Ystadegau swyddogol achrededig

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ionawr 2022

Cyhoeddwyd 23 March 2022

1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2022

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £273,762

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 9.6%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.4%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 143.6

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Chwefror 2022 am 9.30am ddydd Mercher 13 Ebrill 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 9.6% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022, i lawr o 10.0% yn Rhagfyr 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.4% rhwng Rhagfyr 2021 ac Ionawr 2022, i lawr o gynnydd o 0.7% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Rhagfyr 2020 ac Ionawr 2021).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau gan 13.9% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle cynyddodd prisiau gan 2.2% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022.

Mae Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Chwefror 2022 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yn adrodd bod gwerthiannau tai wedi cryfhau yn Chwefror ynghyd â chynnydd yn nifer yr ymholiadau gan brynwyr newydd, er gwaethaf penderfyniad Banc Lloegr i gynyddu cyfraddau llog.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes 2021 Chwarter 4 Asiantau Banc Lloegr fod y galw cryf am dai a phrinder eiddo i’w gwerthu yn parhau, gan wthio prisiau i fyny.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Ionawr 2022, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 106,990. Mae hyn 10.6% yn is na flwyddyn yn ôl (Ionawr 2021). Rhwng Rhagfyr 2021 ac Ionawr 2022, cynyddodd trafodion y DU gan 5.1% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, yn dilyn cynnydd mawr yn y mis blaenorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Ionawr 2022 Banc Lloegr fod y ffigwr o ran morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol) wedi cynyddu i 74,000 yn Ionawr 2022, i fyny o 71,000 yn Rhagfyr 2021. Mae hyn yn uwch na’r cyfartaledd 12 mis cyn y pandemig hyd at Chwefror 2020 o 66,700 a’r nifer fwyaf ers Gorffennaf 2021 (75,900).

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 9.6% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022, i lawr o 10.0% yn Rhagfyr 2021.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 13.9%.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 10.8% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022.

Yn Lloegr cynyddodd prisiau tai gan 9.4% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022.

Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 7.9% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2021.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £206,251 1.3% 13.9%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2021) £159,151 0.1% 7.9%
Lloegr £291,560 0.1% 9.4%
Yr Alban £182,786 2.2% 10.8%
De Ddwyrain Lloegr £378,311 0.5% 11.1%
De Orllewin Lloegr £307,468 -1.1% 10.9%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £235,503 1.8% 11.6%
Dwyrain Lloegr £341,629 1.4% 11.5%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £235,809 -0.1% 10.3%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £150,787 1.7% 8.3%
Gogledd Orllewin Lloegr £199,791 -0.3% 9.6%
Llundain £510,102 -1.8% 2.2%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £194,525 -0.2% 7.3%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.4% rhwng Rhagfyr 2021 ac Ionawr 2022, i lawr o 0.7% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Rhagfyr 2020 ac Ionawr 2021). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% rhwng Rhagfyr 2021 ac Ionawr 2022.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Ionawr 2022 Ionawr 2021 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £431,680 £383,313 12.6%
Tŷ pâr £263,812 £238,660 10.5%
Tŷ teras £221,680 £203,395 9.0%
Fflat neu fflat deulawr £224,186 £213,332 5.1%
Holl £273,762 £249,690 9.6%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Tachwedd 2021 Tachwedd 2020
Lloegr 31,974 76,747
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2021) 2,050 2,826
Yr Alban 9,457 12,445
Cymru 2,319 4,236

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 50.4% yn Lloegr, lleihaodd gan 20.1% yn yr Alban, a lleihaodd gan 35.3% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 16.9% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 16.4% yn Lloegr, gan 22.5% yn yr Alban, gan 9.9% yng Ngogledd Iwerddon, ac wedi cynyddu gan 1.9% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Tachwedd

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2021, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 44.4% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 16.1% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Tachwedd 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £367,219 5.8% 25.4%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £264,684 1.8% 8.6%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Ionawr 2022 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £227,846 0.4% 8.9%
Cyn berchen-feddiannydd £321,360 0.4% 10.6%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Ionawr 2022 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £260,569 0.5% 9.8%
Morgais £285,480 0.3% 9.7%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EM

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost ceri.lewis@ons.gov.uk

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn 07919 570915