Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Chwefror 2024

Cyhoeddwyd 17 April 2024

1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2024

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £281,000

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -0.2%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.4%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 147.2

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2024 am 9.30am ddydd Mercher 22 Mai 2024. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Roedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU yn negyddol 0.2% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024, o’i gymharu â negyddol 1.3% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024.

£281,000 oedd pris tŷ cyfartalog yn y DU yn Chwefror 2024 (amcangyfrif dros dro) sydd heb newid er 12 mis yn ôl. Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024 yn Lloegr i £298,000 (negyddol 1.1%), gostyngodd yng Nghymru i £211,000 (negyddol 1.2%) a chynyddodd yn yr Alban i £188,000 (5.6%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2023 i £178,000 yng Ngogledd Iwerddon (1.4%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.4% rhwng Ionawr 2024 a Chwefror 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 0.7% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.

O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 2.9% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024. Llundain oedd yr ardal gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle gostyngodd prisiau gan 4.8% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Chwefror 2024 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) gynnydd yn y galw gan brynwyr am yr ail fis yn olynol. Pan gânt eu dadgyfuno, mae’r rhan fwyaf o ardaloedd yn y DU wedi gweld adferiad yn yr ymholiadau gan brynwyr dros y ddau fis diwethaf. Hefyd adroddodd RICS y cynnydd mwyaf ar gyfer cyfarwyddiadau newydd er Hydref 2020, sy’n gwrthgyferbynnu’n llwyr â’r darlleniadau negyddol a welwyd trwy gydol 2023.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2023 Chwarter 4 welliant graddol yn y farchnad dros y mis, sy’n debygol o fod wedi cael ei ysgogi gan y gostyngiad parhaus mewn cyfraddau llog morgeisi.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU CThEF ar gyfer Chwefror 2024, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 83,000. Mae hyn 5.6% yn is na 12 mis yn ôl (Chwefror 2023). Rhwng Ionawr 2024 a Chwefror 2024, cynyddodd trafodion y DU gan 1.2% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Chwefror 2024 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu i 60,400 yn Chwefror 2024 o 56,100 yn Ionawr 2024.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024, i fyny o ostyngiad o 1.3% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024 yn yr Alban, lle cynyddodd prisiau tai gan 5.6%.

Yn Lloegr, gostyngodd prisiau tai cyfartalog gan 1.1% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024.

Yng Nghymru, gostyngodd prisiau tai cyfartalog gan 1.2% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai cyfartalog gan 1.4% yn y 12 mis hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2023.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £210,717 0.4% -1.2%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2023) £177,611 -0.9% 1.4%
Lloegr £297,735 0.6% -1.1%
Yr Alban £187,807 -0.6% 5.6%
De Ddwyrain Lloegr £373,018 1.1% -2.1%
De Orllewin Lloegr £316,834 0.5% -0.4%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £241,950 1.4% -0.4%
Dwyrain Lloegr £339,144 1.7% -1.6%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £242,429 -1.2% -2.9%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £160,406 3.2% 2.9%
Gogledd Orllewin Lloegr £213,890 -0.2% 1.4%
Llundain £502,690 -0.7% -4.8%
Swydd Gaerefrog a Humber £204,754 0.9% 0.2%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.4% rhwng Ionawr 2024 a Chwefror 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 0.7% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl (Ionawr 2023 a Chwefror 2023). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% rhwng Ionawr 2024 a Chwefror 2024.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Chwefror 2024 Chwefror 2023 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £435,398 £433,435 0.5%
Tŷ pâr £274,252 £272,358 0.7%
Tŷ teras £229,443 £231,778 -1.0%
Fflat neu fflat deulawr £227,188 £229,572 -1.0%
Holl £280,660 £281,262 -0.2%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

Yn ddiweddar, mae cyfanswm y trafodion sydd ar gael i gyfrifo amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer y misoedd diweddaraf wedi bod yn is nag yn hanesyddol (gweler UK HPI QMI Section 2.2: Accuracy). Mae hyn wedi deillio o gyfuniad o gyfanswm nifer y trafodion yng Nghymru a Lloegr yn disgyn dros y flwyddyn ddiwethaf (mae CThEF wedi nodi gostyngiad o 22% yn y 12 mis hyd at fis Tachwedd 2023) a gostyngiad yng nghyfran y trafodion, a broseswyd gan Gofrestrfa Tir EF, am yr amcangyfrif cyntaf. Y sampl ar gyfer yr amcangyfrif diweddaraf yw tua hanner y trafodion arferol. Effeithiwyd yn arbennig ar brosesu adeiladau newydd.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF yn cydweithio i ddatrys hyn, gan gynnwys ceisio mwy o gydbwysedd rhwng prosesu ceisiadau a dderbyniwyd yn ddiweddar a’r rheini sy’n hŷn, er mwyn helpu i ddiogelu ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

Yn 2020, cyflwynwyd cronni ar gyfer trafodion adeiladau newydd am fisoedd penodol yng Nghymru a Lloegr. Yn Rhagfyr 2023, gwnaed gwelliant methodoleg i fodel Prydain Fawr, a oedd yn cynyddu cydlyniad y DU ac yn gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU. O Ragfyr 2023, cynyddwyd prosesu Mynegai Prisiau Tai y DU gan Gofrestrfa Tir EF, felly disgwylir i gyfran cyfanswm y trafodion a broseswyd ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf gynyddu o’r rhyddhau ar 14 Chwefror 2024. Ym Mawrth 2024 ac Ebrill 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2021 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis.

Bydd Mynegai Prisiau Tai y DU nawr yn dychwelyd i’r cyfnod adolygu arferol o 12 mis ar gyfer datganiadau yn y dyfodol. Yn y cyfamser, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer ac fe’u cynghorir i nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Gwlad Rhagfyr 2023 Rhagfyr 2022
Lloegr 24,772 64,535
Gogledd Iwerddon 1,773 2,242
Yr Alban 7,148 7,904
Cymru 1,569 3,670

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2022 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 48.9% yn Lloegr, gan 7.6% yn yr Alban a chan 44.3% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 13.4% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 2023.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023, fod nifer y trafodion CThEF wedi lleihau gan 22.4% yn Lloegr, gan 7.8% yn yr Alban, gan 17.9% yng Nghymru a chan 10.1% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2019 i 2023 yn ôl gwlad: Rhagfyr

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2022 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2023, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 42.3%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CThEF yn y DU wedi lleihau gan 20.8% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Rhagfyr 2023 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £381,775 -1.6% 16.4%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £277,460 -0.5% -2.5%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Chwefror 2024 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £234,654 0.7% -0.3%
Cyn berchen-feddiannydd £326,376 0.2% -0.3%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Chwefror 2024 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £266,015 0.2% -0.5%
Morgais £292,229 0.6% -0.2%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.

Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll.  O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost aimee.north@ons

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk

Ffôn 0131 378 4991