Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Tachwedd 2021

Cyhoeddwyd 19 January 2022

1. Prif ystadegau ar gyfer Tachwedd 2021

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £270,708

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 10.0%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.2%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 142.0

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Rhagfyr 2021 am 9.30am ddydd Mercher 16 Chwefror 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 10.0% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021, i fyny o 9.8% yn Hydref 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.2% rhwng Hydref a Thachwedd 2021, o’i gymharu â chynnydd o 1.0% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Hydref a Thachwedd 2020).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Nghymru lle cynyddodd prisiau gan 12.1% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle cynyddodd prisiau gan 5.1% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021.

Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Hydref 2021 fod ymholiadau gan brynwyr newydd wedi cynyddu dros y mis ond bod eiddo newydd ar werth wedi lleihau ymhellach. Mae’r cefndir hwn o gyflenwad cyfyngedig hefyd yn sail ar gyfer twf mewn prisiau.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr ar gyfer 2021 Chwarter 4 fod y galw cryf am dai a phrinder eiddo i’w gwerthu yn parhau, a bod hynny wedi gwthio prisiau i fyny.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Tachwedd 2021, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 96,290. Mae hyn 16.4% yn is na blwyddyn yn ôl. Rhwng Hydref a Thachwedd 2021, cynyddodd trafodion y DU gan 24.3% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, yn dilyn cynnydd mawr yn y mis blaenorol.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Tachwedd 2021 mai’r ffigwr o ran morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd ar gyfer rhoi benthyg yn y dyfodol) oedd 67,000 yn Nhachwedd 2021, sydd i lawr o 67,200 yn Hydref 2021.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 10.0% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021, i fyny o 9.8% yn Hydref 2021.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 12.1%.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 11.4% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021.

Yn Lloegr cynyddodd prisiau tai gan 9.8% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021.

Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 10.7% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2021.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £199,877 -0.7% 12.1%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2021) £159,109 3.0% 10.7%
Lloegr £288,130 1.4% 9.8%
Yr Alban £182,755 1.0% 11.4%
De Ddwyrain Lloegr £369,093 0.5% 9.6%
De Orllewin Lloegr £308,497 2.5% 12.9%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £229,277 0.4% 10.7%
Dwyrain Lloegr £336,937 2.1% 12.3%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £230,888 1.9% 9.8%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £149,249 1.8% 8.7%
Gogledd Orllewin Lloegr £197,797 2.3% 10.8%
Llundain £519,934 0.2% 5.1%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £191,036 1.0% 7.2%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.2% rhwng Hydref a Thachwedd 2021, o’i gymharu â chynnydd o 1.0% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Hydref a Thachwedd 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.4% rhwng Hydref a Thachwedd 2021.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Tachwedd 2021 Tachwedd 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £428,134 £376,014 13.9%
Tŷ pâr £261,325 £234,463 11.5%
Tŷ teras £217,340 £201,321 8.0%
Fflat neu fflat deulawr £223,078 £211,188 5.6%
Holl £270,708 £246,065 10.0%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Medi 2021 Medi 2020
Cymru 1,590 2,859
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2021) 2,510 1,766
Lloegr 40,929 62,864
Yr Alban 9,250 10,619

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 23.4% yn Lloegr, lleihaodd gan 9.0% yn yr Alban a lleihaodd gan 36.9% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 62.6% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 77.5% yn Lloegr, wedi lleihau gan 10.0% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 48.5% yng Nghymru a chan 73.7% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Medi

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2021, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 23.4% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 77.5% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Medi 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £359,717 2.9% 21.7%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £265,918 3.4% 11.6%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Tachwedd 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £225,175 1.4% 9.1%
Cyn berchen-feddiannydd £317,774 1.1% 11.0%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws ariannu Pris cyfartalog Tachwedd 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £256,739 1.1% 9.5%
Morgais £282,557 1.3% 10.3%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Eileen Morrison, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost ceri.lewis@ons.gov.uk

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn 07919 570915