Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2025
Cyhoeddwyd 16 Ebrill 2025
1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2025
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £268,000
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 5.4%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.0%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 102.8
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2025 am 9.30am ddydd Mercher 21 Mai 2025. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
Yn natganiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i’r cyfnod adolygu arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer, a dylent nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.
Cyn ei ryddhau ar 19 Chwefror 2025, roedd gan Mynegai Prisiau Tai y DU gyfnod cyfeirio o fis Ionawr 2015. Mae lefelau prisiau Mynegai Prisiau Tai y DU yn deillio o gymryd pris cyfartalog Ionawr 2015 set gyfeirio o eiddo, a chymhwyso cyfraddau chwyddiant cyfnod unigol i gynhyrchu’r gyfres amser llawn. Yn natganiad Chwefror 2025, daeth Ionawr 2023 yn gyfnod cyfeirio newydd, ac roedd cyfraddau chwyddiant cyfnodau unigol i gynhyrchu’r gyfres amser llawn ar ei gyfer. O ddatganiad 19 Chwefror 2025, bydd mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd Ionawr 2023 = 100. Bydd y gyfres lefel prisiau yn symud i fyny neu i lawr gan symudiad canrannol cyson, ond ni fydd cyfraddau chwyddiant yn newid, fel yr eglurir yn Adran 3: Dulliau a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU yn Ansawdd a methodoleg CTEF.
2. Datganiad economaidd
5.4% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Chwefror 2025, i fyny o’r amcangyfrif diwygiedig o 4.8% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2025.
£268,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Chwefror 2025 (amcangyfrif dros dro), sy’n £13,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Chwefror 2025 yn Lloegr i £292,000 (5.3%), cynyddodd yng Nghymru i £207,000 (4.1%) a chynyddodd yn yr Alban i £186,000 (5.7%). Cynyddodd pris tŷ cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2024 i £183,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.0%).
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, parhaodd prisiau tai cyfartalog y DU yr un fath rhwng Ionawr 2025 a Chwefror 2025 (0.0%), o’i gymharu â gostyngiad o 0.5% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.5% rhwng Ionawr 2025 a Chwefror 2025.
O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Orllewin Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 8.0% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2025. Llundain oedd y rhanbarth gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 1.7% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2025.
Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Chwefror 2025 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod mesurau ymholiadau gan brynwyr newydd a gwerthiannau a gytunwyd wedi troi ychydig yn negyddol. Adroddodd RICS hefyd fod prisiau tai yn dal i godi ar y lefel genedlaethol, ond bod y momentwm i’w weld yn gostegu.
Adroddodd crynodeb o amodau busnes – 2024 Chwarter 4 Asiantau Banc Lloegr fod y cyflenwad o eiddo ar werth yn parhau i wella, ond nid yw prynwyr, yn gyffredinol, yn gweld hwn fel amser da i brynu.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU Cyllid a Thollau EF ar gyfer Chwefror 2025, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 108,000. Mae hyn 28.1% yn uwch na 12 mis yn ôl (Chwefror 2024). Rhwng Ionawr 2025 a Chwefror 2025, cynyddodd trafodion y DU gan 13.0% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.
Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Chwefror 2025 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi lleihau gan 600 i 65,500 yn Chwefror 2025, yn dilyn cynnydd o 400 yn Ionawr 2025.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5.4% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Chwefror 2025, i fyny o’r amcangyfrif diwygiedig o 4.8% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2025.
£268,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Chwefror 2025 (amcangyfrif dros dro), sy’n £13,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Chwefror 2025 yn Lloegr i £292,000 (5.3%), cynyddodd yng Nghymru i £207,000 (4.1%) a chynyddodd yn yr Alban i £186,000 (5.7%). Cynyddodd pris tŷ cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2024 i £183,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.0%).
