydd, gwerthiannau, rhestriadau newydd a phrisiau i gyd ar i lawr. Awgryma disgwyliadau tymor agos fod y darlun hwn yn debygol o barhau am gyfnod hwy wrth i’r farchnad addasu i’r amgylchedd cyfradd llog uwch.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2022 Chwarter 4 fod y cyflenwad o dai sydd ar werth wedi cynyddu’n gyflymach na’r galw gyda chostau rhoi benthyg uwch a phryderon ynghylch fforddiadwyedd yn rhoi pwysau sylweddol ar y galw gan brynwyr am y tro cyntaf.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Ionawr 2023, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 96,650. Mae hyn 10.6% yn is na 12 mis yn ôl (Ionawr 2022). Rhwng Rhagfyr 2022 ac Ionawr 2023, lleihaodd trafodion yn y DU gan 2.6% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr ar gyfer Ionawr 2023 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi lleihau i 39,600 yn Ionawr 2023, o 40,500 yn Rhagfyr 2022. Hwn oedd y pumed lleihad misol yn olynol mewn cymeradwyaethau morgais ar gyfer prynu tai. Os yw dyfodiad pandemig Covid-19 a’r cyfnod yn union wedi hynny heb ei gynnwys, mae cymeradwyaethau prynu tai ar eu lefel isaf ers Ionawr 2009 (32,400).

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 6.3% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023, i lawr o 9.3% yn Rhagfyr 2022.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023 yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau tai gan 6.9%.

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau tai gan 5.8% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023.

Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 1.0% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai gan 10.2% yn y 12 mis hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2022.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £216,871 -2.3% 5.8%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2022) £175,234 -0.5% 10.2%
Lloegr £310,159 -1.2% 6.9%
Yr Alban £185,016 -0.5% 1.0%
De Ddwyrain Lloegr £398,368 -1.2% 6.3%
De Orllewin Lloegr £329,691 -0.4% 7.1%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £251,177 -1.7% 8.6%
Dwyrain Lloegr £358,114 -1.1% 6.8%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £256,694 0.2% 9.9%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £163,371 0.6% 10.0%
Gogledd Orllewin Lloegr £214,431 -2.4% 7.2%
Llundain £533,986 -1.0% 3.2%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £207,635 -2.5% 6.5%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.1% rhwng Rhagfyr 2022 ac Ionawr 2023. Roedd hyn i lawr o gynnydd o 1.7% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl (Rhagfyr 2021 ac Ionawr 2022). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.6% rhwng Rhagfyr 2022 ac Ionawr 2023.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Ionawr 2023 Ionawr 2022 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £458,066 £429,085 6.8%
Tŷ pâr £282,643 £263,006 7.5%
Tŷ teras £237,057 £221,562 7.0%
Fflat neu fflat deulawr £227,951 £222,729 2.3%
Holl £289,818 £272,739 6.3%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Gwlad Tachwedd 2022 Tachwedd 2021
Lloegr 52,896 60,199
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2022) 2,047 2,260
Yr Alban 8,866 9,589
Cymru 2,972 4,265

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 65.4% yn Lloegr, lleihaodd gan 6.2% yn yr Alban a chynyddodd gan 28.2% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 0.1% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 2022.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2022, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 13.5% yn Lloegr, wedi lleihau gan 8.1% yng Nghymru, wedi lleihau gan 5.2% yn yr Alban, ac wedi lleihau gan 8.0% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Tachwedd

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2022, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 45.8%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 10.0% yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2022.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Tachwedd 2022 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £413,809 6.7% 22.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £287,390 0.1% 9.5%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Ionawr 2023 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £240,938 -1.6% 6.1%
Cyn berchen-feddiannydd £339,781 -0.9% 6.4%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Ionawr 2023 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £274,218 -1.0% 5.9%
Morgais £302,486 -1.2% 6.4%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

9. Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost aimee.north@ons

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn 07919 570915