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £207,382 | -0.7% | 4.1% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2024) | £183,259 | 1.5% | 9.0% |
Lloegr | £291,640 | 0.3% | 5.3% |
Yr Alban | £185,870 | -1.5% | 5.7% |
De Ddwyrain Lloegr | £384,659 | -0.3% | 4.6% |
De Orllewin Lloegr | £308,207 | 0.7% | 3.9% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £241,209 | 0.4% | 6.0% |
Dwyrain Lloegr | £338,468 | 0.0% | 4.2% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £246,636 | 1.1% | 6.0% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £160,452 | 0.4% | 7.9% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £211,977 | 0.7% | 8.0% |
Llundain | £555,625 | -1.1% | 1.7% |
Swydd Gaerefrog a Humber | £205,455 | 1.6% | 7.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, parhaodd prisiau tai cyfartalog y DU yr un fath rhwng Ionawr 2025 a Chwefror 2025 (0.0%), o’i gymharu â’r gostyngiad o 0.5% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Ionawr 2025 a Chwefror 2025.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Chwefror 2025 | Chwefror 2024 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £438,255 | £415,397 | 5.5% |
Tŷ pâr | £270,925 | £255,295 | 6.1% |
Tŷ teras | £225,486 | £212,262 | 6.2% |
Fflat neu fflat deulawr | £196,110 | £190,328 | 3.0% |
Holl | £268,319 | £254,633 | 5.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae cyfanswm y trafodion a nifer yr adeiladau newydd sydd ar gael i gyfrifo amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU wedi cynyddu’n ddiweddar. Mae Cofrestrfa Tir EF wedi prosesu dros 40% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU yn y misoedd diwethaf, er bod nifer y trafodion ar gyfer cyfnodau cynharach a nifer yr adeiladau newydd yn parhau’n is na chyfartaleddau hanesyddol. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag yn hanesyddol a nodi’r ansicrwydd uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghrynodeb Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Mae gwelliannau posibl i’r fethodoleg yn cael eu hymchwilio, gan geisio lleihau’r diwygiadau yn amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU. Darllenwch ragor ym mhapur dulliau cyfrif misol Mynegai Prisiau Tai y DU ONS.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2025 yn seiliedig ar oddeutu 36,600 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 3,800 ar gyfer yr Alban, a 1,800 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 48% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Chwefror 2025, fel y manylir yn ei gyhoeddiad Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth £40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol â’r polisi diwygiadau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.
Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod diwygio a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad ansawdd Cyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihau’r gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforedig, yn gwmni neu’n fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond yn cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.
Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygiadau, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghyfarwyddyd Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Gwlad | Rhagfyr 2024 | Rhagfyr 2023 |
---|---|---|
Lloegr | 38,446 | 51,916 |
Gogledd Iwerddon | 2,116 | 1,914 |
Yr Alban | 7,462 | 7,227 |
Cymru | 2,102 | 3,015 |
Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2024, cynyddodd nifer y trafodion gan 55.2% yn Lloegr, gan 4.4% yn yr Alban, a chan 34.0% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 19.3% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 2024.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2024, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 16.8% yn Lloegr, gan 5.0% yn yr Alban, gan 11.0% yng Nghymru, a chan 9.3% yng Ngogledd Iwerddon.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2020 i 2024 yn ôl gwlad: Rhagfyr
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2024, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 42.2%.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF ar gyfer y DU wedi cynyddu gan 15.3% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2024.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog Rhagfyr 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £406,390 | 6.2% | 28.7% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £261,297 | -0.4% | 3.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog Chwefror 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £227,114 | 0.1% | 5.6% |
Cyn berchen-feddiannydd | £329,952 | -0.1% | 5.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
6. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
Statws cyllido | Pris cyfartalog Chwefror 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £255,569 | 0.0% | 4.7% |
Morgais | £277,793 | 0.1% | 5.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
8. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.
Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.
9. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288
Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost aimee.north@ons
Ffôn 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ffôn 028 90 336035
Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk
Ffôn 0131 378 4991